You are here

Rhag-ddangosiad: His Dark Materials + Sesiwn Holi

Thursday, 17 October 2019 - 7:00pm
Odeon, Cardiff
Mae BAFTA Cymru, BBC Cymru, Bad Wolf a Sgrîn Cymru yn eich gwahodd i gymryd eich camau cyntaf i fyd Lyra ym première byd His Dark Materials.

Mae’r addasiad teledu hwn gan y BBC yn seiliedig ar drioleg ffantasi fyd-eang Philip Pullman, sydd wedi’i chyhoeddi mewn dros 40 o ieithoedd ac wedi gwerthu 18 miliwn o gopïau ledled y byd.
 
Yn serennu James McAvoy, Ruth Wilson, Dafne Keen a Lin-Manuel Miranda, cynhyrchir y gyfres wyth rhan gymhleth a dychmygus hon gan Bad Wolf a New Line Cinema ar gyfer BBC One a HBO; ysgrifennwyd gan Jack Thorne a'i gyfarwyddo gan Tom Hooper, Dawn Shadforth, Otto Bathurst, Euros Lyn a Jamie Childs.

Dilynir y dangosiad gan sesiwn holi-ac-ateb gydag aelodau’r cast Ruth Wilson (Luther, The Affair, Saving Mr Banks), Dafne Keen (Logan), Jane Tranter (Cynhyrchydd Gweithredol) a Joel Collins (Dylunydd Cynhyrchu).


I archebu tocyn aelodau canmoliaethus, e-bostiwch Hannah

Ni fyddwn yn gallu cynnig tocynnau gwesteion ar gyfer y digwyddiad hwn.


Mewn partneriaeth gyda: 

  Bad Wolf Logo