You are here

Rhag-ddangosiad: Britannia + Sesiwn holi ac ateb

Britannia, Sky
Wednesday, 10 January 2018 - 6:00pm
Chapter, Caerdydd
Dangosiad rhagolwg unigryw o'r ddrama newydd ar gyfer Sky gan yr awdur arobryn Jez Butterworth (Sbectre, Jerwsalem). Wedi'i osod yn 43AD, mae'r ddrama yn dilyn y fyddin Rufeinig wrth iddynt ddychwelyd i drechu calon Celtaidd Britannia, tir dirgel dan arweiniad menywod rhyfel a Druidiau pwerus sy'n honni i sianelu grymoedd pwerus yr isel-fyd. Gyda golygfeydd wedi ei saethu mewn nifer o leoliadau Cymreig. Yn dilyn y dangosiad bydd sesiwn trafod gyda'r criw.

Mae Britannia yn serennu'r actorion enwebedig BAFTA David Morrissey (The Walking Dead), Zoe Wanamaker (My Family), yr enillydd BAFTA Mackenzie Crook (Y Swyddfa) a Kelly Reilly. Pan fydd y Rhufeiniaid yn ymosod ar Brydain yn 43AD, mae Kerra (Reilly), merch Brenin y Cantii, yn gorfod rhoi ei gwahaniaethau i'r neilltu gyda Queen Antedia (Wanamaker) er mwyn gwynebu eu hymosodwyr. Mae'r Rhufeiniaid, dan arweiniad General Aulus Plautius (Morrissey), yn benderfynol o lwyddo lle mae Julius Caesar wedi methu a concro'r tir chwedlonol hwn ar gyrion yr Ymerodraeth Rufeinig. Wrth i'r druidiaid uno i ymladd y Rhufeiniaid, mae Kerra yn ymroi i rôl bwysicaf ei bywyd wrth iddi arwain y gwrthdaro yn erbyn potensial y fyddin Rufeinig.

Roedd y lleoliadau ffilmio yng Nghymru yn cynnwys Nash Point, Henrhyd Falls, Bae Rhosili a Llyn y Fan Fach.

Gwyliwch:
 

 

Cafodd Britannia ei gynhyrchu gan Vertigo Films (Bronson, Monsters) a Neal Street Productions (Penny Dreadful, Call the Midwife). 


Mae modd prynu tocynnau cyhoeddus o Chapter