Mae'r cyfarwyddwr Steve Sullivan yn gweu darnau ynghyd â phersonoliaeth Sievey trwy ddefnydd archif helaeth, o lyfrau nodiadau personol, ffilmiau, celf a cherddoriaeth, ynghyd a cyfweliadau yn cynnwys Johnny Vegas, Jon Ronson, John Cooper Clarke, Ross Noble, a mwy.
Mae'r hyn y mae'n ei ddatgelu yn bortread agos o arlunydd sensitif. Mae'r ffilm wedi cael ei gynhyrchu, ei gyfarwyddo a'i olygu gan y cynhyrchydd a chyfarwyddwr Steve Sullivan. Fe wnaeth Steve gydweithio â Frank Sidebottom a Chris Sievey ar raglen 2006 Magical Timperley Tour, taith bws ar agor o amgylch mannau hardd a mwynderau dinesig Timperley.
Mae ffilmiau blaenorol Steve wedi ennill gwobrau yn rhyngwladol. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei ffilm fer A Heap Of Trouble, ffilm fer cerddorol am ddynion noeth, a enillodd wobr fawr y rheithgor yn y Gŵyl Comedi Montreal a Gwobr BAFTA Cymru ar gyfer y Ffilm Fer Orau, a chafodd ei weld mewn dros 100 o wyliau ffilm ledled y byd
Mae'r ffilm yn y sinemau Prydeinig yn ystod Gwanwyn 2019. Dilynir y dangosiad gan sesiwn holi gyda Steve.
Mae nifer o docynnau ar gyfer aelodau ar gael gan Vicki.
Gall aelodaeu o'r cyhoedd brynu tocynnau o Chapter.