You are here

Rhag-ddangosiad Aelodau: Mary Poppins Returns

nullJay Maidment
Wednesday, 12 December 2018 - 6:00pm
Chapter, Caerdydd
Mae'r nani perffaith yn dychwelyd i'r sgrîn fawr i gynorthwyo'r genhedlaeth nesaf o'r teulu Banks mewn stori newydd ysblennydd.

Gan ddefnyddio ei sgiliau hudol, mae Mary Poppins yn mynd â'r plant Banks ar antur animeiddiedig, yn llawn pethau annisgwyl a cerddoroiaeth, er mwyn helpu i ddod â llawenydd a rhyfeddu yn ôl i'w bywydau.

Yn seiliedig ar y gyfres llyfrau gan PL Travers a "sequel" i'r ffilm Mary Poppins (1964), mae'r ffilm yn serennu Emily Blunt fel y brif gymeriad, gyda Lin-Manuel Miranda, Ben Whishaw, Emily Mortimer, Julie Walters, Dick Van Dyke, Angela Lansbury, Colin Firth a Meryl Streep mewn rolau ategol.


Ymunwch â ni am ddiod Nadoligaidd cyn y dangosiad yng Nghyntedd Chapter o 5.00pm. Bydd y digwyddiad hwn yn dilyn y CCB y gwahoddir ein holl aelodau pleidleisio i fynychu. Danfonwch RSVP ar wahan ar gyfer CCB a'r digwyddiad hwn os gwelwch yn dda.

Ar gyfer Aelodau yn unig.

Ebostiwch Vicki i archebu lle.