Mae Gareth Edwards yn gyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, sgriptiwr, sinematograffydd, dylunydd cynhyrchu, ac artist effeithiau gweledol. Fe ennillodd cydnabyddiaeth eang i Monsters (2010), ffilm annibynnol lle bu'n awdur, cyfarwyddwr, sinematograffydd, ac artist effeithiau gweledol.
Yn ddiweddarach cyfarwyddodd Godzilla (2014), a'r ffilm epig Rogue One: A Star Wars Story (2016), y cyntaf yn y gyfres Star Wars Anthology.
Roedd Gareth yn BAFTA Brit to Watch yn 2011 ac roedd yn rhan o'r tîm effeithiau gweledol y tu ôl i'r enillydd drama-ddogfen BAFTA 2006 - Hiroshima, ar ôl cael ei henwebu yn 2011 ar gyfer Horizon. Cafodd ei enwebu hefyd ar gyfer y BAFTA Debut Eithriadol ar gyfer Ysgrifennwr, Cyfarwyddwr neu Cynhyrchydd Prydeinig yn 2011.
Cafodd Edwards ei eni yn Swydd Warwick i rieni Cymreig ac ymwelodd â deulu estynedig yng Nghymru yn rheolaidd. Derbyniodd BA Ffilm a Fideo yn y Brifysgol Celfyddydau Creadigol yn Farnham, cafodd radd Meistr anrhydeddus yn y Celfyddydau o UCA.
Dechreuodd Edwards ei yrfa mewn effeithiau gweledol; creu effeithiau digidol ar gyfer sioeau mawreddog fel Nova, Heroes and Villains, ble wnaeth 250 o effeithiau gweledol a enillodd gydnabyddiaeth ryngwladol.
Yn 2008 aeth i Her Ffilm Sci-Fi-Llundain 48-awr, lle roedd rhaid creu ffilm cychwyn-i-gorffen mewn dim ond dau ddiwrnod, o fewn meini prawf penodol. Enillodd Edwards y gystadleuaeth ac aeth ymlaen i ysgrifennu Monsters, ei nodwedd gyntaf. Wnaeth Edwards greu'r effeithiau arbennig ar gyfer Monsters gan ddefnyddio offer oddi ar y silff. Heblaw am y ddau brif actorion, roedd y criw o ddim ond pump o bobl. Ar ôl rhyddhau y ffilm, fe gafodd gyfweliadau yn Hollywood gyda nifer o stiwdios ac ym mis Ionawr 2011, glaniodd Edwards ei ffilm nodwedd Hollywood mawr cyntaf - Godzilla.
Cyfarwyddodd Edwards Rogue One, y ffilm Star Wars annibynnol gyntaf, a ysgrifennwyd gan Chris Weitz a Tony Gilroy, yn serennu Felicity Jones, a'i ryddhawyd ar 16 Rhagfyr 2016.
Mae'r noson yn ddigwyddiad codi arian ar gyfer gwaith elusennol ac addysgiadol BAFTA Cymru.
Noddwyd gan