Ymunwch â golygydd To Provide all People (Vox Pictures ar gyfer BBC Cymru Wales) i ddarganfod y gwaith o thrawsnewid deunydd amrwd a ffilmiwyd ar set drama deledu o'r math hwn i mewn i gynhyrchiad terfynol sgleiniog i'w ddarlledu.
Dechreuodd Kevin Jones ei yrfa fel golygydd ar y gyfres Gymraeg Trongl. Enillodd y gwaith enwebiad iddo am Wobr BAFTA Cymru ar gyfer golygu a dyma gychwyn gyrfa mewn golygu ar gyfer dramâu teledu Cymraeg, gan gynnwys Pen Talar, Hinterland ac yn mwy diweddar, Un Bore Mercher.
Noder, mae'r sesiwn wedi'i gynllunio ar gyfer uchafswm o 20 o bobl yn unig ac mae ar gyfer aelodau cychwyn gyrfa a myfyriwr BAFTA Cymru yn unig.
Mae croeso hefyd i aelodau BAFTA Cymru ymuno â ni ar gyfer dangosiad To Provide All People sy'n dilyn y digwyddiad hwn.
Cliciwch yma i archebu tocyn ar gyfer y dangosiad yma
Mewn partneriaeth gyda