You are here

Dathliad Keeping Faith / Un Bore Mercher

Tuesday, 10 September 2019 - 6:30pm
Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin
Ymunwch â ni i ddathlu cyfresi Un Bore Mercher a Keeping Faith. Ffilmiwyd y ddwy yn Sir Gâr gyda Thalacharn, Llansteffan a Chaerfyrddin yn ymddangos yn odidog y tu ôl i got felen Faith Howells. Bydd aelodau o'r cast, tîmau creadigol a'r criw yn bresennol ar gyfer y dathliad arbennig yma. Manylion pellach i ddilyn. Digwyddiad dwyieithog gyda chyfieithu ar y pryd.

Cyfle i glywed mwy am wneud y gyfres hon (ar ôl gwylio cyfres 1 a 2!) gyda phobl greadigol allweddol ac aelodau'r cast a'r criw gan gynnwys Maggie Russell (Cynhyrchydd Gweithredol), Nick Andrews (BBC), Gwenllian Gravelle (S4C), Laurence Love Greed (Cyfansoddwr), Matthew Hall (Awdur) ac Aneirin Hughes (Actor). 


I archebu tocyn i'r cyhoedd drwy Yr Egin cliciwch yma


Mewn partneriaeth gyda

     Yr Egin Website Logo