You are here

Dangosiad Premiere Gwyl Ffilm Iris Prize - Involuntary Activist

Involuntary activist
Wednesday, 13 March 2019 - 6:30pm
Atrium, The University of South Wales, 86-88 Adam St, Cardiff CF24 2FN
Mae anghydfod yn gwynebu Aled pan fydd ei chwaer yn dweud wrtho nad yw ei gŵr ar y rhestr westai i'w phriodas yn Nhwrci. Wedi'i dynnu rhwng estronu'r chwaer y mae'n ei garu neu gwneud rhywbeth sy'n mynd yn erbyn ei werthoedd craidd ei hun, mae Aled yn ymdrechu i gadw pawb yn hapus.

Bydd y dangosiad premiere hon yn cynnwys sesiwn cwestiwn ac ateb gyda'r cyfarwyddwr Mikael Bundsen o Sweden, a enillodd Wobr Iris yn 2017.

Mae Gwobr Iris, a dyfernir yng Nghaerdydd, yn dathlu ffilm lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol ac mae'n caniatáu i'r enillydd wneud ffilm newydd. Yn 2018 fe greodd Mikael ei ffilm newydd Involuntary Activist ym Mhontypridd a Chaerdydd gan archwilio'r thema cydymffurfiaeth yn erbyn diffygiaeth - mae Involuntary Activist yn dangos i ni pa mor hawdd yw hi i sefyll am rywbeth mewn theori ond yn fater gwahanol dal yr un meddylfryd yn ymarferol.

Dyma'r degfed ffilm fer i'w wneud gan enillydd Gwobr Iris.

Gall aelodau gadw eu lle trwy e-bostio Vicki.

Iris