Pan fydd Jane (Sally Hawkins) yn cael ei gadael wrth yr allor mae hi'n ymdroelli i fyd anhrefnus, lle mae cariad (real a dychmygus) a pherthnasoedd teuluol yn gwrthdaro â chanlyniadau cyffroes a doniol.
Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd Eternal Beauty gan Craig Roberts a chafodd ei ffilmio ar leoliad yng Nghymru. Eternal Beauty yw ail ffilm nodwedd gyfarwyddiadol Craig ar ôl ei ffilm gyntaf arobryn BAFTA Cymru, Just Jim (2016).
Arweinir y cast gan Sally Hawkins, enwebai BAFTA (The Shape of Water, Paddington) ochr yn ochr â David Thewlis (Harry Potter, War Horse), Billie Piper (Secret Diary of a Call Girl, Doctor Who) ac Alice Lowe (Black Mirror, The Fight).
Dilynir y dangosiad gan sesiwn Holi ac Ateb gyda Craig Roberts (Awdur a Chyfarwyddwr), Adrian Bate (Cynhyrchydd) a chyfansoddwr Michael Price (Dracula, Sherlock, Jekyll & Hyde) gyda Kimberley Warner o Ffilm Cymru.
E-bostiwch Ella i gadw tocyn
Mae tocynnau cyhoeddus ar gael i'w prynu trwy Chapter.
Mewn partneriaeth gyda: