Caiff bywyd Sam (Jacob Ifan, Cuffs, Y Gwyll) ei drawsnewid pan ddaw gwn i’w feddiant ac mae’n dechrau torri’r gyfraith. Mae Gina, ei chwaer (Catrin Stewart, Doctor Who, Stella, Y Llyfrgell) yn blismones uchelgeisiol sydd yn cael ei thalu i gynnal y gyfraith ac mae’n mynd allan o’i ffordd i ddarganfod pwy yw perchennog yr arf. Mae’r saga teuluol yn cyd-ddigwydd gyda ymholiad saethu dyn busnes lleol sy’n codi cwestiynau i Sam a Gina ynglyn a llofruddiaeth eu tad pan roeddent yn blant ifanc.
Wedi ei ysgrifennu gan yr enillydd BAFTA Roger Williams (Tir, The Bench, Caerdydd V) mae’r gyfres wedi ei chyfarwyddo gan Philip John (The Halcyon, Outlander, Downton Abbey) ac Ashley Way (Ice, Ripper Street, Stella, Y Streic a Fi) a’i chynhyrchu gan Catrin Lewis Defis (The Collection, Broadchurch).
Nodwch bydd y ddarllediad hwn wedi ei is-deitlo.
18:45 - derbyniad yng ngwesty Aberavon Beach Hotel, Port Talbot, ac yna y dangosiad yn Reel Cinema.
Mewn partneriaeth gyda: