You are here

BAFTA Cymru a phartneriaid yn cyhoeddi’r Sinema gyntaf ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru

9 March 2016
Sinemaes logo

Mae partneriaeth strategol o sefydliadau allweddol ym maes ffilmiau yng Nghymru wedi dod at ei gilydd i ddarparu profiad ffilm ar Faes yr Eisteddfod am y tro cyntaf yn 2016

Bydd “Sinemaes” yn cynnig gweithgareddau cysylltiedig â ffilm, dangosiadau, dangosiadau cyntaf a dosbarthiadau meistr am wythnos yn y Fenni yr haf hwn

Heddiw, mae’r Academi Celfyddydau Ffilm a Theledu Brydeinig (BAFTA) yng Nghymru, sef BAFTA Cymru, wedi cyhoeddi ei bod yn arwain datblygiad pabell newydd arbennig ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol, sef yr ŵyl ddiwylliannol deithiol fwyaf yn Ewrop.

Gan weithio mewn partneriaeth â Chanolfan Ffilm Cymru, Chapter, Into Film, Ffilm Cymru Wales, y Gymdeithas Deledu Frenhinol, Sgrîn Cymru, BFI Net.Work, ITV Cymru Wales, S4C a Theledwyr Annibynnol Cymru, mae BAFTA Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cadarnhau y bydd y cynnig sinema cyntaf ar gael yn nigwyddiad y Fenni rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst.

Bydd y babell “Sinemaes” yn cael ei lleoli ym mhentref drama’r Maes, a bydd yn cynnig rhaglen lawn o ddangosiadau o’r Archif Genedlaethol Sgrin a Sain, ffilmiau newydd gan Ffilm Cymru Wales ac S4C; dosbarthiadau meistr a gweithdai i bobl o bob oedran a’r cyfle i ganfod mwy am weithio yn y diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru.

Dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, "Dyma ddatblygiad cyffrous yn yr Eisteddfod, a bydd yn sicr yn ychwanegiad gwerthfawr at y Pentref Drama.

Edrychwn ymlaen at weithio gyda phawb yn y misoedd i ddod i sicrhau llwyddiant y prosiect yn Nhrefynwy a’r Cylch."

Mae partneriaid ychwanegol yn cael eu cadarnhau wrth i’r bartneriaeth geisio nawdd ar gyfer y digwyddiad sy’n para wythnos. Mae’r bartneriaeth Sinemaes yn cael ei chefnogi gan y cwmni ôl-gynhyrchu Gorilla a’r cwmni cyfieithu Trosol.

Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru, “Bydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru – sef yr ŵyl ddiwylliannol deithiol flynyddol sy’n denu 150,000 o ymwelwyr yn ystod 6 diwrnod – yn dathlu’r maes ffilmiau, cyfryngau a gemau yng Nghymru am y tro cyntaf eleni.

“Wrth i BAFTA ddathlu 25 mlynedd o Wobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru, bydd y rhaglen yr ydym yn ei chynllunio yn dathlu enillwyr blaenorol BAFTA Cymru ac yn annog pobl ifanc i ystyried dyfodol yn y diwydiant cyfryngau creadigol.”

Bydd y partneriaid strategol Into Film Cymru, Canolfan Ffilm Cymru a Ffilm Cymru Wales yn defnyddio’r cyfle i hyrwyddo eu gwaith i’r cyhoedd, yn ogystal â dathlu’r cyfleoedd addysg, cynhyrchu ac arddangos y mae ffilm yn eu cynnig i Gymru.

Mae Hana Lewis o Ganolfan Ffilm Cymru yn esbonio, “Gyda Chapter fel Sefydliad Arweiniol Canolfan Ffilm Cymru, ein partneriaid ac aelodau Canolfan Ffilm Cymru, rydym yn falch iawn o gydweithio i ddod â rhaglen ffilmiau amrywiol i Eisteddfod 2016 am y tro cyntaf. Gall cynulleidfaoedd ddisgwyl digwyddiadau ffilm cyffrous sy’n dathlu ein treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog ac yn rhoi cyfle i bobl ddawnus o Gymru ddisgleirio. O archif wledig i gymysgedd cerddorol byw, rydym ni’n bwriadu cynnig rhywbeth arbennig ar y Maes.”

Dywedodd Non Stevens, Into Film, “Mae Into Film yn edrych ymlaen at gyflwyno rhaglen ddifyr, ryngweithiol ac addysgol o weithgareddau i ymwelwyr Sinemaes yn yr Eisteddfod, ac mae’n gobeithio defnyddio’r llwyfan cenedlaethol i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr ffilmiau.”

Dywed Pauline Burt, Prif Weithredwr Ffilm Cymru Wales, “Mae’n bleser gennym fod yn rhan o Sinemaes, a fydd yn rhoi’r cyfle i waith newydd gan bobl ddawnus ym myd ffilmiau yng Nghymru gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, ar yr un pryd â dathlu iaith a diwylliant Cymru.”

Bydd y sefydliadau darlledu a masnach ITV Cymru Wales, y Gymdeithas Deledu Frenhinol a Theledwyr Annibynnol Cymru yn cynnal digwyddiadau ym mhabell Sinemaes hefyd, gan amlygu a thrafod pynciau cyfredol yn ymwneud â chynhyrchu teledu yn 2016.

Dywedodd Tim Hartley, Cadeirydd y Gymdeithas Deledu Frenhinol yng Nghymru, “Rydym yn falch iawn o gael lle ar Faes yr Eisteddfod lle y gallwn gyfarfod â myfyrwyr a phobl ifanc sydd â diddordeb mewn gweithio ym myd y teledu. Byddwn yn cynnal digwyddiadau a dangosiadau drwy’r wythnos ac yn cynnig cyngor ac arweiniad i’r rhai hynny sy’n ceisio cael cyfle yn y diwydiant. Elusen addysgol yw’r Gymdeithas Deledu Frenhinol ac mae’n wych gallu gweithio gyda’n holl bartneriaid yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru."

Dywed Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Cynnwys Drama S4C; "Rydym ni’n awyddus iawn i weithio gyda’n partneriaid i ddangos ffilmiau diweddar a newydd, ochr yn ochr â rhai o glasuron S4C ar sgrin fawr Sinemaes. Mae archif S4C yn llawn cynyrchiadau o ansawdd uchel sydd wedi ennill clod rhyngwladol, gan gynnwys enwebiad am Oscar. Edrychwn ymlaen at wneud y mwyaf o’r cyfle i fwynhau a dathlu’r gorau ym myd sinema Cymru."

Bydd rhaglen lawn pabell Sinemaes ar gael yn rhan o raglen hyrwyddo’r Eisteddfod Genedlaethol yn ystod y misoedd i ddod.