You are here

ANRHYDEDDU SIÂN GRIGG A TERRY JONES YN Y 25AIN GWOBRAU’R ACADEMI BRYDEINIG YNG NGHYMRU

22 September 2016

Yr artist colur sydd wedi ennill gwobr BAFTA, Siân Grigg, a Terry Jones, aelod o Monty Python, sydd wedi cael ei enwebu ar gyfer gwobr BAFTA, yn cael eu datgelu fel derbynyddion yn y Parti Enwebeion swyddogol, a gynhaliwyd yn Sherman Cymru

Mae’r Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu (BAFTA) yng Nghymru, sef BAFTA Cymru, wedi cyhoeddi mai Siân Grigg, yr artist colur sydd wedi ennill gwobr BAFTA ac sydd wedi cael ei henwebu am wobr Oscar, fydd 12fed derbynnydd Gwobr Siân Phillips yng Ngwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru ar 2 Hydref 2016, fel y cyhoeddwyd ym Mharti Enwebeion BAFTA Cymru neithiwr.

Caiff Grigg ei anrhydeddu gyda’r wobr – a noddir gan Ken Picton – fel unigolyn o Gymru sydd wedi gwneud cyfraniad arwyddocaol i wneud ffilmiau rhyngwladol. Mae Gwobr Siân Phillips, sy’n cael ei ddethol gan Bwyllgor BAFTA Cymru, wedi cael ei dyfarnu’n flaenorol i’r cyfarwyddwr, Euros Lyn, yr actor, Rhys Ifans, yr awdur, Russel T Davies, yr actor, Michael Sheen, yr actor, Ioan Gruffudd, yr awdur/actor/cynhyrchydd, Ruth Jones, yr actor, Rob Brydon, yr actor, Matthew Rhys, yr actor, Robert Pugh, y cynhyrchydd, Julie Gardner, a’r newyddiadurwr, Jeremy Bowen. Dyma’r tro cyntaf i artist colur dderbyn y wobr arbennig hon.

Dywedodd Siân Grigg: “Cefais fy synnu pan gysylltodd BAFTA Cymru â mi i roi gwybod y byddwn yn derbyn Gwobr Sian Phillips! Roedd yn anrhydedd enfawr cael fy ystyried ac yn hyfryd i un o’r celfyddydau creadigol gael ei chydnabod yn y fath fodd. Yn aml, nid yw colur yn cael sylw gan ei fod yn gyfrwng i helpu adrodd stori a dylai bylu i mewn i’r ffilm, felly mae’n hyfryd ei fod yn cael ei amlygu yn y ffordd hon." 

Hefyd, cyhoeddodd BAFTA Cymru y bydd Gwobr Arbennig BAFTA am Gyfraniad i Ffilm a Theledu, a’i noddwyd gan SONY Technology, yn cael ei chyflwyno i’r actor, yr awdur a’r cyfarwyddwr, sydd wedi cael ei enwebu ar gyfer gwobr BAFTA, Terry Jones. Cafodd Terry Jones, sy’n adnabyddus i lawer o bobl fel aelod o griw Monty Python, ei eni ym Mae Colwyn, ac mae wedi ysgrifennu a chyfarwyddo dramâu, cyflwyno rhaglenni dogfen, cyfansoddi operâu ac ysgrifennu straeon byr. 

Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru: “Mae Pwyllgor BAFTA Cymru yn cydnabod doniau Sian a’i chyfraniad enfawr i ystod mor eang o ffilmiau, gan gynnwys Titanic, The Aviator, yr enillodd gwobr BAFTA ar gyfer Colur a Gwallt amdani yn 2005 ac, yn fwy diweddar, The Revenant, y derbyniodd enwebiad am wobr BAFTA ar ei chyfer hefyd. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at ddathlu gwaith Terry Jones yn ystod y seremoni, trwy edrych yn ôl ar ei waith o 1969 hyd heddiw.”

Dywedodd gynrychiolydd Terry Jones am y wobr arbennig ac ei salwch diweddar; "Mae Terry wedi cael diagnosis o Aphasia Cynradd Flaengar, amrywiad o Frontotemporal Dementia. Mae'r salwch yn effeithio ar ei allu i gyfathrebu ac nad yw bellach yn gallu rhoi cyfweliadau. Mae Terry yn falch iawn am yr anrhydedd o gael ei gydnabod yn y modd hwn ac yn edrych ymlaen at y dathliadau. "

Mae Parti Enwebeion BAFTA Cymru, lle gwnaed y cyhoeddiad, yn dathlu enwebeion Gwobrau nesaf yr Academi Brydeinig yng Nghymru, ar draws categorïau cynhyrchu, crefft a pherfformiad ffilm a theledu yng Nghymru.

Daeth unigolion a chwmnïau a oedd yn cynrychioli’r cynyrchiadau enwebedig ynghyd ym Mharti Enwebeion BAFTA Cymru, a gynhaliwyd yn Sherman Cymru ac a noddwyd gan Mad Dog Casting. Cafodd y gwesteion fwyd a baratowyd gan y cwmni arobryn, Spiros Fine Dining, cwrw gan y cynhyrchwyr lleol, Tomos a Lilford, yn ogystal â siampên gan bartner BAFTA, Champagne Taittinger.

Roedd gwesteion Parti Enwebeion BAFTA Cymru yn cynnwys yr enwebeion ar gyfer gwobr yr actores orau, Amanda Mealing, Catherine Ayers a Mali Harries; yr actor Mark Lewis Jones, a’r cyfarwyddwyr Lee Haven Jones (35 Diwrnod) a Molly Anna Woods (Swansea Sparkle, A Transgender Story); Cyflwynydd Will Millard; dylunydd Sherlock Arwel Wyn Jones a’r awdur/actor a chyfarwyddwr Craig Roberts (Just Jim).

I ddathlu 25ain mlwyddiant Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru, gwahoddir aelodau o’r cyhoedd i ymuno ag enwebeion a gwesteion arbennig yng ngwobrau eleni. Mae tocynnau ar gyfer y Gwobrau ar gael ar gyfer y derbyniad siampên, y seremoni a’r parti ar ôl y seremoni, am £90, sy’n cynnwys pamffled argraffiad cyfyngedig ar gyfer y Gwobrau, a chynigion ar gyfer bariau a chlybiau lleol. Cyhoeddir manylion ynghylch yr enwebeion a’r gwesteion a fydd yn bresennol ar 26 Medi.

Gellir prynu tocynnau o Swyddfa Docynnau Neuadd Dewi Sant 029 20 878444 / arlein

Cefnogir Gwobrau yr Academi Brydeinig yng Nghymru gan AB Acoustics; Prifysgol Aberystwyth; Audi; BBC Cymru Wales; Bluestone; Cylchgrawn Buzz; Capital Law; Coleg Caerdydd a’r Fro; Maes Awyr Cymru Caerdydd; Cuebox; Deloitte; Da Mhile Gin; Denmaur; DW Design; ELP; Ethos; Genero; Prifysgol Glyndŵr; Gorilla; HMV; Holiday Inn Express; Hotel Chocolat; Ken Picton; Mad Dog Casting; Teithio Premiere; Princes Gate; Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru; S4C; Technoleg Sony; Gwesty St David’s; Sugar Creative; Champagne Taittinger; Trosol; Prifysgol De Cymru; Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant; Villa Maria a Working Word.