Ydych chi'n byw / gweithio 50 milltir neu fwy y tu allan i Gaerdydd? Os ydych byddech chi'n gymwys ar gyfer ein cyfradd Cangen (Gwlad)...darganfyddwch fwy yma.
Mae' unigolion profesiynnol mewn ffilm, gemau a theledu sy'n byw a / neu'n gweithio 50 milltir neu fwy y tu allan i Gaerdydd yn gymwys i dalu ein cyfradd aelodaeth gwlad is, sy'n gyfatebol i £5 + TAW y mis dros flwyddyn. Mae rhai sydd yn cychwyn gyrfa yn talu £50 a myfyrwyr yn talu £35.
Manteision dod yn aelod Cangen (Gwlad) neu Gysylltiol (Gwlad) yw:
1 tocyn am ddim o ddydd Llun i ddydd Iau yn Sinemâu Odeon a Vue lleol (a Everyman pan yng Nghaerdydd)
Cyfradd llai am docynnau mewn sinema eraill ledled Cymru
O leiaf 1 digwyddiad dangosiad a Holi ac Ateb am ddim/rhwydweithio a gynhelir yng Ngogledd neu Orllewin Cymru bob mis a mynediad i bob digwyddiad arall ledled Cymru
Cyfradd llai am docynnau Gwobrau Cymru a chynigion gwestai gan ein partneriaid
Hawliau pleidleisio ar gyfer Gwobrau Cymru
Yn gymwys i ymuno â rheithgorau a Phwyllgor BAFTA Cymru
Ar gyfer Aelodau Cysylltiol yn unig:
Defnydd o far a bwyty aelodau BAFTA yn Piccadilly yn ogystal â'n partneriaid Groucho a H Club pan yn Llundain
Mynediad am ddim i ddangosiadau a digwyddiadau BAFTA yn Lloegr a'r Alban
Ffioedd (Gwlad Cysylltiol) 2021
Y ffi am flwyddyn lawn o aelodaeth o (ymuno ym mis Mai neu fis Mehefin) yw £165 gan gynnwys TAW.
Gallwch hefyd drefnu i dalu 50% o'ch ffi trwy Debyd Uniongyrchol ar 2 bwynt yn ystod y flwyddyn am eich ail aelodaeth a'ch blynyddoedd dilynol o aelodaeth.
Derbynnir ceisiadau unrhyw amser a chyfrifir ffioedd ar sail pro-rata.
Cyfraddau Pro Rata (Gwlad Gysylltiol):
Gorffennaf: £150
Awst: £135
Medi: £120
Hydref: £105
Tachwedd: £90.00
Rhagfyr: £75
O fis Ionawr ymlaen, rydym yn rhagbrisio gweddill y flwyddyn ac yn ychwanegu at ffi y flwyddyn ganlynol:
Ionawr - ymuno tan Mai 2022: £225
Chwefror - ymuno tan Mai 2022: £210
Mawrth - ymuno tan Mai 2022: £195
Ebrill - ymuno tan Mai 2022: £180
Ffioedd (Gwlad Cangen) 2021
Am y flwyddyn lawn o 1 Mehefin (ymuno ym mis Mai neu fis Mehefin) y gost i ymuno yw £75 gan gynnwys. TAW.
Gallwch hefyd drefnu i dalu 50% o'ch ffi trwy Debyd Uniongyrchol ar 2 bwynt yn ystod y flwyddyn am eich ail aelodaeth a'ch blynyddoedd dilynol o aelodaeth.
Derbynnir ceisiadau unrhyw amser a chyfrifir ffioedd ar sail pro-rata gostyngedig.
Cyfraddau Pro Rata (Gwlad Cangen):
Gorffennaf: £68
Awst: £61
Medi: £54
Hydref: £47
Tachwedd: £40
Rhagfyr: £33
Ionawr - ymuno tan Mai 2022: £101
Chwefror - ymuno tan Mai 2022: £94
Mawrth - ymuno tan Mai 2022: £87
Ebrill - ymuno tan Mai 2022: £80