Bafta Wales

BAFTA YNG NGHYMRU YN CYHOEDDI ENWEBIADAU AR GYFER GWOBRAU CYMRU 2011 YR ACADEMI BRYDEINIG

15 April 11

Sian Williams a Jason Mohammad i gyflwyno yr 20fed Seremoni Gwobrau Cymru yr Academi Brydeinig mis Mai.

Pen Talar wedi ei enwebu ar gyfer 12

Sherlock yn derbyn 6 enwebiad a 5 i The Indian Doctor

Caryl Ebenezer o Rondo wedi ei henwebu 3 gwaith

Mae BAFTA yng Nghymru wedi cyhoeddi ei enwebiadau ar gyfer Gwobrau Cymru yr Academi Brydeinig i gydnabod y gorau ym myd darlledu, rhyngweithiol a ffilm yng Nghymru.

Eleni caiff 26 o gategorïau crefft, perfformio a rhaglenni eu gwobrwyo. Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni arbennig yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar Fai 29ain. Rydym yn falch o gyhoeddi mai Sian Williams a Jason Mohammad fydd yn cyflwyno'r seremoni honno.

Dywed Jason: "Rydw i'n edrych ymlaen yn fawr i gael cyflwyno'r seremoni gyda Sian eleni. Hwn fydd y tro cynta i mi gyflwyno'r Gwobrau - drwy weithio ochr yn ochr gyda chymaint o bobl broffesiynol, rydw i'n deall pa mor bwysig yw'r gwobrau yn cydnabod talent ar ac oddi ar y sgrin."

Mae cynyrchiadau drama yn dal i berfformio'n gryf eleni gyda Pen Talar - gynhyrchwyd gan Fiction Factory i S4C - yn derbyn 16 o enwebiadau i gyd. Mae Sherlock, i'r BBC, yn derbyn 6 a *The Indian Doctor *yn derbyn 5. Mae rhaglenni dogfen a ffeithiol hefyd yn llwyddiannus. Yng nghategori'r Actores orau mae Mali Harries wedi derbyn 2 o'r 3 enwebiad - ar gyfer ei pherfformiadau yn Pen Talar a The Indian Doctor.

Dywed Lisa Nesbitt, Cyfarwyddwr BAFTA yng Nghymru:
"Mae wedi bod yn gyfnod heriol i nifer o fewn y diwydiant yng Nghymru a thu hwnt - rydym yn ymwybodol, mwy nag erioed, bod yn rhaid parhau i gydnabod rhagoriaeth a gwobrwyo'r holl waith caled sy'n cael ei wneud wrth gynhyrchu a chreu ffilm a theledu."

Bydd cyflwyniadau arbennig yn cael eu gwneud yn y seremoni ar gyfer Gwobr Siân Phillips a Gwobr Cyflawniad Oes. Yr enwebiadau ar gyfer Gwobr Gwyn Alf Williams am y rhaglen neu gyfres orau sydd wedi cyfrannu fwyaf at ddealltwriaeth a gwerthfawrogiad o hanes Cymru yw Y DAITH: O DDYFFRYN AERON I MADAGASCAR (S4C), VALE OF SORROW – THE SIX BELLS MINING DISASTER (ITV WALES) ac SNOWDONIA 1890 (BBC CYMRU WALES).

Mae BAFTA yng Nghymru yn hynod falch o gael cyhoeddi ei Noddwr Digwyddiad ar gyfer Gwobrau eleni. Cwmni cyflenwi adnoddau stiwdio ag OB yw NEP Cymru - cwmni newydd ond ag iddi wynebau cyfarwydd. Rydym yn falch iawn o gael croesawu NEP Cymru i'n teulu o noddwyr ac yn edrych ymlaen at gydweithio gyda phawb yno i sicrhau mai Seremoni Wobrwyo 2011 fydd y gorau cyn belled.

Bydd nifer cyfyngedig o docynnau ar gael i'r cyhoedd a gellir prynu'r rhain o swyddfa docynnau Canolfan Mileniwm Cymru ar 029 2063 6464.

pdf Gweler rhestr lawn o enwebiadau isod (136 KB)

Noddwyr BAFTA yng Nghymru 2011 :
Mae teyrngarwch ac ymroddiad ein partneriad a noddwyr yn chwarae rhan holl bwysig yn ymrwymiad BAFTA yng Nghymru i ragoriaeth. Ynghhŷd â’n noddwr digwyddiad newydd – NEP Cymru, hoffem gydnabod cefnogaeth CREATIVE INDUSTRIES WALES , LLYWODRAETH CYNULLIAD CYMRU, CINEWORLD CINEMAS, ORCHARD MEDIA AND EVENT GROUP, ETHOS CREATIVE, CYNGOR CAERDYDD, MERCURE CARDIFF HOLLAND HOUSE HOTEL & SPA, ARCHIF GENEDLAETHOL SGRIN A SAIN CYMRU, AB ACOUSTICS, ELP LIGHTING, SILENT ARENA ac TATTINGER. Hefyd, ein noddwyr NEWYDD, THE BIG TALENT SCHOOL, PICTURE BOOTH ac AUTOGRAFFEG.

Gyda diolch mawr i’r Darlledwyr: BBC CYMRU WALES, ITV WALES, S4C

Am ymholiadau'r wasg a chyfryngau cysylltwch â: Manon Edwards Ahir
Ffôn: 07711 095470 / E-bost: manon@mela-media.com




Please answer the simple sum below.


28 - 21 =

Follow us on