09 April 13
Dysgwch ragor am dîm bychan ond ymroddedig BAFTA yng Nghaerdydd.
Fel Cyfarwyddwr Dros Dro newydd BAFTA yng Nghymru, mae Allison yn dod â dros bum mlynedd ar hugain o brofiad o weithio yn y diwydiant Ffilm a Theledu.
Dechreuodd Allison ei gyrfa gyda Darllediadau Allanol wedi’i lleoli yn BBC Llundain ac wedyn symud i gyfleusterau gyda grŵp Samuelson. Bu Allison wedyn yn arwain Comisiwn Sgrîn Cymru. Yn 2006 ymunodd Allison â Llywodraeth Cymru i weithio yn yr hyn oedd yr adeg honno yn dîm Diwydiannau Creadigol oedd newydd ei sefydlu. Yma ei swyddogaeth gyntaf yn y tîm oedd gofalu am y sectorau Ffilm a Theledu ac i weithio tuag at Ddiwydiant Ffilm cynaliadwy yng Nghymru. Ar ôl hynny bu’n arwain y tîm fel Uwch Reolwr Datblygu Ffilm a Darlledu o fewn y Sector Diwydiannau Creadigol.
Bu Allison yn gefnogwr brwd o BAFTA yng Nghymru dros y deng mlynedd diwethaf fel aelod o’r pwyllgor, trysorydd ac yn fwy diweddar y dirprwy Gadeirydd.
Allison Dowzell
Tel +44 (0) 2920 223898
Email allisond@bafta.org
Mae gan Claire 16 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y diwydiannau creadigol, yn enwedig yn y sectorau cerddoriaeth, teledu, ffilm a’r cyfryngau rhyngweithiol.
Cyn ymuno a BAFTA Cymru, trafeiliodd y byd fel rheolwr teithio gyda amrhyw o wahanol fandiau. Cyn hynny, gweithiodd yn y tîm diwydiannau creadigol i Lywodraeth Cymru , fel rheolwr prosiectau ar gyfer Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig ac yn rheolwr prosiectau yn y Coal Exchange, Caerdydd.
Ar hyn o bryd mae Claire yn gyfrifol am rhaglennu a cyflwyno dangosiadau a digwyddiadau yn ogystal a cynorthwyo gyda Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru.
Claire Heat
Tel +44 (0) 2920 223898
Email clairehe@bafta.org
Graddiodd Ceri yn ddiweddar o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gyda gradd BA anrhydedd yn ‘Yr Actor a’r Celfyddydau’. Ers ymuno gyda BAFTA yng Nghymru ym mis Gorffennaf mae’n dal y swydd ‘Gweinyddes Gwobrwyo’.
Mae ganddi basiwn am y Celfyddydau a cherddoriaeth ac yn ei amser hamdden mae’n chwaraewr ffliwt a phiano. Mae’n hoff o gymdeithasu a mynychu perfformiadau theatr.
Mae gweithio yn BAFTA Cymru wedi rhoi’r cyfle i Ceri weithio yn y celfyddydau ac i gyfrannu i’r diwydiant celfyddydol yng Nghymru
Ceri Lewis
Tel +44 (0) 2920 223898
Email ceril@bafta.org