20 April 11
Rydym nawr yn derbyn ceisiadau ar gyfer Tocynnau Aelodau a Tocynnau Diwydiant ar gyfer GWOBRAU CYMRU’R ACADEMI BRYDEINIG, 2011.
Cynhelir y seremoni drawiadol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar ddydd Sul, Mai 29ain, 2011 - gyda derbynwest i ddathlu yng Ngwesty Holland House yng Nghaerdydd i ddilyn.
Eleni mae 26 o gategoriau crefft, perfformio a rhaglenni i gyd. Gwneir cyflwyniadau hefyd ar gyfer Gwobr Sian Phillips, Gwobr Cyflawniad Oes a Gwobr Gwyn Alf Williams.
Ceir Tocynnau Aelodau/Diwydiant drwy gais yn unig, ar sail cyntaf i’r felin. Os ydych yn dymuno gwneud cais, mae gwybodaeth ar gael i’w lawrlwytho isod:
Ffurflen Gais (91 KB)
Cwestiynau Cyffredin (45 KB)
Am unrhyw wybodaeth pellach, cysylltwch â Fiona Lynch, fional@bafta.org .
Noder bod y cofnod hwn wedi dod i ben nawr, cadwch olwg ar y wefan os oes gennych ddiddordeb mewn cael tocynnau ar gyfer seremoni wobrwyo’r flwyddyn nesaf.