Cynigir gostyngiad arbennig i aelodau ar bris tocyn sinema i Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dangos eich cerdyn aelodaeth yn y Swyddfa Docynnau.
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, sydd wedi ennill sawl wobr, yw'r ganolfan fwyaf o'i math yng Nghymru ac fe'i hystyrir yn genedlaethol fel canolfan flaenllaw ac arloesol ym myd y celfyddydau.
Mae ganddi raglen artistig eang, o safbwynt cynhyrchu a chyflwyno, ar draws holl ystod y celfyddydau gan gynnwys drama, dawns, cerddoriaeth, y celfyddydau gweledol, y celfyddydau cymhwysol, ffilm, cyfryngau newydd a chelfyddydau cymunedol ac fe'i cydnabyddir fel canolfan genedlaethol ar gyfer datblygu'r celfyddydau.
Swyddfa Docynnau Canolfan y Celfyddydau (01970) 62 32 32
Ar agor Llun - Sadwrn 10 a.m. - 8 p.m.
Sul 1.30pm - 5.30pm
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Prifysgol Aberystwyth
Campws Penglais
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3DE