20 January 12
Mae'n ddrwg iawn gan BAFTA yng Nghymru gyhoeddi ymddiswyddiad Lisa Nesbitt fel Cyfarwyddwraig, yn dod i rym o 3 Chwefror 2012.
Dywedodd Dewi Vaughan Owen, Cadeirydd yr Academi yng Nghymru
“Mae BAFTA yng Nghymru yn dymuno talu teyrnged i ymdrechion diflino Lisa yn ei swydd fel Cyfarwyddwraig BAFTA yng Nghymru dros y pum mlynedd diwethaf ac i'w llwyddiant mawr wrth gynnal holl weithgarwch yr Academi ar draws y wlad, yn cynnwys y Gwobrau Academi Brydeinig Cymru mawreddog. Dymunwn y gorau iddi yn ei gwaith a'i chynlluniau yn y dyfodol.”
Mae'r Academi yn edrych ymlaen at ddathlu Gwobrau Academi Brydeinig Cymru yn hydref 2012.