14 February 12
Mae BAFTA yng Nghymru yn cyhoeddi penodiad Allison Dowzell fel Cyfarwyddwraig Dros Dro o 6 Chwefror 2012.
Dywedodd Dewi Vaughan Owen, Cadeirydd yr Academi yng Nghymru:
“Mae BAFTA yn dymuno croesawu Allison i’w rôl fel Cyfarwyddwraig Dros Dro BAFTA yng Nghymru ac edrychwn ymlaen at weithio gyda hi yn y gwaith o arwain holl weithgareddau’r Academi ar draws y wlad.”
Dywedodd Allison Dowzell, Cyfarwyddwraig Dros Dro:
“Rwy’n edrych ymlaen at helpu BAFTA yng Nghymru i adeiladu ar ei enw da sylweddol ac i weithio’n agos gyda rhanddeiliaid i gyflwyno amcanion y dyfodol.”