29 May 11
• Sherlock gan y BBC yn cipio 5 gwobr • Stuart Brennan yw'r Actor Gorau, Mali Harries yr Actores Orau • Gareth Gwenlan yn derbyn Gwobr Cyflawniad Oes
Mewn digwyddiad llachar, llawn cyffro heno (Sul) yng Nghanolfan Mileniwm Cymru fe fu BAFTA yng Nghymru yn cynnal ei 20fed Seremoni Wobrwyo'r Academi Brydeinig drwy ddathlu'r gorau yn niwydiant teledu, ffilm a rhyngweithiol y wlad. Siân Williams a Jason Mohammad a fu'n cyflwyno'r seremoni lle cafodd 26 o gategorïau rhaglen, crefft a pherfformio i gyd eu gwobrwyo.
Bu'r llwyddiant mwyaf i gynhyrchiad Sherlock, gan y BBC, a ddaeth i'r brig mewn 5 o gategorïau, gan gynnwys y Ddrama Deledu Orau, Cyfarwyddwr: Ffuglen (Euros Lyn), Cynllunio Cynhyrchiad, Coluro a Gwallt a Chyfarwyddwr Ffotograffi: Ffuglen.
Aeth yr Actor Gorau i Stuart Brennan, a dreuliodd 5 mlynedd yn hyfforddi ar gyfer ei rôl fel y bocsiwr Cymreig Howard Winstone yn Risen: The Howard Winstone Story. Enillodd Mali Harries Wobr yr Actores Orau am ei rhan yn The Indian Doctor (Rondo ar gyfer BBC). Angharad Mair o Wedi 7 gafodd Gwobr y Cyflwynydd Gorau.
Enillodd cyfres y digrifwr Rhod Gilbert's Work Experience y Gyfres Ffeithiol Orau am ei helyntion gyda dynion y lludw. Ac mewn teyrnged deilwng i'r actores boblogaidd a seren The Sarah Jane Adventures, y diweddar Elisabeth Sladen, llwyddodd y gyfres honno i ennill Gwobr y Rhaglen Blant Orau.
Derbyniodd y cynhyrchydd comedi teledu, Gareth Gwenlan, Wobr Cyflawniad Oes am ei gyfraniad hir a gwerthfawr i'r diwydiant teledu ym Mhrydain ac yng Nghymru. Anrhydeddwyd yr actor Hollywood o Gaerdydd, Matthew Rhys, gyda Thlws Siân Phillips. Rhoddwyd Gwobr Gwyn Alf Williams i gyfres BBC Cymru - Snowdonia 1890.
Cipiodd cynyrchiadau BBC Cymru Wales 11 o'r 25 Gwobr. Aeth 4 Gwobr i'r cwmni cynhyrchu annibynnol, Rondo Media, ac aeth 3 Gwobr i gwmni Fiction Factory. Derbyniodd rhaglenni S4C wobr mewn 8 o'r categorïau.
Gweler y rhestr gyflawn wedi ei atodi.
ENILLWYR 2011 (102 KB)