26 October 11
Gwobrau ar agor ar gyfer ceisiadau
Mae Gwobrau Academi Cymru Prydeinig yn 2012 bellach ar agor ar gyfer ceisiadau. Fel yn y blynyddoedd yn y gorffennol rydym yn gofyn i Ddosbarthwyr, Cwmnïau Cynhyrchu, Cynhyrchwyr ac Aelodau gyflwyno gwaith yr hoffent gael ei ystyried. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Llun, 9 Ionawr 2012.
Mae tair cam wrth wneud cais:
1. Ffurflen Gais ar-lein: cliciwch yma
2. Uwch lwythiad Fideo: cliciwch yma
am ganllawiau llawn
3. Talu: Bydd BAFTA yng Nghymru yn cysylltu'n uniongyrchol gyda phob ymgeisydd (trwy e-bost) i brosesu ffi talu. RHAID i ffioedd cais gael eu derbyn dim hwyrach na Dydd Llun 16 Ionawr 2012 (gweler y Llyfr Rheolau am y manylion llawn)
Newidiadau i'r Rheolau
Mae'r canlynol yn newidiadau allweddol i'r categorïau/rheolau eleni:
1. Caiff pob cais ei gyflwyno trwy'r porth mynediad ar-lein
2. Mae Newyddion, Materion Cyfoes a Chwaraeon bellach yn dri categori ar wahân: Darlledu Newyddion, Materion Cyfoes, Rhaglen Chwaraeon
3. Mae'r categori Cyfryngau Newydd wedi newid yn Creadigrwydd a Gemau Digidol
4. Mae'r categori Teitlau wedi newid yn Dylunio Graffig
5. Y categorïau newydd ar gyfer 2012 yw: Gwobr Torri Drwodd
Darllenwch y rheolau'n ofalus gan bod mân newidiadau ac ychwanegiadau eraill.
Awards Entry Guide (2.2 MB)
British Academy Cymru Awards Rule Book 2011 2012 Final (61 KB)
Bafta Recognised Festival List 2011 (56 KB)