14 October 10
Kaleidoscopic Gŵyl Addasiadau, Wrecsam: Cynhaliodd BAFTA gyfweliad gydag awdur Sherlock, Steven Moffat a'r cynhyrchydd Sue Vertue ar 9 Medi 2010 yng Nghanolfan Catrin Finch yn Wrecsam.
Ar 9 Medi 2010 ymunodd Steven Moffat a Sue Vertue â BAFTA ar gyfer cyfweliad byw ar y llwyfan yng Nghanolfan Catrin Finch yn Wrecsam.
Yn y cyfweliad mae Moffat yn disgrifio'r foment pan y gwnaeth ei gyd awdur Mark Gatiss ac yntau gael y syniad cychwynnol o Sherlock Holmes 21ain ganrif a'r broses greadigol yn dilyn hynny.
Gwyliwch Moffat a Vertue yn trafod y manylion ynghlwm â chreu'r gyfres boblogaidd, o ddatblygu eu syniadau cynharaf a'r broses addasu hyd at y broses o gastio a chynhyrchu.
BAFTA webcasts are supported by The Farm Group. |
AMDANOM:
Kaleidoscopic
yw’r ŵyl gyntaf yn y DU i drafod ac edrych ar hanes, proses a busnes addasiadau mewn cyfryngau amrywiol, gan gynnwys ffilm a theledu, radio, theatr, dylunio graffig, llenyddiaeth, a brandio.