You are here

BAFTA yng Nghymru: GALWAD AM ENWEBIADAU!

10 December 2010

Mae’r Academi Brydeinig o Gelfyddydau Ffilm a Theledu yng Nghymru nawr yn derbyn enwebiadau ar gyfer Seremoni Wobrwyo a gynhelir yn Mai, 2011.

Y dyddiad cau i bob cais fydd
DYDD GWENER 28 IONAWR, 2011

BAFTA yng Nghymru: GALWAD AM ENWEBIADAU!

AT GYFER POB CAIS:
Dylai rhaglenni/ffilmiau a gwaith rhyngweithiol arddangos cyfraniad Cymreig sylweddol yn y meysydd canlynol: Cwmni Cynhyrchu, Cyllid, Cyfarwyddwr, Awdur, prif gast a chriw ac mae croeso i gynyrchiadau Cymraeg a Saesneg yn yr holl genres.

Rhaid i’r enwebiadau fod wedi’u darlledu/sgrinio/cyhoeddi yn ystod y cyfnod cymwys 1 Ionawr – 31 Rhagfyr 2010.

Mae canllawiau a ffioedd ymgeisio ychwanegol yn gymwys i bob categori.

MAE FFURFLENNI ENWEBU A CHANLLAWIAU LLAWN AR GAEL GAN BAFTA yng Nghymru:

Anfonwch e-bost os gwelwch yn dda [email protected]

Mae’r holl wybodaeth ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Yn dilyn y broses feirniadu cyhoeddir y Rhestr Fer Derfynol o Enwebai gan BAFTA yng Nghymru a chyhoeddir enwau’r Enillwyr yn y Seremoni Wobrwyo lle y byddant yn derbyn Mwgwd BAFTA Cymru a grëwyd gan Toby Peterson sydd yn seiliedig ar ddyluniad gan y diweddar gerflunydd Mitzi Cunliffe.

Edrychwn ymlaen at dderbyn eich ceisiadau!