Mae seremoni wobrwyo flynyddol yr Academi Brydeinig yng Nghymru yn cael ei chynnal Ddydd Sul hon (Medi 30ain) yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd ac am y tro cyntaf erioed mae BAFTA Cymru yn falch o gynnig ffrwd fyw o’r seremoni ar ein gwefan.
Bydd perfformwyr a chynhyrchwyr gorau Cymru ar deledu a ffilm yn dod at ei gilydd ar gyfer noson i ddathlu llwyddiannau’r diwydiannau creadigol yng Nghymru.
Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru
Mae cynyrchiadau ffilm a dramâu teledu’n parhau i fod yn flaenllaw eleni gyda’r rhaglen Gwaith Cartref, sydd ar S4C, yn derbyn y nifer uchaf o enwebiadau - chwech i gyd. Mae ffilm Marc Evans, Patagonia, gyda Matthew Rhys, a chynhyrchiad BBC Cymru Code-Breakers: The Bletchley Park’s Lost Heroes wedi’i henwebu pum gwaith.
Mae’r enwebiadau ar gyfer yr Actor Gorau’n cynnwys Mark Lewis Jones (Baker Boys), Richard Harrington (Burton: Y Gyfrinach), Craig Roberts (Submarine) tra bod yr enwebiadau ar gyfer yr Actores Orau yn cynnwys Eve Myles (Baker Boys), Rhian Morgan (Gwaith Cartref) a Sharon Morgan (Resistance).
Bydd y darllediad byw yn dechrau wrth i'r cyflwynydd, Alex Jones o The One Show, agor y seremoni am 7 yr hwyr a bydd yn parhau ar y wefan tan ar ôl i'r enillydd terfynol yn cael ei gyhoeddi oddeutu 9 o'r gloch.