30 September 12
Mewn seremoni fawreddog heno (dydd Sul) yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd, cynhaliwyd seremoni flynyddol Gwobrau Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu Cymru yn anrhydeddu rhagoriaeth ym meysydd darlledu, rhyngweithio a ffilm yng Nghymru.
Cyflwynwyd y seremoni gan Alex Jones o The One Show, a chafodd 29 o gategorïau ar gyfer rhaglenni, crefft a pherfformiad eu gwobrwyo yn ystod y noson.
Cafodd ffilm Marc Evans, Patagonia lwyddiant ysgubol gan ennill 4 categori, gan gynnwys Cyfarwyddwr: Ffuglen (Marc Evans), Golygu: Ffuglen, Sain, Coluro a Gwallt.
Aeth y wobr am Actor i Craig Roberts am ei rôl fel y llanc pymtheg mlwydd oed Oliver Tate yn y ffilm am Abertawe - Submarine, perfformiad sydd eisoes wedi ennill clod iddo fel Perfformiwr Prydeinig Ifanc y flwyddyn yng Ngwobrau Ffilm y London Critic's Circle. Mae Sharon Morgan yn cael ei chydnabod eto fel un o berfformwyr gorau Cymru wrth iddi ennill categori Actores am y trydydd tro - y tro hwn am ei rôl yn addasiad y ffilm o nofel Owen Sheers, Resistance.
Aeth y wobr am y Cyflwynydd gorau i Lowri Morgan ar gyfer Ras yn Erbyn Amser a gynhyrchwyd gan POP1 ar gyfer S4C. Roedd y rhaglen yn olrhain taith galed Lowri wrth iddi redeg 350 o filltiroedd dros yr Arctig ac fe enillodd ail wobr hefyd am Gyfres Ffeithiol .
Dyfarnwyd y wobr am y Ffilm Nodwedd/Teledu orau i Submarine tra llwyddodd Shirley - y ddrama BBC 2 gan Prospect Pictures, oedd yn olrhain hanes cynnar y Fonesig Shirley Bassey, i ennill y wobr Drama Deledu.
Derbyniodd Eddie Butler wobr Awdur am raglen Lions '71 - cynhyrchiad Green Bay ar gyfer BBC Cymru Wales. Fe roddwyd ail wobr i'r rhaglen hefyd, sy'n edrych yn ôl ar daith fuddugoliaethus y Llewod yn Seland Newydd yn 1971, sef Gwobr Gwyn Alf Williams am gyfraniad i ddealltwriaeth o hanes Cymru. Mewn teyrnged briodol i reolwr Cymru a'r pêl-droediwr diweddar Gary Speed, aeth y Rhaglen Chwaraeon i Sport Wales: Teyrnged i Gary Speed gan BBC Cymru Wales.
Eleni cyflwynwyd Tlŵs Siân Phillips i'r actor Robert Pugh, mewn cydnabyddiaeth am ei waith mewn ffilmiau nodwedd mawr a rhaglenni teledu rhwydwaith.
I gloi'r noson fawreddog cafwyd cyflwyniad arbennig iawn wrth i Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu anrhydeddu'r cynhyrchydd teledu John Hefin gyda Gwobr Arbennig am Gyfraniad Eithriadol i Ddrama Teledu.
Mae John Hefin yn adnabyddus fel creawdwr y ddrama sebon - Pobl y Cwm, ond yn ystod ei gyfnod fel Pennaeth Drama BBC Cymru, bu'n gyfrifol hefyd am gynhyrchu Bus to Bosworth, The Life a Times of David Lloyd George a'r ffilm fythgofiadwy, Grand Slam. Yn 2009, cafodd John MBE am ei wasanaeth i ffilm yng Nghymru ac, yn fwy diweddar, derbyniodd wobr Cyfrwng 2012 am ei gyfraniad eithriadol i'r cyfryngau yng Nghymru.