21 December 10
Mae’r Academi Brydeinig o Gelfyddydau Ffilm a Theledu yng Nghymru nawr yn derbyn enwebiadau ar gyfer Seremoni Wobrwyo a gynhelir yn Mai, 2011.
AT GYFER POB CAIS:
Dylai rhaglenni/ffilmiau a gwaith rhyngweithiol arddangos cyfraniad Cymreig sylweddol yn y meysydd canlynol: Cwmni Cynhyrchu, Cyllid, Cyfarwyddwr, Awdur, prif gast a chriw ac mae croeso i gynyrchiadau Cymraeg a Saesneg yn yr holl genres.
Rhaid i’r enwebiadau fod wedi’u darlledu/sgrinio/cyhoeddi yn ystod y cyfnod cymwys 1 Ionawr – 31 Rhagfyr 2010.
Mae canllawiau a ffioedd ymgeisio ychwanegol yn gymwys i bob categori.
MAE FFURFLENNI ENWEBU A CHANLLAWIAU LLAWN:
FFILM NODWEDD/TELEDU (132 KB) Dyddiad cau - 28 Ionawr, 2011
FFURF BYR (60 KB) Dyddiad cau - 14 Chwefror, 2011
TEITLAU (57 KB) Dyddiad cau - 14 Chwefror, 2011
CYFRYNGAU NEWYDD (60 KB) Dyddiad cau - 14 Chwefror, 2011
Yn dilyn y broses feirniadu cyhoeddir y Rhestr Fer Derfynol o Enwebai gan BAFTA yng Nghymru a chyhoeddir enwau’r Enillwyr yn y Seremoni Wobrwyo lle y byddant yn derbyn Mwgwd BAFTA Cymru a grëwyd gan Toby Peterson sydd yn seiliedig ar ddyluniad gan y diweddar gerflunydd Mitzi Cunliffe.
Edrychwn ymlaen at dderbyn eich ceisiadau!