Time: 18:00
Location: Cineworld, Heol Mary Ann, Caerdydd
Mae categoriau Ffurf Byr ac Animeiddio Byr yng Nghwobrau EE Ffilm yr Academi Brydeinig yn dathlu a gwobrwyo ffilmiau byr ffuglen ac animeiddio. Ymunwch a ni am ddangosiad o’r saith ffilm a gafodd eu enwebu yn 2013,gyda C&A gyda Mark Gill (awdur/ cyfarwyddwr) a Baldwin Li (awdur/cynhyrchydd) o’r ffilm The Voorman Problem a gafodd ei enwebu.
Crynodeb:
GOOD NIGHT
Mae dwy ferch yn eu harddegau yn darganfod eu bod yn cael eu gwthio i eithafion ar strydoedd Llundain pan mae ffiniau rhwng chwarae diniwed a seduction peryglus yn dechrau bod yn aneglur
THE CURSE
Mae Fatine wedi mentro yn bell o’r pentref i gyfarfod a’i hen chariad. Pam mae hi’n cael ei ddal gan bachgen bach, yr unig beth mae hi eisiau ei wneud yw mynd adref.
TUMULT
Mae llwyth o ryfelwyr Norse yn cerdded dros tir diffaith ar ol brwydr. Wedi ei anafu ac yn gwaedu, mae eu rheolwr bron ar farw. Mae ef bron a bod yn mynd i dorsglwyddo ei bwer drosodd i’w fab pan mae byddin o fath hollol wahanol yn cyrraedd.
HERE TO FALL
Pan mae merch yn derbyn galwad gan ei thad mae’n cael ei gyrru ar siwrau drwy fyd anrhefnus.
I'M FINE THANKS
Wyt ti’n iawn?
THE MAKING OF LONGBIRD
Golwg ‘tu ôl i’r llen’ ar Animeiddiwr/Gwneuthurwr Ffilm wrth iddo stryffaglu gyda ei gymeriad.
THE VOORMAN PROBLEM
Mae seiciatrydd yn cael ei yrru i’r carchar i archwilio un o’r carcharorion gyda cystudd arbennig – mae’n credu mai ef yw Duw.
Mae’r digwyddiad yma yn ffurfio rhan o Ddigwyddiad Croeso Academi Cyfryngau Cymru ac mi fydd diodydd a rhwydweithio i ddilyn ym mâr BAFTA Cymru yn Cineworld – croeso i bawb!