Bafta Wales

Beth sy’n digwydd

English version

Y dangosiadau a’r digwyddiadau diweddaraf yng Nghymru – o rag ddangosiadau y ffilmiau diweddaraf i ddigwyddiadau a gweithdai arbennig y diwydiant.

Sue Vertue and Steve MoffatFel rhan o Grŵp BAFTA ac yn unol â’n statws elusennol, mae ein prif amcanion yn parhau i ganolbwyntio’n gadarn ar gyflwyno rhaglen o ddigwyddiadau a dangosiadau trwy gydol y flwyddyn sydd yn cefnogi, datblygu ac ysbrydoli y ffurfiau celfyddydol o’r ddelwedd symudol ledled Cymru.

Mae ein rhaglen o ddigwyddiadau yn amrywio o drafodaethau diwydiant mawr i ddangosiadau o ffilmiau a chynyrchiadau teledu cyn eu rhyddhau yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Nod BAFTA Cymru yw cyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac amrywiol, a gyda chyfres barhaus o ddosbarthiadau meistr dan arweiniad ymarferwyr blaenllaw y diwydiant, mae Bafta Cymru’n cyflwyno rhagor heddiw o’r hyn a gredwn sydd yn ysbrydoli cynulleidfaoedd.

Yn ystod y deuddeg mis diwethaf mae BAFTA Cymru wedi bod yn llwyddiannus o ran datblygu perthynas eang gyda gwyliau a chyrff creadigol ar draws Cymru i gynhyrchu digwyddiadau unigol. Mae’r digwyddiadau hyn wedi cynnig golwg unigryw ar amrediad eang o feysydd creadigol a’n nod barhaus yw dod â’r doniau gorau, y ffilmiau a’r rhaglenni gorau a sesiynau dosbarth meistr o Gymru a thu hwnt i’ haelodau a’r cyhoedd yn gyffredinol. Mae BAFTA Cymru yn parhau i raglennu dangosiadau ffilmiau cyn eu rhyddhau ar gyfer aelodau BAFTA.

Mae BAFTA Cymru yn ceisio creu cysylltiadau partneriaeth cynaliadwy a fydd yn gymorth i greu ymwybyddiaeth o’n gweithgarwch, ategu gwerthoedd brand a dod â phobl ynghyd trwy gefnogi a hyrwyddo’r diwydiannau creadigol yng Nghymru. Mae’r traws doriad o gefnogwyr digwyddiadau yn parhau i ddangos yr ymrwymiad i gefnogi’r diwydiant a’i ddatblygiadau yn y dyfodol yng Nghymru. Mae BAFTA Cymru wedi datblygu model cynaliadwy o ddysgu a digwyddiadau cydweithredol a chreadigol sydd yn dod law yn llaw gyda thwf a thrafodaeth yn y diwydiant.

Mae ein digwyddiadau yn gyffredinol yn parhau i gynnig cyfle i rannu gwybodaeth a chymryd rhan mewn trafodaethau trwy rwydwaith amrywiol o gyrff a chwmnïau cynhyrchu o fewn y diwydiannau creadigol, cyfryngau a’r diwydiannau perthynol eraill.

Mae BAFTA Cymru yn cydnabod pwysigrwydd cynhyrchu ffilm/teledu yn Gymraeg yng Nghymru a bydd yn parhau i hyrwyddo a threfnu dangosiadau a digwyddiadau arbennig i gynulleidfaoedd newydd ac amrywiol.

  • Bydd y dangosiadau a’r digwyddiadau diweddaraf yn ymddangos yn y rhestr isod. I ddarganfod rhagor ac i archebu ar-lein, cliciwch ar y teitl digwyddiadau a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddangosiadau na digwyddiadau i’w harchebu

Dangosiad Aelodau: The Machine

Time: Thursday 30 May 2013

Location: Lefel 4, Cineworld, Mary Ann Street, Caerdydd

The Machine

Gyda’r byd tlawd wedi ei suddo i mewn i’r Rhyfel Oer gyda gelyn newydd, mae Gweinidogaeth Amddiffyn Prydain ar fin datblygu arf newydd. Mae’r prif wyddonwr Vincent McCarthy (Toby Stephens) yn darparu’r ateb gyda ei gread , ‘The Machine’ – cyborg dynol gyda sgiliau prosesu a corfforol heb ei hail. Pan mae nam yn achosi pototeip cynnar sydd yn mynd i ddinistrio ei labordy mae McCarthy yn cyflogi...

Dangosiad Aelodau: City Slacker

Time: Wednesday 12 June 2013

Location: Canolfan y Celfyddydau Chapter, Heol y Farchnad, Caerdydd.

City Slacker

Mae bywyd perffaith Amanda (Fiona Gillies) yn cael ei droi ben i waered pan mae ei wyau a chafodd ei rewi pan yn fengach yn cael ei ddinistrio. Dyw ei phartner sydd yn gaeth i’w waith (Adrian Lukis) ddim eisiau plant. Mae hi’n ei adael i ddod o hyd i ‘Slacker’ sydd yn hapus i gael babi ac hefyd i edrych ar ol y babi wrth iddi hi gario ymlaen gyda ei gyrfa. Er bod ei thad (Tom Conti) yn ymyrryd...

Dangosiad Aelodau: The Internship

Time: Thursday 27 June 2013

Location: Lefel 4, Cineworld, Mary Ann Street, Caerdydd

The Internship

Mae dau gwerthwr gyda gyrfaoedd sydd wedi ei effeithio gan yr oes ddigidol yn ffeindio ei ffordd i fewn i gwrs preswyl yn Google, lle mae angen iddynt gystadlu gyda grŵp o ysgolheigion technegol i gael cyfle i ddod o hyd i waith.