07 September 10
Dysgwch ragor am dîm bychan ond ymroddedig BAFTA yng Nghaerdydd.
Fel Cyfarwyddwr Dros Dro newydd BAFTA yng Nghymru, mae Allison yn dod â dros bum mlynedd ar hugain o brofiad o weithio yn y diwydiant Ffilm a Theledu.
Dechreuodd Allison ei gyrfa gyda Darllediadau Allanol wedi’i lleoli yn BBC Llundain ac wedyn symud i gyfleusterau gyda grŵp Samuelson. Bu Allison wedyn yn arwain Comisiwn Sgrîn Cymru. Yn 2006 ymunodd Allison â Llywodraeth Cymru i weithio yn yr hyn oedd yr adeg honno yn dîm Diwydiannau Creadigol oedd newydd ei sefydlu. Yma ei swyddogaeth gyntaf yn y tîm oedd gofalu am y sectorau Ffilm a Theledu ac i weithio tuag at Ddiwydiant Ffilm cynaliadwy yng Nghymru. Ar ôl hynny bu’n arwain y tîm fel Uwch Reolwr Datblygu Ffilm a Darlledu o fewn y Sector Diwydiannau Creadigol.
Bu Allison yn gefnogwr brwd o BAFTA yng Nghymru dros y deng mlynedd diwethaf fel aelod o’r pwyllgor, trysorydd ac yn fwy diweddar y dirprwy Gadeirydd.
Allison Dowzell
Tel +44 (0) 2920 223898
Email allisond@bafta.org
Graddiodd Fiona o Brifysgol Morgannwg gyda Gradd Anrhydedd BA mewn Astudiaethau Diwylliannol gyda Chymdeithaseg.
Cyn ymuno â BAFTA yng Nghymru, gweithiodd Fiona mewn amryw o swyddi trefnu digwyddiadau a marchnata i rai o gyrff diwylliannol pwysicaf Cymru.
Mae Fiona bellach ar ei hail flwyddyn gyda BAFTA yng Nghymru ac yn gofalu am raglennu a chynnal dangosiadau arbennig, a threfnu digwyddiadau.
Mae Fiona yn hoff o ffilmiau, celf, ffotograffiaeth, a llenyddiaeth.
Fiona Lynch
Tel +44 (0) 2920 223898
Email fional@bafta.org
Graddiodd Laura o Brifysgol Caerdydd â BA (Anrhydedd) mewn Newyddiaduraeth, Ffilm a’r Cyfryngau.
Cyn ymuno â BAFTA yng Nghymru, bu Laura’n gweithio yn y sector Celfyddydau a’r Diwydiant Theatr yng Nghymru.
Dechreuodd Laura weithio i BAFTA yng Nghymru ym mis Ionawr, ac mae’n dal swydd y Gweinyddwr Gwobrau fel rhan o Gynllun Lleoliadau Gwaith GO Wales.
Mae diddordebau Laura hefyd yn cynnwys cerddoriaeth a ffilm, ac mae hi’n perfformio’r ‘Great American Songbook’ mewn cyngherddau ar hyd a lled y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd.
Laura Curtis
Tel +44 (0) 2920 223898
Email laurac@bafta.org