Bafta Wales

Sherlock
BAFTA Cymru
Mae BAFTA yng Nghymru yn parhau i gefnogi, datblygu a hyrwyddo diwydiannau delwedd symudol Cymru.

Er mwyn annog datblygiad BAFTA yng Nghymru ymhellach ac ehangu ein gweithgarwch ar draws y wlad, rydym yn dymuno creu sylfaen aelodaeth eang ledled Cymru a fydd yn dwyn ynghyd arbenigedd a gwybodaeth unigolion yn y diwydiannau cyfryngau a chreadigol.

Bydd hyn yn creu argraff sylweddol ar ein haelodaeth bleidleisio ac yn sicrhau bod y safonau uchaf o gyflawniadau yn cael eu cydnabod yn y seremoni Wobrwyo flynyddol. Gyda chefnogaeth ein haelodau ein ffocws fydd hyrwyddo ac annog rhagoriaeth yn y diwydiant cyfryngau yng Nghymru.

Gweler isod am gategorïau aelodaeth i bobl sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. Cliciwch y dolenni i ddarganfod rhagor.

Aelodaeth Gyflawn (Cangen Cymru)

Aelodaeth Gyflawn o BAFTA yn cynnwys manteision ychwanegol gyda BAFTA yng Nghymru

Mae’r categori hwn ar gael trwy BAFTA i unigolion sydd:

  • Wedi’u lleoli yng Nghymru ac sydd wedi gweithio’n llawn amser am bum mlynedd o leiaf mewn rôl greadigol, dechnegol neu weithrediadol yn uniongyrchol berthynol i gynhyrchu ffilmiau, gemau fideo a rhaglennu teledu a ddarlledwyd yn y DU.
  • Wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’w sector yn y diwydiant.

Mae gan yr aelodau hyn hawl i:

  • holl hawliau manteision aelodaeth BAFTA
  • hawliau a manteision ychwanegol gyda BAFTA yng Nghymru.
  • hawl i fynychu dangosiadau a digwyddiadau BAFTA yng Nghymru ac mewn mannau eraill yn y DU yn rhad ac am ddim neu am bris gostyngol.

Bydd ceisiadau am aelodaeth gyflawn (rhanbarthol) yn cael eu hystyried yn flynyddol ac fe’u dyfernir yn ôl dewis pwyllgorau aelodaeth BAFTA UK. Noder bod lleoedd yn gyfyngedig iawn.

Y dyddiad cau blynyddol ar gyfer aelodaeth gyflawn (rhanbarthol) yw 31 Mawrth

Yn ôl i’r brig

 

Aelodaeth Cangen

Cymru’n unig

Mae’r categori hwn ar gael i’r rhai:

  • Sydd â 3 blynedd o leiaf o brofiad proffesiynol yn y diwydiannau ffilm, teledu neu gyfryngau rhyngweithiol neu mewn unrhyw faes sydd yn uniongyrchol berthynol iddynt (e.e. ymchwil, action neu ddysgu).
  • Nad ydynt yn gymwys ar gyfer aelodaeth gyflawn BAFTA neu sydd â dim diddordeb mewn manteision ychwanegol aelodaeth gyflawn.

Mae hawl gan yr aelodau hyn i:

  • Hawliau pleidleisio ar gyfer Seremoni Gwobrau Cymru yr Academi Brydeinig. Hefyd mae gan pob aelod pleidleisio yr hawl i fynychu a phleidleisio yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ac i ethol Pwyllgor Reoli BAFTA yng Nghymru.
  • Mynychu rhag ddangosiadau a digwyddiadau eraill arbennig yng Nghymru trwy gydol y flwyddyn, naill ai wedi’u trefnu gan BAFTA yng Nghymru neu ar y cyd gyda digwyddiadau/cyrff eraill. Cynigir mynediad am ddim i aelodau i holl ddigwyddiadau, dangosiadau, sgyrsiau a dosbarthiadau meistr BAFTA yng Nghymru.
  • Mynediad am ddim i Sinemâu Cineworld , Odeon a VUE . Mynediad am bris gostyngol i Chapter, Caerdydd. Mae’r holl aelodau’n derbyn hysbysiad o flaen llaw trwy e-bost am bob digwyddiad/dangosiad.
  • Prynu tocynnau ar gyfraddau arbennig ar gyfer Seremoni Gwobrau Cymru yr Academi Brydeinig.

Cyfradd GWLAD gostyngol: aelodaeth CANGEN
*yn berthynol i bobl sydd yn byw ac yn gweithio dros 50 milltir o Gaerdydd. Meini prawf fel a gar gyfer aelodaeth CANGEN uchod.

pdf Lawr lwythwch Ffurflen Gais (147 KB)

Yn ôl i’r brig

Aelodaeth Cwmni Cangen (5 aelodaeth unigol)

Cymru’n unig

Mae’r categori hwn ar gael i’r rhai:

  • Sydd yn diwallu’r meini prawf ar gyfer Aelodaeth Cangen, fel uchod.

Mae gan yr aelodau hyn yr hawl i:

  • Holl hawliau a manteision Aelodaeth CANGEN.

Aelodaeth ar bris gostyngol ar gyfer 5 unigolyn sydd yn ymuno o’r u cwmni. Cynnig disgownt rhagarweiniol ar gyfer 2011/12.

pdf Lawr lwythwch Ffurflen Gais (147 KB)

Yn ôl i’r brig

Aelodaeth Myfyrwyr Cangen

Cymru’n unig

Cynigir y categori hwn i bob myfyriwr sydd yn dilyn cwrs llawn amser mewn astudiaethau’n berthynol i’r cyfryngau yng Nghymru. Rhaid darparu tystiolaeth o Statws Myfyriwr.

Mae gan yr aelodau hyn hawl i:

  • Mynychu rhag ddangosiadau a digwyddiadau eraill arbennig yng Nghymru trwy gydol y flwyddyn, naill ai wedi’u trefnu gan BAFTA yng Nghymru neu ar y cyd gyda digwyddiadau/cyrff eraill. Cynigir mynediad am ddim i aelodau i holl ddigwyddiadau, dangosiadau, sgyrsiau a dosbarthiadau meistr BAFTA yng Nghymru.
  • Mynediad am ddim i Sinemâu Cineworld , Odeon a VUE . Mynediad am bris gostyngol i Chapter, Caerdydd. Mae’r holl aelodau’n derbyn hysbysiad o flaen llaw trwy e-bost am bob digwyddiad/dangosiad.

pdf Lawr lwythwch Ffurflen Gais (147 KB)

Yn ôl i’r brig

Prisiau Aelodaeth 2011/12
Mae blwyddyn aelodaeth 2011/2012 yn rhedeg o 1 Medi 2011 tan 31 Mai 2012 (cyfnod o 9 mis). Bydd angen adnewyddu pob aelodaeth ar 1 Mehefin 2012;

Aelodaeth Gyflawn (Cangen Cymru) : £260.00 (yn cynnwys TAW)
Noder os gwelwch yn dda: mae terfyn ar Aelodaeth Gyflawn ac mae lleoedd yn gyfyngedig iawn: ystyrir ceisiadau ar sail blynyddol. Gellir cynnig aelodaeth Cangen felly i ymgeiswyr tra bod eu cais am Aelodaeth Gyflawn yn cael ei ystyried neu os nad oes Aelodaeth Gyflawn ar gael.

Aelodaeth Cangen: £90.00 (yn cynnwys TAW)
Cymru yn unig.

Aelodaeth Cangen (Cyfradd Gwlad gostyngol ): £67.50 (yn cynnwys TAW
Cymru’n unig.

Aelodaeth Cwmni Cangen (5 aelodaeth unigol): £360.00 (yn cynnwys TAW)
Cymru’n unig. Cynnig disgownt rhagarweiniol ar gyfer 2011/12.

Cangen: Aelodaeth Myfyriwr: £35.00 (yn cynnwys TAW)
Cymru’n unig.

Mae pob aelodaeth ar gyfer unigolion wedi’u henwi ac ni ellir eu trosglwyddo. Mae pob cyfradd yn cynnwys TAW.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch os gwelwch yn dda gyda BAFTA yng Nghymru

Yn ôl i’r brig