You are here

CYHOEDDI’R ENILLWYR: GWOBRAU A CHANMOLIAETHAU GEMAU’R ACADEMI BRYDEINIG YNG NGHYMRU

17 June 2016

Rant Media, Thud Media a Cube Kids yn mwynhau llwyddiant yn y seremoni yng Nghaerdydd

Heddiw, cyhoeddodd yr Academi Celfyddydau Ffilm a Theledu Brydeinig yng Nghymru, sef BAFTA Cymru, enillwyr Gwobr Gemau’r Academi Brydeinig yng Nghymru a phedair canmoliaeth. Cynhaliwyd y seremoni, sydd bellach yn ei phedwaredd flwyddyn, yn y Tramshed fel rhan o Sioe Datblygu Gemau Cymru.

Enillodd Rantmedia wobr y Gêm Orau ar gyfer TV Sports Soccer. Dywedodd Anton Faulconbridge o Rantmedia: “Mae TV Sports Soccer yn ddehongliad hollol unigryw o’r chwaraeon mwyaf poblogaidd yn y byd. Gyda DNA o deitlau retro clasurol fel Sensible Soccer a gemau arcêd modern fel Crossy Road, mae TV Sports Soccer yn gêm gyflym, ddiddiwedd, arddull blociau o goliau, goliau a mwy o goliau.”

Enillodd Thud Media dair canmoliaeth ar gyfer Cyflawniad Artistig, Dylunio Chwarae Gêm, a Sain a Cherddoriaeth ar gyfer Boj Smoothies, sef gêm liwgar, hwyliog ac addysgol lle gall plant ddysgu enwau cynhwysion gwahanol, dilyn patrymau, amlygu lliwiau, gwella eu cof ac ymatebion.

Derbyniodd Cube Kids y ganmoliaeth Cyflawniad Technegol ar gyfer Teletubbies.  
Dywedodd Aled Parry o Cube Kids “Gobeithiwn mai hon fydd y gyntaf o lawer mwy wrth i ni barhau â’n gwaith arloesol ym maes gemau a theledu yn y farchnad plant.”

Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru: “Llongyfarchiadau enfawr i enillwyr ein Gwobr Gêm Orau a’n canmoliaethau eleni. Rydym yn falch iawn i gynorthwyo’r diwydiant gemau sy’n tyfu yng Nghymru ac amlygu cyflawniadau’r nifer cynyddol o gwmnïau sy’n dechrau yng Nghymru neu’n adleoli yma.

“Rydym hefyd yn falch i gynnal a chynorthwyo digwyddiadau yn ne a gogledd Cymru, sy’n dod ag ymarferwyr gemau, ffilm a theledu, â’r cyfryngau creadigol ehangach a’r sector diwylliannol, at ei gilydd, i helpu cynorthwyo twf y diwydiant, fel ein digwyddiad Doing Digital, Thinking Digital a digwyddiad Level Up ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam. Rydym yn edrych ymlaen at ymgysylltu â mwy o ymarferwyr y diwydiant wrth iddyn nhw ddod yn aelodau o BAFTA Cymru.”

Yn ogystal, cynhaliodd BAFTA Cymru brif araith Dewi Vaughan Owen gydag enillydd gwobr BAFTA a Breakthrough Brit, Catherine Woolley, yn Sioe Datblygu Gemau Cymru a chynnal Parth Gemau yn nigwyddiad diweddar Digital 16 i hyrwyddo gwaith enwebeion blaenorol a phresennol Gwobrau Gemau Cymru o’r sector gemau sy’n tyfu.


ENWEBIADAU 2016 Â’R ENILLWYR WEDI’U HAMLYGU 

Gwobr y Gêm Orau, noddwyd gan Adran Datblygu Gemau Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
Rantmedia TV Sports Soccer

Wales Interactive Soul Axiom
Thud Media / Toots Enterprises Ltd Toots Race

Canmoliaeth Cyflawniad Artistig, noddwyd gan Ubisoft
Thud Media / Pesky Productions Ltd Boj Smoothies

Squarehead Studios Ltd Star Ghost
Cube Kids Teletubbies

Canmoliaeth Dylunio Chwarae Gêm
Thud Media / Pesky Productions Ltd Boj Smoothies

Squarehead Studios Ltd Star Ghost
Cube Kids Teletubbies

Canmoliaeth Sain a Cherddoriaeth, noddwyd gan Spiros
Thud Media / Pesky Productions Ltd Boj Smoothies


BBC Cymru Wales, BBC Digital Creativity, Aardman Animations Doctor Who Game Maker
Cube Kids Teletubbies

Canmoliaeth Cyflawniad Technegol, noddwyd gan SEGA
Cube Kids Teletubbies


BBC Cymru Wales, BBC Digital Creativity, Aardman Animations Doctor Who Game Maker
Tell Player Limited Mr Quin