You are here

Dathlu 25 Blynedd o Wobrau BAFTA Cymru

29 June 2016

Neithiwr, ymunodd rhai o sêr mwyaf llewyrchus byd ffilm a theledu Cymru â Ffilm Cymru Wales a BAFTA Cymru i ddathlu dau achlysur arbennig.

29ain Mehefin 2016    

Yn y soirée yn Llundain neithiwr (28 Mehefin), a gyflwynwyd gan gwmni cyfreithiol y cyfryngau, Sheridans, daeth gwesteion uchel eu parch, gan gynnwys y cyflwynydd teledu, Griff Rhys Jones, DJ Radio 1, Huw Stephens, a’r actor a’r awdur a enwebwyd am wobr BAFTA, Celyn Jones, ynghyd i gwrdd â doniau amrywiol o ddiwydiant ffilm a theledu Cymru, yn ogystal a gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant ym Mhrydain. 

Wrth i BAFTA Cymru ddathlu 25 mlwyddiant ei Wobrau, a Ffilm Cymru Wales yn nodi ei 10 mlwyddiant, daeth y ddau sefydliad ynghyd i arddangos doniau llwyddiannus o Gymru; tynnu sylw at y cyfraniad hanfodol y mae ffilm a theledu yn gwneud i’n diwylliant a’n heconomi; a rhannu’r datblygiadau diweddaraf ar sut mae’r sector yng Nghymru yn datblygu. 

Roedd y gwesteion yn y digwyddiad hefyd yn cynnwys Clare Sturges, gwneuthurwr ffilm sydd wedi ennill gwobr BAFTA a chynrychiolwyr o’r BFI, BBC, Pinewood Pictures a Llywodraeth Cymru. 

Yn ei haraith i agor y digwyddiad, meddai Cadeirydd CAFTA Cymru, Angharad Mair, “Mae dau sefydliad a cherrig milltir pwysig yn cael eu dathlu yma heno. 25 mlynedd yn ôl ni allem fod wedi dychmygu cymaint fyddai Cymru wedi datblygu yn nhermau ffilm a theledu – pwy fyddai’n meddwl y byddai gan Pinewood stiwdios ffilm yng Nghymru, y byddai Dr Who yn gyfystyr â Chaerdydd, ac y byddai gan S4C 3 enwebiad Oscar i’w henw? Mae ffilm a theledu, a’r diwydiannau creadigol yn cyfrannu’n sylweddol i economi Cymru, ac mae’r dathliad yma heno yn atgyfnerthu’n gadarnhaol y cyflawniadau hynny. Er mai cenedl fach ydym, gallwn fod yn rhyfeddol o falch o ddoniau a llwyddiannau Cymru.”

Gan edrych tua’r dyfodol, meddai Michael Gubbins, Cadeirydd Ffilm Cymru Wales, "Mae yna deimlad cryf o fomentwm y tu ôl i'r diwydiannau ffilm a chlyweledol yng Nghymru. Mae Ffilm Cymru Wales ac ein ffrindiau da yn BAFTA wedi gweithio'n hynod o galed i sefydlu Cymru fel canolfan ar gyfer talent, ac ar gyfer y busnesau sy'n cynnal y dalent. Credwn ein bod yn rhoi polisïau ac arferion cynhwysol ac arloesol ar waith a fydd yn sicrhau bod llwyddiannau heddiw yn ddim ond y dechrau o ddyfodol cyffrous. "

Nesaf, bydd Ffilm Cymru Wales yn cynnal digwyddiad ar gyfer carfan Magnifier yng Nghaerdydd ar 15fed, gan gefnogi cwmnïau i wneud y gorau o’u syniadau da – nodi cyfleoedd i ddatblygu eiddo deallusol megis gemau, cyhoeddiadau, traciau sain, addasiadau ac asedau addysgol y tu hwnt i’r ffilm ei hun; ochr yn ochr a gwaith cynllunio cynnar i ehangu ymwybyddiaeth y farchnad a chynulleidfa ar gyfer eu prosiectau.  

Caiff Seremoni Wobrwyo The British Academy Cymru 2016 ei chynnal yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, ar 2il Hydref. Roedd enillwyr y llynedd yn cynnwys ffenomen deledu S4C, Y Gwyll / Hinterland, sgôr gwreiddiol Gruff Rhys ar gyfer drama Dylan Thomas, Set Fire to the Stars, a gwobr arbennig i’r cyfarwyddwr Euros Lyn (Broadchurch, Happy Valley), y bydd ei ffilm hir gyntaf, Y Llyfrgell / The Library Suicides, a gynorthwywyd gan Ffilm Cymru Wales, yn cael ei rhyddhau yn sinemâu Prydain ar 5ed Awst.