You are here

Cyhoeddi’r Enwebiadau Ar Gyfer Gwobrau BAFTA Cymru 2023

6 September 2023
Event: Awards ImageryDate: Miscellaneous DatesVenue: BAFTA, 195 Piccadilly, London-BAFTA

Heddiw, mae BAFTA yng Nghymru, sef BAFTA Cymru, yn cyhoeddi’r enwebiadau ar gyfer Gwobrau BAFTA Cymru 2023, sy’n anrhydeddu rhagoriaeth ac yn dathlu doniau creadigol ar draws ffilm a theledu yng Nghymru.

Datgelir yr enwebiadau ar gyfer pob un o’r 22 o gategorïau cystadleuol sy’n rhychwantu crefft, perfformio a chynhyrchu, a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn seremoni Gwobrau Cymru ar 15 Hydref. Gallwch weld y rhestr lawn o enwebiadau YMA.

Dyma’r uchafbwyntiau:

  • Saith enwebiad ar gyfer Y Sŵn
  • Pum enwebiad ar gyfer Stori’r laith
  • Pedwar enwebiad ar gyfer Greenham
  • Tri enwebiad ar gyfer Chris a'r Afal Mawr
  • Tri enwebiad ar gyfer y Dramâu Teledu His Dark Materials, The Lazarus Project a The Pact.
  • Mae’r categorïau perfformio’n cynnwys pum unigolyn a enwebwyd am wobr BAFTA Cymru am y tro cyntaf, sef Graham Land, Katie Wix, Owain Arthur, Rakie Ayola a Taron Egerton.

Fel y cyhoeddwyd yn flaenorol, mae Gwobr Arbennig Siân Phillips wedi cael ei dyfarnu i Rakie Ayola. Gweler y datganiad i'r wasg yma.

Dywedodd Cadeirydd BAFTA Cymru, Angharad Mair;

“Gyda gwaith cynhyrchu ffilm a theledu o Gymru yn cyrraedd pob cwr o’r byd, mae nodi, dathlu a hyrwyddo ein talent a chreadigrwydd yn bwysicach nag erioed.

Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld twf aruthrol yn y sectorau creadigol yma yng Nghymru ac mae wedi bod yn wych gweld cynnydd yn nifer y lleoliadau a chynyrchiadau Cymreig ar y sgrin yn rhyngwladol ac yn fyd-eang.

Nod Gwobrau BAFTA Cymru yw dathlu rhagoriaeth ar draws y diwydiannau sgrin, ac fel Cadeirydd BAFTA Cymru, rwy’n hynod o falch ac yn llawn cyffro i weld pa berlau creadigol fydd yn rhagori yn ystod Gwobrau Cymru eleni. Llongyfarchiadau gwresog i bawb sydd wedi cael eu henwebu.”

Bydd seremoni 2023 yn cael ei chynnal yn yr ICCW yng Nghasnewydd am y tro cyntaf, a gall cynulleidfaoedd gartref ddilyn y cyffro wrth iddo ddigwydd ar sianel YouTube BAFTA. Bydd y cyflwynydd teledu poblogaidd o Gymru, Alex Jones, wrth y llyw unwaith eto, a bydd llu o sêr yn ymuno â hi i helpu i gyflwyno’r gwobrau ar y noson.

Alex yw un o’r cyflwynwyr teledu mwyaf poblogaidd yn y Deyrnas Unedig ac mae wedi cydgyflwyno The One Show, sef prif raglen gylchgrawn BBC One, am 13 blynedd. Dechreuodd Alex ei gyrfa fel ymchwilydd teledu yng Nghymru cyn symud i ochr arall y camera gyda’i swydd gyflwyno gyntaf ar BBC Choice. Yna, ymunodd Alex ag S4C fel cyflwynydd ar y rhaglen ganu Cân i Gymru ac aeth ymlaen i gyflwyno amrywiaeth o raglenni plant, chwaraeon a theithio. 

Cyn y Gwobrau, dywedodd Alex ba mor falch ydoedd o gyflwyno unwaith eto eleni.

 “Rwyf wrth fy modd i fod yn cyflwyno Gwobrau BAFTA Cymru eleni eto ac i ddathlu’r holl gynyrchiadau ffilm a theledu sy’n cael eu cynhyrchu yng Nghymru. Mae bod yn rhan o ddigwyddiad sy’n hyrwyddo a dathlu'r holl dalent a chreadigrwydd gwych sy’n dod allan o’m mamwlad bob amser yn bleser. Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi cael eu henwebu ac edrychaf ymlaen at gael eich cwmni ar y noson.”

Mae noddwyr a phartneriaid Gwobrau BAFTA Cymru ar gyfer 2023 wedi cael eu cadarnhau, sef Acqua Panna, Bad Wolf, BBC Cymru Wales, Champagne Taittinger, Channel 4, Deloitte, EE, Eric James Transport Services, Gorilla, Lancôme, S4C, S.Pellegrino, Villa Maria.

– DIWEDD –

Nodiadau i Olygyddion

Gallwch weld y rhestr lawn o enwebiadau YMA.

Ar gyfer yr holl ymholiadau gan y cyfryngau ynglŷn â’r enwebiadau a’r seremoni, cysylltwch â: Nia Medi 
E: [email protected]
Ff: 07706 860925

Ffotograffiaeth BAFTA

Bydd delweddau hyrwyddol cyn y Gwobrau o wobr ‘masg’ BAFTA Cymru, cyflwynydd y seremoni ac unrhyw gynnwys ychwanegol ar gael i’w lawrlwytho trwy lyfrgell ffotograffiaeth BAFTA yma.

Bydd detholiad o ddelweddau o garped coch, seremoni ac ardal ystafell wasg yr enillwyr o Wobrau BAFTA Cymru 2023 ar gael hefyd trwy’r un ddolen o oddeutu 18:00PM (BST) ymlaen, ddydd Sul 15 Hydref 2023, a bydd setiau llawn o ddelweddau ar gael i’w syndicetio’n uniongyrchol o Getty Images.

Ar gyfer ymholiadau lleoli neilltuedig a delweddau defnydd personol, cysylltwch â [email protected].

Mae BAFTA Cymru yn ymestyn cenhadaeth elusennol BAFTA ar draws y Deyrnas Unedig i gefnogi cymunedau creadigol Cymru trwy amlygu ehangder a llwyddiant y diwydiant cynhyrchu yng Nghymru, nodi a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o dalent, a dod â’r enghreifftiau gorau oll o waith ym myd ffilm, gemau a theledu yng Nghymru i sylw’r cyhoedd yn fyd-eang. Uchafbwynt calendr digwyddiadau BAFTA yng Nghymru yw seremoni flynyddol Gwobrau BAFTA Cymru, sy’n arddangos gwaith sydd wir yn adlewyrchu’r gorau yn y wlad ym myd ffilm a theledu, gan wneud gwahaniaeth i’r rhai sy’n cynhyrchu gwaith creadigol yn ogystal â’r rhai sy’n ei wylio. www.bafta.org/television/cymru-awards.

I gael gwybod mwy, ewch i www.bafta.org. Mae BAFTA yn elusen gofrestredig (rhif 216726).