You are here

Cyhoeddiad enwebiadau Gwobrau yr Academi Brydeinig yng Nghymru 2019

5 September 2019

Y ffilm ddogfen Anorac sy’n arwain y ffordd gyda chwe enwebiad

Pum enwebiad yr un i ffilm Netflix Apostle a drama deledu S4C Enid a Lucy

19 o enwebiadau tro cyntaf wedi’u cadarnhau ymhlith y nifer fwyaf o geisiadau a gafwyd erioed

Rydym wedi cyhoeddi’r enwebiadau ar gyfer Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru, sy’n anrhydeddu rhagoriaeth mewn darlledu a chynhyrchu ym myd ffilmiau, gemau a theledu yng Nghymru.

Gwnaed y cyhoeddiad yn fyw ar Facebook am y drydedd flwyddyn yn olynol gan Elin Fflur.

Bydd yr 28ain seremoni’n cael ei chynnal ar 13 Hydref 2018 yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ac fe’i cyflwynir gan Huw Stephens am y bumed flwyddyn. Bydd y seremoni’n cynnwys perfformiad gan westai arbennig a chyflwynwyr gwobrau enwog sy’n cynrychioli’r gorau o ddiwydiannau creadigol a chyfryngau’r Deyrnas Unedig.

Eleni, bydd Gwobrau’n cael eu cyflwyno ar draws 24 o gategorïau cynhyrchu, perfformio, crefft a gemau, yn ogystal â dwy wobr arbennig am gyfraniadau eithriadol i’r diwydiant rhyngwladol gan unigolion o Gymru.

“Bu’n flwyddyn wych i gynhyrchu ffilm, teledu a gemau yng Nghymru. Roedd y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2019, sef ein cyfnod ceisiadau, wedi gweld amrywiaeth arbennig o adloniant gan gwmnïau o Gymru a chynyrchiadau o’r tu allan a ddewisodd weithio yng Nghymru,” meddai Cyfarwyddwr BAFTA, Hannah Raybould

“Mae hyn wedi arwain at fwy o geisiadau – y nifer fwyaf a gofnodwyd erioed – ar draws ein holl gategorïau crefft, perfformio a chynhyrchu. Mae seremoni’r Gwobrau ar 13 Hydref yn addo bod yn dipyn o noson a gwahoddwn unrhyw un sydd â diddordeb yn niwydiant Cymru i ymuno â ni, a darganfod mwy am yr enwebeion a sut y gallant gymryd rhan.”

Anorac, sef ffilm deithio am gerddoriaeth Gymraeg, sy’n arwain y ffordd gyda chwe enwebiad. Mae’r ffilm wedi’i henwebu yn y categori Ffilm Nodwedd/Deledu, mae Huw Stephens wedi’i enwebu yn y categori Cyflwynydd, ac mae’r cyn enillydd Madoc Roberts wedi’i enwebu yn y categori Golygu. Mae Gruffydd Davies wedi’i enwebu yn y categori Cyfarwyddwr: Ffeithiol; mae Joni Cray a Gruffydd Davies wedi’u henwebu yn y categori Ffotograffiaeth: Ffeithiol ac mae Jules Davies wedi cael ei enwebiad BAFTA cyntaf yn y categori Sain.

Mae’r ffilm Apostle, a wnaed ar leoliad yn ne Cymru, wedi cael ei henwebu yn y categorïau Actor ar gyfer yr enillydd BAFTA Michael Sheen ac Effeithiau Arbennig a Gweledol ar gyfer Bait Studio, ac mae enwebiadau tro cyntaf yn y categorïau Dylunio Gwisgoedd ar gyfer Jane Spicer, Colur a Gwallt ar gyfer Claire Williams a Dylunio Cynhyrchu ar gyfer Thomas Pearce.

Mae’r gyfres ddrama Enid a Lucy wedi cael 5 enwebiad hefyd. Mae Eiry Thomas yn cael ei 5ed enwebiad yn y categori Actores, Angharad Owen yn y categori Golygu a’r enillydd BAFTA Rhys Powys yn y categori Cyfarwyddwr: Ffuglen. Mae’r gyfres hefyd wedi’i henwebu yn y categori Drama Deledu ac mae’r actor Steffan Cennydd wedi cael enwebiad Torri Trwodd ar gyfer ei rôl.

Mae’r gyfres ddiweddaraf o Doctor Who yn cael 4 enwebiad – yn y categori Actores ar gyfer yr enwebai tro cyntaf Jodie Whittaker, Dylunio Cynhyrchu ar gyfer Arwel Wyn Jones sy’n cael ei 7fed enwebiad; ac yn y categorïau Effeithiau Arbennig a Gweledol a Drama Deledu.

Yr enwebeion eraill yn y categori Actores yw’r enillydd BAFTA Sian Gibson ar gyfer Peter Kay’s Car Share a’r enwebai tro cyntaf Gabrielle Creevey ar gyfer In My Skin.

Yr enwebeion eraill yn y categori Actor yw Anthony Hopkins ar gyfer King Lear, Celyn Jones ar gyfer Manhunt a Matthew Rhys ar gyfer Death and Nightingales.

Yr enwebeion eraill yn y categori Ffilm Nodwedd/Deledu yw’r cynyrchiadau tro cyntaf Last Summer a Pink Wall.

Yr enwebeion yn y categori Awdur yw Andrew Davies ar gyfer Les Miserables, Fflur Dafydd ar gyfer 35 Awr, Owen Sheers ar gyfer NHS To Provide all People a Russell T Davies ar gyfer A Very English Scandal.

Rina Yang yw’r Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth benywaidd cyntaf i’w henwebu yng nghategori Ffotograffiaeth a Goleuo: Ffuglen Gwobrau Cymru.

Mae 4 stori a arweinir gan fenywod yn y categori Drama Deledu eleni – Doctor Who, Enid a Lucy, In My Skin ac On the Edge: Through the Gates.

Bydd derbynyddion Gwobr Siân Phillips, a noddir gan Bad Wolf a Gwobr Arbennig BAFTA am Gyfraniad Eithriadol i Ffilm a Theledu, a noddir gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cyhoeddi mewn Parti i’r Enwebeion yn gynnar ym mis Hydref. Bydd y ddwy Wobr yn cael eu cyflwyno yn y seremoni ar 13 Hydref.

Bydd y seremoni’n cael ei ffrydio’n fyw ar Facebook a YouTube o Neuadd Dewi Sant unwaith eto eleni, a bydd digwyddiad gwylio arbennig yn cael ei gynnal gan Gymry Efrog Newydd yn The Liberty ym Manhattan.

Unwaith eto eleni, bydd BAFTA yn ffrydio cyfweliadau â gwesteion ac enwebeion yn fyw i Facebook o’r carped coch.


Mae’r noddwyr a’r partneriaid canlynol sy’n dychwelyd wedi cael eu cadarnhau: AB Acoustics, Prifysgol Aberystwyth, Acuity Law, Audi UK, Bad Wolf, BBC Cymru Wales, Bluestone Brewery, Buzz Magazine, Canolfan S4C yr Egin, Capital Law, Cyngor Caerdydd, Champagne Taittinger, Channel 4, Cuebox, Deloitte, DRESD, Elstree Light and Power, Genero, Gorilla, ITV Wales, Ken Picton Salon, Mad Dog 2020 Casting, Radisson Blu, San Pellegrino/Acqua Panna, S4C, Neuadd Dewi Sant, Taylor Bloxham, The Social Club, Agency, Trosol, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Villa Maria, Waterstone Homes, Llywodraeth Cymru, Ysgol Ffilm a Theledu Cymru a Working Word.

Cewch wybod mwy am ein partneriaid yma

Pris tocynnau i fynd i’r derbyniad Siampên Taittinger, y Gwobrau a’r Parti yw £98 yr un, ac maen nhw ar gael i’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol y diwydiant o tickets.bafta.org.

Gall aelodau BAFTA Cymru brynu tocynnau am bris gostyngedig o £68 yr un, a dylai’r rhai sy’n dymuno ymuno â BAFTA Cymru ymweld â www.bafta.org/wales i gael rhagor o wybodaeth.

Mae’r enwebiadau’n gywir ar yr adeg argraffu. Mae BAFTA yn cadw’r hawl i newid yr enwau a restrir ar unrhyw adeg hyd at 13 Hydref 2019


Rhestr lawn o Enwebeion Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru 2019

 

GWOBR SIÂN PHILLIPS (a noddir gan Bad Wolf)

Fe’i cyhoeddir ar 4 Hydref


CYFRANIAD EITHRIADOL I DELEDU (a noddir gan Lywodraeth Cymru)

Fe’i cyhoeddir ar 4 Hydref


ACTOR (a noddir gan AUDI UK)

ANTHONY HOPKINS fel King Lear YN King Lear

CELYN JONES fel Levi Bellfield YN Manhunt

MATTHEW RHYS fel Billy Winters YN Death and Nightingales

MICHAEL SHEEN fel Malcolm Howe YN Apostle


ACTORES (a noddir gan Waterstone Homes)

EIRY THOMAS fel Enid YN Enid a Lucy

GABRIELLE CREEVEY fel Bethan Gwyndaf YN In My Skin

JODIE WHITTAKER fel The Doctor YN Doctor Who

SIAN GIBSON fel Kayleigh Kitson YN Peter Kay’s Car Share


GWOBR TORRI TRWODD

CAI MORGAN ar gyfer amrywiol

JAMIE JONES ar gyfer Obey

SEREN JONES ar gyfer Zimbabwe, Taid a Fi

STEFFAN CENNYDD ar gyfer Enid a Lucy


RHAGLEN BLANT (a noddir gan Ganolfan S4C Yr Egin)

CYW A’R GERDDORFA

DEIAN A LOLI A’R FFARWEL

GOING FOR GOLD

PROSIECT Z


DYLUNIO GWISGOEDD

DAWN THOMAS-MONDO ar gyfer Morfydd

DINAH COLLIN ar gyfer Gwen

JANE SPICER ar gyfer Apostle


CYFARWYDDWR: FFEITHIOL (a noddir gan Capital Law)

GRUFFYDD DAVIES ar gyfer Anorac

JAMES HALE ar gyfer Hidden Wales with Will Millard

MEI WILLIAMS ar gyfer The Incurable Optimist

SUZANNE PHILLIPS ar gyfer Andrew Davies: Rewriting the Classics


CYFARWYDDWR: FFUGLEN (a noddir gan Champagne Taittinger)

JUAN CARLOS MEDINA ar gyfer A Discovery of Witches

LEE HAVEN JONES ar gyfer The Bay

MARC EVANS ar gyfer Manhunt

RHYS POWYS ar gyfer Enid a Lucy


GOLYGU (a noddir gan Gorilla)

MADOC ROBERTS ar gyfer Anorac

AL EDWARDS ar gyfer Critical: Inside Intensive Care

ANGHARAD OWEN ar gyfer Enid a Lucy

MALI EVANS ar gyfer Traitors


RHAGLEN ADLONIANT

CÂN I GYMRU: DATHLU’R 50

ELIS JAMES – CIC LAN YR ARCHIF

GERAINT THOMAS: VIVE LE TOUR

PRIODAS PUM MIL


CYFRES FFEITHIOL (a noddir gan Acuity Law)

THE CRASH DETECTIVES

CYNEFIN

HIDDEN WALES WITH WILL MILLARD

VELINDRE – HOSPITAL OF HOPE


FFILM NODWEDD/DELEDU (a noddir gan Ysgol Film a Theledu Cymru)

ANORAC

LAST SUMMER

PINK WALL


GÊM

CYCLE 28

SUPER STACKER 3

TIME CARNAGE VR


COLUR A GWALLT (a noddir gan Ken Picton)

CLAIRE PRITCHARD-JONES ar gyfer Keeping Faith / Un Bore Mercher

CLAIRE WILLIAMS ar gyfer Apostle

JAMES SPINKS ar gyfer Morfydd


NEWYDDION A MATERION CYFOES (a noddir gan Working Word)

EIN BYD

THE UNIVERSAL CREDIT CRISIS

Y BYD YN EI LE


FFOTOGRAFFIAETH A GOLEUO: FFUGLEN (a noddir gan ELP)

ADAM ETHERINGTON ar gyfer Gwen

RINA YANG ar gyfer On The Edge: Through the Gates

RYAN OWEN EDDLESTON ar gyfer The Fight


FFOTOGRAFFIAETH: FFEITHIOL (a noddir gan Genero)

MEI WILLIAMS ar gyfer The Incurable Optimist

JONI CRAY AND GRUFFYDD DAVIES ar gyfer Anorac

RICHARD HUGHES ar gyfer Secret Life of Farm Animals


CYFLWYNYDD (a noddir gan Deloitte)

ADEOLA DEWIS ar gyfer Dock of the Bay

HUW EDWARDS ar gyfer We Will Remember Them

HUW STEPHENS ar gyfer Anorac

WILL MILLARD ar gyfer Hidden Wales with Will Millard


DYLUNIO CYNHYRCHU (a noddir gan DRESD)

ARWEL WYN JONES ar gyfer Doctor Who

CATRIN MEREDYDD ar gyfer Black Mirror: Bandersnatch

JAMES NORTH ar gyfer A Discovery of Witches

THOMAS PEARCE ar gyfer Apostle


FFILM FER (a noddir gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant)

ELEN

GIRL

INVOLUNTARY ACTIVIST

STUFFED


RHAGLEN DDOGFEN SENGL (a noddir gan Brifysgol Aberystwyth)

BEING FRANK: THE CHRIS SIEVEY STORY

CRITICAL: INSIDE INTENSIVE CARE

DRYCH: CHDI, FI AC IVF

PANTOMIME IN PORT TALBOT: BALLS OF STEEL


SAIN (a noddir gan AB Acoustics)

JULES DAVIES ar gyfer Anorac

Y TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Cyngerdd Heddwch Berlin

Y TÎM CYNHYRCHU ar gyfer On The Edge: That Girl


EFFEITHIAU ARBENNIG A GWELEDOL (a noddir gan Bomper Studio)

BAIT STUDIO ar gyfer Apostle

PRODUCTION TEAM ar gyfer Doctor Who (The Doctor Falls)

REAL SFX ar gyfer Final Score


DRAMA DELEDU (a noddir gan Gyngor Caerdydd)

DOCTOR WHO

ENID A LUCY

IN MY SKIN

ON THE EDGE: THROUGH THE GATES


AWDUR (a noddir gan The Social Club. Agency)

ANDREW DAVIES ar gyfer Les Miserables

FFLUR DAFYDD ar gyfer 35 Awr

OWEN SHEERS ar gyfer The NHS: To Provide All People

RUSSELL T DAVIES ar gyfer A Very English Scandal

Ynglŷn â BAFTA a BAFTA Cymru (BAFTA yng Nghymru)

Mae’r Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu (BAFTA) yn elusen gelfyddydau annibynnol o’r radd flaenaf sy’n dod â’r gwaith gorau ym myd ffilmiau, gemau a theledu i sylw’r cyhoedd ac yn cefnogi twf doniau creadigol yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Trwy ei seremonïau gwobrwyo a’i rhaglen o ddigwyddiadau a mentrau dysgu drwy gydol y flwyddyn – sy’n cynnwys gweithdai, dosbarthiadau meistr, ysgoloriaethau, darlithiau a chynlluniau mentora yn y Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America ac Asia – mae BAFTA yn amlygu a dathlu rhagoriaeth, yn darganfod, ysbrydoli a meithrin doniau newydd, ac yn galluogi dysgu a chydweithredu creadigol. I gael cyngor ac ysbrydoliaeth gan y meddyliau creadigol gorau ym myd cynhyrchu ffilm, teledu a gemau, ewch i www.bafta.org/guru. i gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.bafta.org

Mae BAFTA Cymru yn ymestyn cenhadaeth elusennol yr Academi ar draws y Deyrnas Unedig i gefnogi cymunedau creadigol Cymru. Uchafbwynt calendr digwyddiadau BAFTA yng Nghymru yw seremoni flynyddol Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru, sef llwyfan annibynnol sy’n arddangos y gwaith sydd wir yn adlewyrchu’r gorau yn y wlad ym myd ffilmiau, teledu a gemau, gan wneud gwahaniaeth i’r rhai sy’n cynhyrchu gwaith creadigol yn ogystal â’r rhai sy’n ei wylio. www.bafta.org/wales