You are here

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau yr Academi Brydeinig yng Nghymru 2016

2 October 2016
BAFTA Cymru Awards, Show, Cardiff, Wales, UK - 02 Oct 2016Polly Thomas/BAFTA

Enillodd y ffilm ddogfen Mr Calzaghe dair gwobr BAFTA Cymru gan gynnwys y Wobr Cyflawniad Arbennig mewn Ffilm

Enillodd y ffilm Yr Ymadawiad dair gwobr grefft

Enillodd Tim Rhys Evans: All in the Mind ddwy wobr

Enillodd Mali Harries a Mark Lewis Jones y gwobrau Actores ac Actor

Derbyniodd Terry Jones o Monty Python wobr am Gyfraniad Arbennig at Ffilm a Theledu

Cyflwynwyd Gwobr Siân Phillips i’r golurwraig Siân Grigg, sydd wedi ennill gwobr BAFTA

Heno rydym wedi cyhoeddi enillwyr 25ain Gwobrau blynyddol yr Academi Brydeinig yng Nghymru. Mae’r gwobrau’n anrhydeddu rhagoriaeth mewn darlledu a chynhyrchu ym maes ffilm a theledu yng Nghymru ac wedi dathlu rhai o’r bobl fwyaf dawnus yng Nghymru dros y blynyddoedd.

Cynhaliwyd y seremoni yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, a chyflwynydd BBC Radio 1, Huw Stephens, oedd wrth y llyw unwaith eto. Roedd cyflwynwyr y gwobrau’n cynnwys yr actores Sian Phillips sydd wedi ennill gwobr BAFTA, Michael Palin a’r actor Robert Pugh.

Enillodd y ffilm ddogfen Mr Calzaghe dair gwobr BAFTA Cymru, ar gyfer Cyflawniad Arbennig mewn Ffilm, Cyfarwyddwr: Ffeithiol (Vaughan Sivell), a Sain.

Enillodd Yr Ymadawiad/The Passing dair gwobr hefyd, ar gyfer Actor (Mark Lewis Jones), Dylunio Cynhyrchiad (Tim Dickel) ac Awdur (Ed Talfan).

Enillodd Tim Rhys Evans: All in the Mind ddwy wobr ar y noson, ar gyfer Rhaglen Ddogfen Unigol a Golygu (Madoc Roberts). Enillodd Hinterland/Y Gwyll ddwy wobr hefyd, ar gyfer Drama Deledu ac Actores (Mali Harries).

Enillodd Doctor Who y categori Effeithiau Arbennig a Gweledol, Teitlau a Graffeg ac enillydd Gwobr Torri Drwodd 2015, sef Clare Sturges, oedd yn fuddugol yn y categori Ffilm Fer ar gyfer My Brief Eternity: Ar Awyr Le.

Yn y categorïau rhaglennu ffeithiol, enillwyd y wobr Cyfres Ffeithiol gan Music for Misfits: The Story of Indie (Siobhan Logue). Enillodd Rondo Media ddwy wobr ar gyfer Les Miserables - Y Daith i'r Llwyfan yn y categori Rhaglen Adloniant ac enillodd Côr Cymru - y Rownd Derfynol y categori Darllediad Byw Awyr Agored.

Will Millard a enillodd y wobr Cyflwynydd ar gyfer Will Millard in Hunters of the South Seas, a BBC Cymru Wales a enillodd y wobr Darllediadau’r Newyddion ar gyfer Argyfwng y Mudwyr a’r wobr Materion Cyfoes ar gyfer Life After April.

Derbynnydd Gwobr Sian Phillips oedd y golurwraig Siân Grigg sydd wedi ennill gwobr BAFTA, ac fe’i cyflwynwyd iddi gan yr actores Sian Phillips a dderbyniodd y Wobr Cyfraniad Arbennig gan BAFTA Cymru yn 2001, ac yr enwodd BAFTA eu hail wobr arbennig er anrhydedd iddi. Cafodd y cyflwyniad y Wobr ei ragflaenu gan dri llongyfarchiadau fideo o Ioan Gruffudd, cyfarwyddwr Suffragette Sarah Gavron a Leonardo di Caprio.

Dywedodd Di Caprio "Mae wedi bod yn brofiad anhygoel gweithio gyda ti. Ni allaf feddwl am unrhyw un yn y byd sydd yn fwy haeddiannol o’r wobr hon. Rwyt ti yn wirioneddol ysbrydoledig ac rwy'n gobeithio gweithio gyda ti am 20 mlynedd arall. "

Daeth y seremoni i ben trwy gyflwyno gwobr BAFTA Cymru ar gyfer Cyfraniad Arbennig at Ffilm a Theledu i aelod Monty Python sydd wedi’i enwebu am wobr BAFTA, Terry Jones. Cyflwynwyd y wobr iddo gan ei ffrind a chyd-aelod o griw Monty Python, Michael Palin.

Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru: “Wrth i 25ain Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru ddod i ben, bu’n gyfle gwych i ddathlu enillwyr eithriadol eleni ac i ni edrych yn ôl trwy’r archifau ar yr amrywiaeth o enillwyr rydym ni wedi’u dathlu dros y blynyddoedd a myfyrio ar sut mae’r diwydiant wedi datblygu ers i BAFTA sefydlu yng Nghymru. Edrychwn ymlaen at y 25 mlynedd nesaf o ddathlu doniau  yn y wlad hon a gweithio gyda’n holl enwebeion ac enillwyr ar ddigwyddiadau BAFTA Cymru sydd i ddod er mwyn annog ac ysbrydoli pobl ddawnus yng Nghymru i ddatblygu ac ymuno â’n diwydiant bywiog.”


ENILLWYR GWOBRAU’R ACADEMI BRYDEINIG YNG NGHYMRU YN 2016
 
DRAMA DELEDU a noddwyd gan Pinewood
Y TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Y Gwyll / Hinterland – Hinterland Films 2 Ltd/Fiction Factory/BBC Wales/S4C
 
DYLUNIO CYNHYRCHIAD a noddwyd gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
TIM DICKEL ar gyfer Yr Ymadawiad – Severn Screen
 
CYFARWYDDWR: FFEITHIOL a noddwyd gan Capital Law
VAUGHAN SIVELL ar gyfer Mr Calzaghe – Western Edge Pictures, Gennaker Group
 
FFOTOGRAFFIAETH: FFEITHIOL a noddwyd gan Westy a Sba Dewi Sant
ALED JENKINS ar gyfer Patagonia with Huw Edwards – BBC Cymru Wales
 
CYFRES FFEITHIOL a noddwyd gan Faes Awyr Cymru Caerdydd
SIOBHAN LOGUE ar gyfer Music for Misfits: The Story of Indie – Telesgop
 
RHAGLEN ADLONIANT a noddwyd gan Sugar Creative
HEFIN OWEN ar gyfer Les Miserables – Y Daith i’r Llwyfan – Rondo
 
RHAGLEN BLANT (YN CYNNWYS ANIMEIDDIO) a noddwyd gan Bluestone
FFILMWORKS ar gyfer Dad – Ffilmworks 
 
FFILM FER a noddwyd gan Brifysgol De Cymru
CLARE STURGES ar gyfer My Brief Eternity: Ar Awyr Le – Brightest Films
 
CYFLAWNIAD ARBENNIG MEWN FFILM / FFILM DELEDU a noddwyd gan Goleg Caerdydd a’r Fro
Y TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Mr Calzaghe - Western Edge Pictures, Gennaker Group
 
ACTOR a noddwyd gan Audi
MARK LEWIS JONES fel Stanley yn Yr Ymadawiad – Severn Screen
 
MATERION CYFOES a noddwyd gan Genero
Y TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Life After April – BBC Wales
 
DARLLEDIADAU’R NEWYDDION a noddwyd gan Working Word
Y TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Argyfwng y Mudwyr – BBC Cymru Wales
 
DARLLEDIAD BYW AWYR AGORED a noddwyd gan ELP
Y TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Côr Cymru: Y Rownd Derfynol - Rondo
 
GOLYGU a noddwyd gan Gorilla
MADOC ROBERTS ar gyfer Tim Rhys Evans – All in the Mind – Double Agent Films Ltd
 
SAIN a noddwyd gan AB Acoustics
Y TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Mr Calzaghe - Western Edge Pictures, Gennaker Group
 
GWOBR SIAN PHILLIPS a noddwyd gan Ken Picton
Siân Grigg
 
ACTORES a noddwyd gan HMV
MALI HARRIES fel DI Mared Rhys yn Y Gwyll/Hinterland – Hinterland Films 2 Ltd/Fiction Factory/BBC Wales/S4C
 
EFFEITHIAU ARBENNIG A GWELEDOL, TEITLAU A HUNANIAETH GRAFFEG a noddwyd gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Y TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Doctor Who: The Magician’s Apprentice – BBC Cymru Wales
 
CYFARWYDDWR: FFUGLEN a noddwyd gan Champagne Taittinger
LEE HAVEN JONES ar gyfer 35 Diwrnod – Apollo, Cwmni Boom Cymru
 
RHAGLEN DDOGFEN UNIGOL a noddwyd gan Brifysgol Aberystwyth
Y TÎM CYNHYRCHU ar gyfer Tim Rhys Evans – All in the Mind – Double Agent Films Ltd
 
AWDUR a noddwyd gan Ethos
ED TALFAN ar gyfer Yr Ymadawiad – Severn Screen

CYFLWYNYDD a noddwyd gan Deloitte
WILL MILLARD yn Hunters of the South Seas - Indus
 
GWOBR CYFRANIAD ARBENNIG AT FFILM A THELEDU a noddwyd gan Sony
Terry Jones

About BAFTA

The British Academy of Film and Television Arts is an independent charity that supports, develops and promotes the art forms of the moving image by identifying and rewarding excellence, inspiring practitioners and benefiting the public. In addition to its Awards ceremonies, BAFTA has a year-round programme of learning events and initiatives – featuring workshops, masterclasses, scholarships, lectures and mentoring schemes – in the UK, USA and Asia; it offers unique access to the world’s most inspiring talent and connects with a global audience of all ages and backgrounds. BAFTA relies on income from membership subscriptions, individual donations, trusts, foundations and corporate partnerships to support its ongoing outreach work. To access the best creative minds in film, television and games production, visit www.bafta.org/guru. For more, visit www.bafta.org.