You are here

Tinopolis yn hyrwyddo talent Gymreig gydag ysgoloriaeth BAFTA

19 March 2019
Headline: Scholars Reception for 2016 intakeVenue: BAFTA, 195 PiccadillyDate: 4 October 2016 BAFTA/Jonathan Birch

Mae Tinopolis yn falch o gael ymuno â BAFTA i hyrwyddo doniau Cymreig drwy ariannu dwy ysgoloriaeth olynol o’r flwyddyn yma ymlaen.

Mae Ysgoloriaeth Tinopolis BAFTA yn eistedd ochr yn ochr â rhaglen ysgoloriaethau ehangach BAFTA yn y DU, a bydd ar agor i bobl dalentog o Gymru sy’n awyddus i ddilyn gyrfa yn y byd teledu.

Yn 2019 a 2020, bydd un ymgeisydd llwyddiannus yn cael cymorth ariannol drwy gydol eu hastudiaethau ôl-radd yn ogystal â mentora gan amrywiaeth o weithwyr a gwneuthurwyr rhaglenni Tinopolis, yn dibynnu ar y meysydd maent yn dymuno arbenigo ynddyn nhw. Cynigir mentor o Bafta hefyd a mynediad am ddim i ddigwyddiadau Bafta.

Meddai Prif Weithredwr Tinopolis, Arwel Rees: “Mae gan Gymru gymuned fywiog o gynhyrchwyr teledu, ac o ystyried gwreiddiau Cymreig cryf Tinopolis, rydym yn falch dros ben o ymuno â BAFTA i gefnogi a meithrin ystod amrywiol o dalent Gymreig. Yn ogystal â chymorth ariannol, bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cefnogaeth gan fentoriaid ac arweiniad ymarferol gan weithredwyr ac ymarferwyr ar draws Grŵp Tinopolis. Cyfle gwych felly i unrhyw un sy’n dymuno ehangu eu profiad teledu.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Bafta Cymru, Hannah Raybould, “mae Tinopolis yn gwmni allweddol yn y sector Gymreig ac wedi chwarae rhan bwysig ar hyd y blynyddoedd wrth hyfforddi a chefnogi talent newydd o flaen a thu ôl y camera. Mae eu cefnogaeth trwy Ysgoloriaeth Bafta Tinopolis i gynnig cymorth i unigolion i ddilyn gyrfa yn y diwydiant teledu yng Nghymru yn gyffrous iawn ac yn ychwanegiad gwych i’r cyfleoedd a gynigir gan Bafta yng Nghymru, sy’n cynnwys digwyddiadau fel Guru Live a rhaglenni meistr”.

Am ragor o wybodaeth am yr ysgoloriaeth a sut i wneud cais ewch i'r dudalen hon