You are here

Pum peth nad oeddech yn eu gwybod am BAFTA Cymru

12 March 2015

Cewch wybod mwy am weithgaredd BAFTA Cymru gydol y flwyddyn...

Nid yn unig ym mis Hydref...

Mae BAFTA Cymru yn cynnal digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn – rhwng 70 a 80 – sy’n dathlu talent o Gymru, yn ysbrydoli’r rheiny sydd â diddordeb mewn gweithio yn niwydiant y cyfryngau creadigol a rhannu tueddiadau’r diwydiant gyda gweithwyr sefydledig. Mae’r digwyddiadau’n amrywio o rhagddangosiadau teledu a ffilm i ddigwyddiadau rhwydweithio, ciniawau gyda chomisiynwyr darlledu, dangos ffilmiau o’r archif a mwy.


Nid yn unig i aelodau...

Mae gan BAFTA Cymru rhwng 400 a 700 o aelodau ar adegau gwahanol o’r flwyddyn, gydag aelodau newydd yn ymuno bob dydd er mwyn cael mynediad at docynnau rhad ac am ddim i’r sinema, digwyddiadau, cyfleoedd rhwydweithio a’r wybodaeth sydd ar gael. Fodd bynnag, mae digwyddiadau BAFTA Cymru yn agored i’r rheiny nad ydynt yn aelodau, er bod rhaid iddynt dalu i’w mynychu. Felly, os nad ydych yn gweithio yn y diwydiant eto, er eich bod yn dyheu am wneud, gallwch fynychu’r digwyddiadau a chlywed gan y bobl sy’n cynhyrchu ffilmiau, rhaglenni a gemau yma yng Nghymru.
Mae BAFTA Cymru wedi ymrwymo i sicrhau y bydd pawb sy’n mynychu dangosiad ffilm neu ddigwyddiad yn clywed gan y dalent creadigol sydd y tu ôl i’r cynhyrchiad.


Nid yn unig yng Nghaerdydd...

Mae BAFTA Cymru yn cynnal digwyddiadau ledled Cymru. Yn ystod y blwyddyn diwethaf rydym wedi cynnal dangosiadau poblogaidd a dosbarthiadau meistri o Lanelli i Harlech ac o Brestatyn i Fynwy, ac maen nhw wrthi’n trefnu mwy fyth ar gyfer y flwyddyn i ddod. Yn ogystal, rydym yn trefnu mwy o ddigwyddiadau sy’n dathlu talent o Gymru ym mhencadlys BAFTA yn Piccadilly, Llundain, a gychwynnodd gyda Chynulleidfa gyda Michael Sheen ar 11 Mawrth, 2015. Yn ystod haf 2015, cyd-gynalwyd digwyddiadau gyda BAFTA Efrog Newydd i rhoi sylw i’r dalent o Gymru sy’n gweithio dramor.


Nid yn unig ffilm a theledu...

Mae gan Gymru sector gemau a chyfryngau rhyngweithiol sy’n tyfu ac mae BAFTA wedi bod yn cynnal seremoni wobrwyo Gemau a Chyfryngau Rhyngweithiol arbennig, sy’n rhan o Sioe Datblygu Gemau Cymru, ers 2013. Mae croeso i weithwyr proffesiynol yn y diwydiant gemau ymuno â BAFTA er mwyn cael mynediad at ddigwyddiadau a manteision eraill aelodaeth.


Nid yn unig enillwyr gwobrau

Bob blwyddyn, mae BAFTA Cymru yn gwobrwyo rhagoriaeth yn ystod Gwobrau BAFTA Cymru (2 Hydref eleni) cyn mynd ymlaen i weithio gydag enillwyr y gwobrau i “roi rhywbeth yn ôl” i’r rheiny sy’n dechrau gweithio yn y diwydiant, trwy gynnal cyfres o ddosbarthiadau meistri mewn prifysgolion a cholegau addysg bellach ledled Cymru. Maen nhw hefyd yn cydnabod talent newydd trwy’r Wobr Torri Trwodd a’r Breakthrough Brits. Fel yr unig gangen gydag aelodaeth benodol i’r rheiny sy’n dechrau gweithio yn y diwydiant, mae BAFTA Cymru hefyd yn cefnogi’r genhedlaeth nesaf o dalent, y rheiny sydd wedi bod yn gweithio yn y diwydiant am lai na thair blynedd, ac eleni maen nhw’n bwriadu lansio rhaglenni mentora a chyfres o ddigwyddiadau bychan a fydd yn cynnig cyfle i nifer cyfyngedig o bobl drafod â chynhyrchwyr rhaglenni a ffilmiau gorau Cymru.

Medd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru: “Mae BAFTA Cymru wedi dathlu talent y cyfryngau creadigol ers bron i chwarter canrif erbyn hyn ac rydym yn ymgysylltu â sector sy’n tyfu o ran cwmpas, cyrhaeddiad, maint a llwyddiant. Fel un o elusennau mwyaf blaenllaw Cymru, rhaid i ni chwarae rhan mewn annog talent newydd o bob cefndir ac o bob rhan o’r wlad i ystyried gyrfa yn y diwydiant ac yna’u cefnogi nhw i wneud eu cysylltiadau cyntaf. Fel sefydliad aelodaeth, gallwn gynnig strwythur a rhwydwaith gefnogol sy’n cynnwys cynhyrchwyr ffilm rhyngwladol, cynhyrchwyr teledu rhwydwaith, cynhyrchwyr gemau, a mwy, ac rydym ni eisiau pwysleisio ein bod ni ar agor i bawb – ein haelodau a’r cyhoedd.”

“Y sefyllfa ddelfrydol fyddai i gynhyrchwyr ffilmiau ymuno â BAFTA wrth fynychu’r coleg neu brifysgol er mwyn i ni allu eu helpu nhw i ddatblygu’r wybodaeth a’r cysylltiadau sy’n angenrheidiol ar gyfer datblygu eu gyrfaoedd, ac ymhen rhai blynyddoedd, eu gweld nhw’n sefyll ar lwyfan ein seremoni wobrwyo yn derbyn gwobr. Yna, byddem ni’n gofyn iddynt gynnal dosbarth meistri a gadael i’r cylchdro gychwyn unwaith yn rhagor!”

I cael gweld y ddigwyddiadau fydd yn cael eu cynnal yn ystod y misoedd nesaf cliciwch yma