You are here

PORTREAD O SIÂN GRIGG YN CAEL EI RODDI I BRIFYSGOL METROPOLITAN CAERDYDD, WRTH I ARDDANGOSFA DDOD I GYMRU AM Y TRO CYNTAF

25 March 2019
BAFTA Cymru Awards, Press Room, Cardiff, Wales, UK - 02 Oct 2016Thomas/BAFTA/REX/Shutterstock

Bydd yr artist colur arobryn, Siân Grigg, yn trafod ei gyrfa hyd yn hyn, mewn digwyddiad "Cynulleidfa gyda", yng Nghaerdydd

Bydd yr arddangosfa, Love of Film, yn teithio i Gymru am y tro cyntaf fel rhan o Ŵyl Diffusion, Ffotogallery

Mae’r Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu yng Nghymru, sef BAFTA Cymru, wedi cyhoeddi y byddant yn cynnal digwyddiad arbennig gyda’r  artist colur enwog, Siân Grigg, i gyd-fynd ag ymweliad arddangosfa ffotograffiaeth,  For the Love of Film: Women Leading the Way to Wales, am y tro cyntaf.

Bydd yr arddangosfa, sy’n cynnwys argraffiadau detholedig o arddangosfa ddiweddar a gynhaliwyd yn BAFTA Llundain, hefyd yn cynnwys ffotograff newydd o Siân Grigg o Gaerdydd, a dynnwyd gan Phil Fisk. Bydd y ffotograff yn cael ei  roddi gan BAFTA i Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, gan fod Siân wedi astudio yno.

Mae’r arddangosfa yn rhan o ŵyl Diffusion, Ffotogallery, a bydd yn rhad ac am ddim i’r cyhoedd, ac ar agor ar oriau penodol rhwng 9 a 27 Ebrill, yn yr Ysgol Celf a Dylunio yng Nghampws Llandaf y Brifysgol.

Mae BAFTA hefyd wedi cyhoeddi y byddant yn cynnal digwyddiad Cynulleidfa gyda Siân Grigg ar 26 Ebrill, i gydfynd â’r arddangosfa, lle bydd Siân yn trafod ei gyrfa mewn ffilmiau nodwedd rhyngwladol hyd yn hyn. Cynhelir y digwyddiad mewn partneriaeth â Sgrîn Cymru, ac mae nifer prin o docynnau ar gael i’r cyhoedd.

“Mae Siân yn un o ymarferwyr creadigol mwyaf ysbrydoledig Cymru, ac mae wedi gweithio ar ffilmiau nodwedd fel Titanic, The Revenant (lle cafodd enwebiad am BAFTA ac Oscar), Suffragette, y ffilm ddiweddar Goodbye Christopher Robin, ac Ex Machina,” meddai Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru.

“Yn dilyn cyflwyno ein Gwobr Siân Phillips arbennig i Siân yn 2016, rydym ni’n gyffrous iawn am allu dadorchuddio’r ffotograff newydd ohoni yn amgylchedd de Cymru. Bydd y noson hefyd yn cynnig cyfle i’r rheiny sy’n gweithio, neu sy’n awyddus i weithio, yn y diwydiant, i glywed am ei thaith, ei chyngor a’i safbwyntiau am yrfa ym maes ffilm. Ac, wrth gwrs, gweithio gyda Quentin Tarantino ar ei ffilm a fydd yn cael ei rhyddhau yn yr haf, Once Upon a Time in Hollywood!”

Bydd arddangosfa, For the Love of Film: Women Leading the Way, yn cael ei chynnal yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd yn ystod gŵyl Diffusion, a bydd yn cynnig cyfle i’r cyhoedd werthfawrogi gwaith Phil Fisk. Caiff yr arddangosfa ei chefnogi gan Elusen Hobson.

Mae portreadau ffotograffig Phil Fisk, sydd wedi’u trefnu’n ofalus, yn dathlu’r brwdfrydedd a’r gelfyddyd arobryn sy’n gyfrifol am sinema fodern. O asiantau castio i actorion, artistiaid colur i gynhyrchwyr, mae’r gyfres yn amlygu’r broses gwneud ffilmiau, a’r bobl sy’n gwneud i hyn ddigwydd, sef y bobl enwog o flaen y camera, a’r rheiny sy’n cuddio y tu ôl i’r llen. Mae arddull Fisk yn chwareus, yn drawiadol ac yn aml yn swrrealaidd - yn dal hanfod cymeriad a gyrfa ei destunau.

Yn rhan o’r gyfres, comisiynodd BAFTA, Fisk, i weithio gyda Siân Grigg i greu portread ar leoliad yn ne Cymru, rhywle o arwyddocâd personol i Grigg, ar ôl cael ei magu yno, a’i lleoli yma o hyd rhwng prosiectau ffilm sy’n mynd â hi o gwmpas y byd.

“Rydym ni’n falch iawn o gael cyfle i ddathlu llwyddiant Siân, sy’n dyst i’w disgleirdeb ac amrywiaeth yr arfer creadigol sy’n egwyddor arweiniol Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd,” meddai Olwen Moseley, Deon yr Ysgol.

“Mae amlygu’r amrywiaeth o ddisgyblaethau a rolau sy’n rhan o’r diwydiannau creadigol mor bwysig i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o artistiaid a dylunwyr. Mae BAFTA a phawb sy’n gysylltiedig â’r diwydiannau creadigol yn gwybod bod gwir lwyddiant yn deillio, nid o agenda gul STEM, ond o STEAMD (cymhwysiad creadigol Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) wedi’i fynegi gan gatalydd Celf a Dylunio, sef cynhwysion hanfodol ar gyfer arloesedd a hud gwneud ffilmiau. 

“Rydym ni hefyd yn falch iawn o fod yn cynnal yr arddangosfa hon o ffotograffau, fel rhan o ŵyl Diffusion, sy’n dod yn fyw trwy ddisgyblaeth greadigol arall, sef tystiolaeth o greadigrwydd dynol ar ei orau.”

 “Rydym ni’n falch iawn bod yr arddangosfa hon yn dod i Gymru a’n bod ni’n gallu ei dangos fel rhan o Diffusion,” meddai David Drake o Ffotogallery.

“Mae thema ein gŵyl, sef Sain a Llun, yn arddangos amrywiaeth o artistiaid ac unigolion sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol, ac mae’n dangos bod enw da Caerdydd fel canolfan greadigol yn mynd o nerth i nerth. Rwy’n falch iawn ein bod ni’n gallu dathlu hyn gyda’n partneriaid yn BAFTA Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd."


I brynu tocyn ar gyfer Noson yng Nghwmni Sian Grigg cliciwch yma