You are here

Pabell Sinemaes yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn croesawu dros 2000 o westeion yn ei flwyddyn gyntaf mewn tipi 40 set

4 August 2016
Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016Aled Llywelyn

Gyda 50 o ddigwyddiadau, yn ymestyn dros 8 diwrnod, ac offrwm o sgrîniadau, trafodaethau, perfformiadau cyntaf a chasgliadau archif, roedd partneriaid cydlynu y sinema newydd ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn obeithiol y byddai’r fenter newydd yn ychwanegiad poblogaidd i'r pentref drama. Ond roedd adborth y sawl yn mynychu'r digwyddiadau - mor ifanc ag un a hen ag 85 tu hwnt i'r disgwyl.

Ymysg uchafbwyntiau'r 8 diwrnod oedd sesiwn holi ac ateb gyda'r awdur, cyfarwyddwr a actor o nodwedd Cymraeg newydd Y Llyfrgel; cyfle i weld ffilmiau byr arswyd tawel newydd gyda chyfeiliant byw: a Gwaed ar y Ser gyda band byw yn chwarae trac sain arbennig a gyfansoddwyd; gweithdai i blant ddysgu i greu animeiddio a sgorau ffilm a darlleniad o nodwedd Cymraeg newydd gan y cast a'r cyfarwyddwr.

Mynychodd 2,060 o bobl y digwyddiadau yn y tipi capasiti o 40 bob dydd gan fwynhau popcorn a chyfle i weld ffilmiau a rhaglenni teledu o'r archif enillwyd BAFTA Cymru yn ogystal â'r gweithgareddau a gydlynwyd gan y 16 o bartneriaid.

"Gwych o'r diwedd i gael lle i drafod a chanolbwyntio ar ffilmiau Cymraeg," meddai Aled, 56 o Gaerdydd.

Dywedodd Hedydd, 13, o Benygroes "Profiad unigryw - yn ddiddorol ac yn rhagorol. Ffilm gwych mewn lleoliad da. "

"Mae fan a'r lle clyd a chroesawgar ar gyfer rhagolwg wych," meddai Calan, 68 o Gaerdydd.

"Profiad gwych a gwahanol ar gyfer yr Eisteddfod. Gobeithio bydd Sinemaes yma bob blwyddyn, "meddai Gwenno, 10 o Lantrisant.

"Cefais amser gwych yn gwneud cerddoriaeth i hen ffilm o’r 20au", meddai Gwydion, 13 o Rachub. "Roedd yn wych i chwarae offerynnau i Jerry y ffilm Tyke a rwy'n gobeithio bod gweithgareddau fel hyn yn y dyfodol" ychwanegodd Elen, 10 o Penybont ar Ogwr.

"Gwledd annisgwyl" meddai Judy, 65 o'r Barri.

Roedd Sinemaes yn bartneriaeth dan arweiniad BAFTA Cymru gyda Ffilm Hub Cymru, Chapter, Into Ffilm, Ffilm Cymru Wales, Y Gymdeithas Deledu Frenhinol yng Nghymru, Sgrin Cymru, BFI Net.Work, ITV Cymru Wales, S4C a'r Eisteddfod Genedlaethol.

Darllenwch mwy am Sinemaes ar BBC Cymru Fyw