Wrth i Eisteddfod Genedlaethol 2017 ddod i ben ar ddydd Sadwrn 12 Awst, rydym yn falch o ddweud bod yr ail dro o gynnal tipi sinema Sinemaes wedi bod yn fwy llwyddiannus nag yn y llynedd, blwyddyn gyntaf Sinemaes.
Dangoswyd 47 sgriniad a digwyddiad, gyda'r mynychwyr yn canmol. Daeth rhai i fwynhau popcorn, ac eraill i glywed mwy am y sefydliadau, y lleoliadau a'r gwyliau. Roedd mynychwyr Sinemaes wedi cynyddu 20% o'i gymharu â'r llynedd.
Mae uchafbwyntiau wythnos o weithgareddau wedi cynnwys gweithdai i blant; dangosiadau o ffilmiau archif newydd wedi'u digideiddio o'r 1920-1960au; premieres o raglenni teledu a fydd yn cael eu darlledu yn ddiweddarach eleni gyda sesiynau cwestiwn ac ateb gyda'r rhai creadigol y tu ôl i'r llenni.
Mae nifer o ddigwyddiadau wedi bod yn llawn, gan ein hannog i ystyried lleoliad mwy ar gyfer y rhaglen yn y dyfodol.
Trwy allu cynnig mynediad i 53 o siaradwyr gwadd, nifer ohonynt gyda chysylltiad â'r ardal leol - o animeiddwyr i gyfarwyddwyr ac actorion, mae'r cynulleidfaoedd hefyd wedi cael eu hannog i ddarganfod mwy am y gwaith sy'n cael ei greu yn y Gymraeg ar gyfer ffilm a theledu domestig a rhyngwladol ac ystyried gyrfaoedd yn y sector hwn.
Mae uchafbwyntiau eraill wedi cynnwys dangosiadau teyrnged - dathlu bywyd a gwaith y cynhyrchydd Peter Elias Jones, cynhyrchydd a anwyd ym Môn, gydag aduniad hwyliog y rhaglen gwlt i blant Miri Mawr 1970 gyda'r actorion a'r awduron allweddol. Cafwyd dangosiad Pum Cynnig i Gymro gyda sesiwn holi gyda'r actor Huw Garmon fel teyrnged i gyfarwyddwr / cynhyrchydd y ffilm, Peter Edwards. Dangoswyd y ffilm Branwen, sy'n dathlu ugain mlynedd ers darlledu eleni, a chafwyd cyfle i holi'r actores Morfudd Hughes oedd yn portreadu Branwen, siaradodd am y berthynas waith agos oedd ganddi gyda'i chyd-actor y ffilm JO Roberts, hefyd o Ynys Môn.
Bydd y rhai nad ydynt wedi gallu mynychu'r digwyddiadau nawr yn gallu gwylio detholiad o ffrydiau o'r digwyddiadau o dudalen Facebook Sinemaes a gallant weld y delweddau o'r wythnos yma.
Am y tro cyntaf eleni, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, roedd y ffrydiau byw a chyfres o ddigwyddiadau ymylol yn caniatáu mynediad i'r bobl dalentog a oedd yn ymgysylltu â Sinemaes i'r rhai nad oeddent yn mynychu'r Eisteddfod.
Mae'r digwyddiadau hyn wedi cynnwys sgriniad y ffilm a'u saethwyd yng Nghymru yn ddiweddar, Their Finest a sesiwn holi gyda'r cynhyrchydd Stephen Woolley; Gweithdy Gyrfa Glyfar gyda'r cynhyrchydd arobryn BAFTA - y ddau a gynhaliwyd yng Nghanolfan Celfyddydau Ucheldre yng Nghaergybi; dangosiad archif arbennig yn Oriel Môn yn Llangefni a gweithdy actio ar gyfer y sgrin ar gyfer actorion ifanc o Langefni gydag Aneirin Hughes Y Gwyll/Hinterland.
Roedd adborth gan y rhai a fynychodd ddigwyddiadau, o'r ieuengaf oedd yn dair oed i'r hynaf yn 89 oed yn gyffredinol gadarnhaol am y syniad o gael sinema ar faes yr Eisteddfod. Roedd nifer wedi mwynhau'r cyfle i fwynhau ffilmiau nodwedd hŷn i ffilmiau byr newydd mewn amgylchedd clyd a chroesawgar.
Cydlynir Sinemaes gan BAFTA Cymru ar rhan y partneriaid canlynol: