You are here

Parti Enwebiadau Gemau

25 May 2016

Ar ddydd Iau 26 Mai cynhaliwyd ein hail Parti Enwebeion Gwobr Gemau yr Academi yng Nghymru. Techniquest ym Mae Caerdydd yn chwarae gartref i'r digwyddiad ar gyfer enwebeion , gwesteion a phartneriaid yn y cyfryngau , lle mae mynychwyr yn gallu chwarae'r gemau nomimated , rhwydwaith ac yn derbyn eu tystysgrifau . Gwesteion hefyd yn cael eu trin i canapés o Spiros a Gemau Rebel Tiny .

 

Mae’r Academi Celfyddydau Ffilm a Theledu Brydeinig yng Nghymru, sef BAFTA Cymru, wedi cynnal ail Barti Enwebeion Gwobrau Gemau’r Academi Brydeinig yng Nghymru yn Techniquest yng Nghaerdydd, a noddwyd gan Games Dev a Phrifysgol Glyndŵr, Wrecsam; SEGA; Ubisoft; Spiros a Tiny Rebel Games.

Daeth enwebeion a gwesteion at ei gilydd i chwarae’r gemau enwebedig a derbyn eu tystysgrifau enwebu oddi wrth Angharad Mair, Cadeirydd BAFTA Cymru.

Dywedodd Angharad Mair, Cadeirydd BAFTA Cymru, “Mae’r diwydiant Gemau yng Nghymru yn ehangu i fod yn llwyddiannus iawn, ac rydym yn falch yn BAFTA Cymru ein bod ni heno’n arddangos doniau gwych a gwaith arloesol newydd, rhyfeddol. Eleni, derbyniom y nifer uchaf erioed o geisiadau, cynnydd o 25% ar ffigurau’r llynedd, sy’n wirioneddol ryfeddol. Hoffwn hefyd annog pawb sy’n gweithio yn y diwydiant cyffrous hwn i ymuno â BAFTA Cymru, gan y po fwyaf o aelodau sydd gennym, po fwyaf y gallwn sicrhau ein bod ni’n gallu cynorthwyo’r diwydiant yn ymarferol. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cael eu henwebu yma heno, fel unigolion a chwmnïau. Rydym yn falch iawn o bopeth yr ydych yn ei gyflawni.”

Roedd yr enwebeion, ar draws pob categori canmoliaethau a’r gwobrau, yn awyddus i ddod at ei gilydd a dathlu gwaith y diwydiant dros y flwyddyn ddiwethaf ac ystyried datblygiad y sector yn y dyfodol.

Gofynnom i’r rheiny a oedd yn bresennol beth oedd cael eu henwebu am wobr yn ei olygu iddyn nhw a’u cwmni.

Dywedodd Aled Parry / Cyfarwyddwr Creadigol yn Cube Kids, “Rydym yn falch iawn o’r enwebiad, sef y cyntaf ar gyfer ein menter blant newydd, Cube Kids.”

“Gobeithiwn mai hwn fydd y cyntaf o nifer, wrth i ni barhau â’n gwaith gemau a theledu arloesol yn y farchnad blant. Mae’r diwydiant gemau yng Nghymru wrthi’n tyfu ac mae angen llawer o waith meithrin o hyd; mae datblygu doniau, mynediad at gyfalaf a materion allweddol eraill yn her o hyd. Mae gwobr BAFTA yn helpu i amlygu’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud yma yng Nghymru ac, yn ei dro, mae hynny’n helpu’r diwydiant cyfan i symud ymlaen a gallu cystadlu yn y farchnad gemau fyd-eang.”
 

Dywedodd Anton Faulconbridge, Sefydlydd a Phrif Swyddog Gweithredol - Rantmedia / Rantmedia Games, “Mae bob amser yn wych cael eich cydnabod am greu rhywbeth rhagorol, ac mae cael eich enwebu am BAFTA yn enwedig, yn hwb mawr i ni. Caiff brand BAFTA ei gydnabod yn fyd-eang, ac mae hynny’n hynod o ddefnyddiol wrth ffurfio perthnasoedd newydd a chyffrous.”

“Mae’r diwydiant gemau yng Nghymru yn tyfu’n gyflym, ond mae’n gymharol ifanc o hyd. Mae cydnabod cyflawniadau yn helpu i ddod â’r gymuned at ei gilydd, ac yn darparu hwb cysylltiadau cyhoeddus a marchnata i hybu ymwybyddiaeth o waith da sy’n cael ei gyflawni – i gynulleidfa yng Nghymru ac yn rhyngwladol.“

Dywedodd David Banner, Rheolwr Gyfarwyddwr, Wales Interactive, “Mae enwebu Soul Axiom ar gyfer gwobr y Gêm Orau yn galonogol tu hwnt ac yn gydnabyddiaeth wych o waith caled ein timau dros y flwyddyn ddiwethaf.

Roedd yr enwebiad yn gadarnhaol iawn i broffil ein cwmni hefyd ac yn ychwanegu at ein henw da cynyddol yn y diwydiant gemau byd-eang. Hoffwn longyfarch ein cyd enwebeion a dymunwn bob lwc iddynt yn y Seremoni Wobrwyo ym mis Mehefin.”

“Mae cael eich enwebu ar gyfer gwobr BAFTA Cymru yn arwydd o fri yn rhyngwladol ac yn bendant yn chwarae rôl hanfodol mewn hyrwyddo’r diwydiant gemau cynyddol yng Nghymru.  Mae’n helpu i amlygu datblygwyr o Gymru ac arddangos cwmnïau gemau llwyddiannus sy’n bodoli yng Nghymru heddiw sy’n gwneud gemau o ansawdd da sy’n cael eu gwerthu ledled y byd.  Rydym ni’n ddatblygwyr gemau balch o Gymru sydd wedi bod yn ddigon ffodus i hyrwyddo Cymru trwy arddangos  Soul Axiom yn rhai o ddigwyddiadau gemau mwyaf y byd. Mae’r gêm wedi cael ei harddangos gan Nintendo, Playstation a Xbox yn GDC San Francisco, Rezzed London a Tokyo Games Show. Mae’r enwebiad diweddaraf hwn yn gam cadarnhaol arall yn ein huchelgais i sefydlu Cymru ar fap byd-eang y diwydiant gemau. “

Dywedodd Ben Cawthorne, Cynhyrchydd Creadigol yn Thud Media, “Mae enwebiad ar gyfer gwobr y Gêm Orau yn gyflawniad gwych i ni. I’r tîm yma yn Thud Media, mae’n ddilysiad gwych o’r amser, yr ymdrech a’r creadigrwydd yr ydym wedi’i roi i’r prosiect. O’n prototeip cyntaf, roeddem wedi cael ein cyffroi gan botensial y gêm hon, ac aethom ati i sicrhau ei bod yn bodloni’r potensial hwnnw o ran y canlyniad terfynol. Rydym yn hapus ein bod ni mewn cwmni da ar gyfer y wobr hon, ac yn edrych ymlaen at y prif ddigwyddiad.”

“Er mwyn i’r diwydiant gemau yng Nghymru barhau i ddatblygu fel y mae wedi’i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae mor hanfodol cael sefydliad fel BAFTA yn ein cefnogi ni. Mae’r enw da a’r cymorth y mae BAFTA yn ei gyflwyno i’r diwydiant trwy’r gwobrau, yn miniogi ffocws y gymuned datblygu leol. Fel y prif ddigwyddiad yn y Sioe Datblygu Gemau flynyddol, mae’r gwobrau hefyd yn cynorthwyo i dynnu sylw at y maes datblygu ehangach a gwaith sydd wrthi’n cael ei ddatblygu, a chwilio am gynulleidfa.”

Dywedodd Rhys Lewis, Sefydlydd/ Cyfarwyddwr, Squarehead Studios Ltd, “Mae cydnabyddiaeth BAFTA yn helpu i ddilysu’r ymdrech mawr i greu Star Ghost. Fel stiwdio un dyn, gall adeiladu ymwybyddiaeth yn y farchnad fod yn heriol. Mae enwebiadau fel hyn yn helpu i roi cydnabyddiaeth i’r stiwdio a’i gemau, y mae mawr ei hangen.”

“Mae cymorth mawreddog BAFTA yn denu sylw at faes cyffrous a blaengar o’n heconomi. Mae’n wych gweld y diwydiant gemau yng Nghymru yn ennill sylw ac yn ffynnu ar y llwyfan byd-eang.”
 

Dywedodd Kevin Moss, Cyfarwyddwr Creadigol TELL Player, “Roedd Mr. Quin yn brosiect heriol ac uchelgeisiol. Gan weithio’n agos gydag Agatha Christie Ltd, sylweddolom yn gynnar bod ein huchelgais greadigol o adrodd stori dirgelwch llofruddio glasurol mewn ffordd hollol newydd, yn cyflwyno rhai rhwystrau technegol enfawr, ond roeddem wrth ein boddau yn creu atebion a gyflwynodd profiad Christie gwirioneddol ar gyfer y genhedlaeth ap. Mae cael eich cydnabod ar gyfer yr holl waith caled a manylder ar gyfer yr ap, yn hynod werth chweil.”

“Mae Cymru yn llawn pobl greadigol, ddawnus, ac mae caniatáu iddyn nhw gael llais, llwyfan a chydnabyddiaeth yn bwysig. Mae’n caniatáu i gwmnïau ymdrechu i fod yn well, a thyfu a gweithio ar lwyfan rhyngwladol." 

Dywedodd Iain Tweedale, Pennaeth Ar-lein a Dysgu, BBC Cymru Wales, Mae’n gyffrous iawn i ni gael ein henwebu ar gyfer BAFTA Cymru gan ei fod yn adlewyrchu pwysigrwydd gemau fel ffordd o gyrraedd pobl iau yng Nghymru. Mae cael hwyl gyda chodio trwy gydweithio â brandiau mawr fel Doctor Who hefyd yn bwysig iawn i ddyfodol yr economi digidol yma yng Nghymru. Mae’n wych bod BAFTA yn canolbwyntio ar gyflawniadau’r diwydiant gemau yng Nghymru, sydd wedi tyfu’n aruthrol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae Cymru yn rhywle lle mae’r diwydiant gemau yn llawn doniau ac arbenigedd creadigol.”

Bydd enillydd gwobr y Gêm Orau a 4 o ganmoliaethau BAFTA Cymru, yn cael eu cyhoeddi yn Sioe Datblygu Gemau Cymru ar 18 Mehefin yn Tramshed yng Nghaerdydd.


ENWEBIADAU

Gêm Orau, a noddir gan Adran Datblygu Gemau Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
WALES INTERACTIVE ar gyfer Soul Axiom
Thud Media / Toots Enterprises Ltd ar gyfer Toots Race
RANTMEDIA ar gyfer TV Sports Soccer

Canmoliaeth Cyflawniad Artistig, a noddir gan Ubisoft
Thud Media / Pesky Productions Ltd ar gyfer Boj Smoothies
Squarehead Studios Ltd ar gyfer Star Ghost
CUBE KIDS ar gyfer Teletubbies

Canmoliaeth Cyflawniad Technegol, a noddir gan SEGA
BBC Cymru/BBC Digital Creativity/Aardman Animations ar gyfer Doctor Who Game Maker
Tell Player Limited ar gyfer Mr Quin
Cube Kids ar gyfer Teletubbies

Canmoliaeth Dylunio Chwarae Gêm
Thud Media / Pesky Productions Ltd ar gyfer Boj Smoothies
Squarehead Studios Ltd ar gyfer Star Ghost
Cube Kids ar gyfer Teletubbies

Canmoliaeth Sain a Cherddoriaeth, a noddir gan Spiros
Thud Media / Pesky Productions Ltd ar gyfer Boj Smoothies
BBC Cymru Wales, BBC Digital Creativity, Aardman Animations ar gyfer Doctor Who Game Maker
Cube Kids ar gyfer Teletubbies


Mae tocynnau ar gael o http://www.walesgamesdevshow.org/

Mae seremoni Gwobrau Gemau yr Academi Brydeinig yng Nghymru, a sefydlwyd gynta’ yn 2013, yn gwobrwyo un Wobr ar gyfer y Gêm Orau ac yn canmol datblygwyr a chynhyrchwyr ar draws Dylunio Chwarae Gêm, Cyflawniad Artistig, Cyflawniad Technegol, a Sain a Cherddoriaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am Wobrau Gemau’r Academi Brydeinig yng Nghymru, ewch i www.bafta.org/wales/awards