You are here

WYNNE EVANS I BERFFORMIO FEL ARTIST GWADD BAFTA YNG NGHYMRU

13 May 2011

Y TENOR CYMREIG AR LWYFAN GWOBRAU’R ACADEMI BRYDEINIG YNG NGHYMRU

Mae BAFTA yng Nghymru yn falch o gyhoeddi y bydd y tenor Cymreig, Wynne Evans, yn ymddangos fel ei Artist Gwadd yn y seremoni wobrwyo eleni.

Bydd y canwr nodedig, sy'n cael ei adnabod ledled gwlad fel yr impresario operatig Gio Compario yn yr hysbyseb teledu, yn perfformio yn fyw ar lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru yn ystod y seremoni ar Fai 29ain, 2011.

Yn wreiddiol o Gaerfyrddin, mae'r tenor sydd yn byw yng Nghaerdydd erbyn hyn yn un o'r cantorion clasurol prysuraf nawr yn y DU. Mae Wynne wedi perfformio nifer o rannau operatig yn y Royal Opera House a Glyndebourne yn ogystal ag i Opera Cenedlaethol Cymru, English National Opera a Scottish Opera.

Mae galw mawr arno hefyd fel perfformiwr mewn cyngherddau clasurol a datganiadau ar hyd a lled y wlad a gwelir ef yn rheolaidd gan filiynau o bobl yn canu cyn gemau rygbi rhyngwladol yn Stadiwm Mileniwm yng Nghaerdydd. Wedi arwyddo cytundeb chwe albwm gyda Warner Music, fe ryddhawyd albwm cyntaf Wynne mis Mawrth (A Song in My Heart), ac fe aeth yn syth i frig y siartiau clasurol.

Mae Wynne Evans yn dweud:
“Mae’n anrhydedd anferth cael perfformio yng ngwobrau BAFTA yng Nghymru eleni. Rwyf wedi mynychu’r gwobrau ambell dro ond erioed wedi bod yn rhan o’r seremoni….Rwy’n edrych ymlaen! Nid wyf yn siwr beth i berfformio eto, ond rwy’n gobeithio canu rhywbeth oddi ar yr albwm newydd.”

Dywed Lisa Nesbitt, Cyfarwyddwr BAFTA yng Nghymru:
“Rydym yn hynod o gyffrous o gael Wynne fel ein Hartist Gwadd. Does dim amheuaeth ei fod yn un o'r tenoriaid mwyaf poblogaidd a llwyddiannus yn y DU ar hyn o bryd felly rydym yn falch iawn ei fod wedi gwneud amser yn ei amserlen lawn i ddod i berfformio ar ein cyfer ni a'n gwestai. Dwi'n sicr y bydd yn cyfrannu llawer i'r 20fed Seremoni Wobrwyo a fydd, gobeithio, yn un arbennig dros ben.”

Bydd enillwyr 26 o gategoriau perfformio, rhaglenni a chrefft yn cael eu cyhoeddi yn seremoni wobrwyo BAFTA yng Nghymru eleni a gaiff ei gyflwyno gan Sian Williams a Jason Mohammad.

Mae rhai tocynnau ar gyfer y seremoni, lle bydd Wynne Evans yn perfformio, yn dal i fod ar gael i'r cyhoedd a gellir prynu rhain gan swyddfa docynnau Canolfan Mileniwm Cymru ar 029 2063 6464.

Am ymholiadau'r wasg a chyfryngau cysylltwch â: Manon Edwards Ahir
Ffôn: 07711 095470 / E-bost:[email protected]

Press Release Wynne Evans 12 05 11 Cym (67.4 KB)