You are here

Mynychwyr wedi'u cadarnhau ar gyfer Gwobrau'r Academi Brydeinig yng Nghymru

9 October 2018
Event: British Academy Cymru AwardsDate: 8 October 2017Venue: St David's Hall, Cardiff, WalesHost: Huw Stephens-Area: Branding & Set-Up BAFTA/Mei Lewis

Yr Enwebeion a’r Cyflwynwyr a fydd yn bresennol wedi’u cadarnhau ar gyfer Gwobrau Cymru ar 14 Hydref

Newydd ar gyfer 2018: Digwyddiadau gwylio yng ngogledd a gorllewin Cymru yn dod â’r diwydiant teledu a chefnogwyr ynghyd

 

Heddiw rydym wedi datgelu enwau rhai o’r enwebeion, y cyflwynwyr a’r gwesteion arbennig eraill a fydd yn bresennol yng Ngwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru, a gynhelir yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd ar nos Sul 14 Hydref.

Bydd sêr y sgrîn fawr a’r sgrîn fach yn bresennol yn 27ain seremoni BAFTA Cymru, sy’n anrhydeddu rhagoriaeth o ran perfformio a chynhyrchu ym myd ffilmiau, gemau a theledu yng Nghymru, a bydd llu o wynebau cyfarwydd yn ymuno â nhw.

Bydd y DJ a’r cyflwynydd, Huw Stephens, yn dychwelyd i gynnal y seremoni am y pedwerydd tro, lle y bydd sêr dramâu teledu a wnaed yng Nghymru, sef Born to Kill, Bang, Craith/Hidden a Keeping Faith/Un Bore Mercher yn bresennol.

Mae’r rhai a ddisgwylir ar y carped coch yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, gynhyrchwyr Bond, sef Barbara Broccoli OBE a Michael G. Wilson OBE; Aimee-Ffion Edwards (Detectorists, Peaky Blinders, Troy: Fall of a City); y cyflwynydd, Sean Fletcher; yr actor, Jason Hughes (Marcella, Midsummer Murders, Three Girls); un o gymdeithion newydd Doctor Who, sef Mandip Gill, a Sion Alun Davies (Craith/Hidden a Requiem). 

Bydd gwesteion eraill yn cynnwys Shaheen Jafargholi (Eastenders a Casualty), Joe Hurst (Wanderlust, The Casual Vacancy) a Dino Fetscher (Humans, Paranoid, Banana, Cucumber), Elen Rhys (Apostle, World War Z), Saran Morgan (Gwaith/Cartref) a’r soprano Elin Manahan Thomas.

Bydd y gwesteion yn mwynhau perfformiad byw gan y band Who’s Molly, y mae eu prif ganwr, sef Karl Morgan, yn dod o Abertawe ac a fydd yn perfformio’r gân ‘Welcome to the Good Life’ a ddefnyddiwyd ar gyfer rhaglun swyddogol ffilm ddiweddar Tom Cruise, sef Made in America. 

Mae’r enwebeion actio a fydd yn bresennol yn cynnwys Ioan Gruffudd, a enwebwyd am ei rôl yng nghyfres ITV Liar, Jack Rowan (Born to Kill), Mark Lewis Jones (Keeping Faith / Un Bore Mercher), Rhodri Meilir (Craith) Amanda Mealing (Casualty), Annes Elwy (Little Women), Gwyneth Keyworth (Craith) ac Eve Myles (Keeping Faith / Un Bore Mercher).

Mae’r enwebeion eraill ar draws y categorïau crefft a pherfformio yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, Amy Wadge, Charlotte Church, Rhod Gilbert, Will Millard, Suzanne Packer, Beti George, Gareth ‘Alfie’ Thomas, Carys Eleri, Jacob Ifan a Catrin Stewart.

Bydd y cyfarwyddwyr Philip John, Euros Lyn, Gareth Bryn a Bruce Goodison yn bresennol hefyd.

Mae derbynyddion y Gwobrau Arbennig ar gyfer 2018 wedi cael eu cyhoeddi, sef y cyflwynydd a’r newyddiadurwr, Mavis Nicholson, a’r dylunydd gwisgoedd, Lindy Hemming.

Bydd y seremoni’n cael ei ffrydio’n fyw unwaith eto ar dudalennau Facebook a YouTube BAFTA Cymru, ac fe’i gwnaed yn bosibl gan noddwyr y digwyddiad, sef Iceland a Gorilla Post Production. Os na allwch ddod a gwylio’r gwesteion yn cyrraedd, gallwch wylio darllediad o’r carped coch o 6:30pm, wedi’i gyflwyno gan Elin Fflur.

Mae 20 o gategorïau rhaglen, crefft a pherfformio yn rhan o Wobrau blynyddol yr Academi Brydeinig yng Nghymru, sy’n anrhydeddu rhagoriaeth o ran darlledu a chynhyrchu yn y byd ffilm a theledu yng Nghymru yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2017 a 31 Mawrth 2018.

Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru, “Rydym ni’n gyffrous iawn i groesawu holl enwebeion eleni i 27ain Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru ar 14 Hydref. Mae safon ac amrywiaeth yr enwebeion yn brawf amlwg o iechyd y diwydiant gemau a theledu yng Nghymru ar hyn o bryd.

Mae’r cynulleidfaoedd cynyddol sy’n dod i’r seremoni a’i gwylio trwy ein ffrwd fyw, presenoldeb 1000+ y llynedd (sef y mwyaf erioed), y gwesteion gwych sy’n cyhoeddi gwobrau a chefnogaeth y diwydiant ehangach eleni, yn dangos y rhwydwaith cefnogol o bobl broffesiynol sy’n gweithio ar gynyrchiadau yng Nghymru a chynyrchiadau sy’n dod i mewn. Gobeithiwn y bydd pawb sydd â diddordeb mewn rolau yn y diwydiant cyfryngau creadigol yn ymuno â ni i ddathlu doniau ac, yn bwysicach, cyfarfod â phobl sy’n gweithio ar frig eu rolau crefft a chynhyrchu yn ystod y noson. Mae’n ddigwyddiad gwirioneddol groesawgar ac anogwn bawb sydd â diddordeb i fynychu.”

 

Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i ymuno â’r enwebeion a gweithwyr proffesiynol y diwydiant yng Ngwobrau eleni. Mae tocynnau ar gael ar gyfer y derbyniad siampên, y seremoni a’r parti yng Ngwesty’r Radisson Blu sydd newydd gael ei adnewyddu am £98, sy’n cynnwys llyfryn argraffiad cyfyngedig i gyd-fynd â’r Gwobrau.

Gellir prynu tocynnau o Swyddfa Docynnau Neuadd Dewi Sant
029 20 878444 / www.stdavidshallcardiff.co.uk

Mae’r cwmni ôl-gynhyrchu a chyfleusterau, sef Gorilla, yn dychwelyd fel Noddwr Allweddol y Digwyddiad, ac mae’r noddwyr a’r partneriaid canlynol sy’n dychwelyd wedi cael eu cadarnhau: AB Acoustics, Prifysgol Aberystwyth, Audi UK, Bad Wolf, BBC Cymru Wales, Bluestone Brewery, Buzz Magazine, Capital Law, Cyngor Caerdydd, Champagne Taittinger, Channel 4, Clarins, Cuebox, Da Mhile Gin, Deloitte, DRESD, Elstree Light and Power, FOR Cardiff, Genero, Prifysgol Glyndŵr, Hotel Chocolat, Iceland, ITV Wales, Ken Picton Salon, Mad Dog 2020 Casting, Pinewood, Radisson Blu, San Pellegrino/Acqua Panna, S4C, Neuadd Dewi Sant, Taylor Bloxham, The Social Club, Agency, Sugar Creative, Trosol, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Villa Maria, Waterstone Homes, Llywodraeth Cymru, Working Word a’r Egin.