You are here

Mynychwyr wedi'u cadarnhau ar gyfer 25ain Gwobrau'r Academi Brydeinig yng Nghymru

23 September 2016
The Arqiva British Academy TV Awards in 2013BAFTA/Richard Kendall

Newydd ar gyfer 2016: Gwahoddiad i’r cyhoedd ymuno â sêr ac enwebeion ar y carped coch

Y seremoni i’w ffrydio’n fyw ar wefan BAFTA Cymru, nos Sul 2 Hydref

Heddiw rydym wedi datgelu enwau rhai o’r enwebeion, y cyflwynwyr a’r gwesteion arbennig eraill ar gyfer Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru a gynhelir nos Sul yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd.  

Bydd sêr y sgrîn fawr a’r sgrîn fach yn mynychu 25ain seremoni BAFTA Cymru, sy’n anrhydeddu rhagoriaeth mewn darlledu a chynhyrchu ym maes ffilm a theledu yng Nghymru, a bydd llu o wynebau cyfarwydd o fyd y theatr, cerddoriaeth a chwaraeon yn ymuno â nhw.

Bydd y DJ a’r cyflwynydd Huw Stephens yn dychwelyd i gyflwyno’r seremoni am yr eildro, lle y bydd sêr y dramâu teledu Hinterland, Gwaith Cartref, Byw Celwydd a’r ffilm The Library Suicides, a wnaed yng Nghymru, yn bresennol, y mae rhai ohonynt wedi’u henwebu am sawl gwobr BAFTA Cymru eleni.

Mae’r rhai hynny y disgwylir iddynt ddisgleirio ar y carped coch yn cynnwys, ymhlith eraill, y digrifwr a’r actor Michael Palin sydd wedi ennill gwobr BAFTA, y digrifwr Terry Jones sydd wedi’i enwebu am wobr BAFTA, y golurwraig Siân Grigg sydd wedi ennill gwobr BAFTA, y cyflwynydd ac anuriaethwraig Lowri Morgan sydd wedi ennill gwobr BAFTA Cymru, yr actor Game of Thrones Robert Pugh (derbynnydd Gwobr Sian Phillips yn 2012), Alexa Davies, Jacob Ifan, Richard Elis, Spencer Wilding, Ffion Dafis a’r digrifwr Elis James.

Mae’r cyflwynwyr a’r mynychwyr eraill sydd wedi’u cadarnhau hyd yma yn cynnwys yr actores Catrin Stewart, a enillodd y wobr Perfformiad Gorau mewn Ffilm Brydeinig yng Ngŵyl Ffilmiau Caeredin eleni am ei rôl yn The Library Suicides/Y Llyfrgell.

I ddathlu 10 mlynedd o Torchwood, bydd yr actorion Gareth David Lloyd a Naoko Mori yn bresennol, yn ogystal â Chadeirydd BAFTA Cymru, sef y cyflwynydd Angharad Mair, o Tinopolis.

Bydd cyn-enillwyr BAFTA Cymru Eve Myles, sydd ar hyn o bryd yn ymddangos yn y ddrama Victoria a Sara Lloyd Gregory a Sian Phillips hefyd yn mynychu.

Darperir adloniant y noson ar y llwyfan gan Kizzy Crawford.
A hithau’n siaradwr Cymraeg o dras Bajan, dechreuodd gyrfa’r unawdwr Kizzy Crawford, sy’n 19 oed, ddwy flynedd yn ôl yn unig; ac, yn ystod y derbyniad diodydd, gan berfformwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, sef Band Miroshnichenko.

Cynhyrchir y seremoni am yr eildro gan David Mahoney, sy’n fwyaf adnabyddus am ei waith fel cynhyrchwr digwyddiadau cerddoriaeth fyw gan gynnwys y dathliad Dinas yr Annisgwyl diweddar yng Nghaerdydd, rhaglenni teledu amrywiol ac aelod o’r ensemble lleisiol Only Men Aloud sydd wedi ennill gwobr Brit Clasurol. 

Bydd y digwyddiad yn cael ei ffrydio’n fyw ar wefan BAFTA Cymru, www.bafta.org/wales, a wnaed yn bosibl gan noddwyr y digwyddiad, sef Gorilla Post Production. 

Mae 21 categori rhaglen, crefft a pherfformiad yn rhan o 25ain Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru, sy’n anrhydeddu rhagoriaeth mewn darlledu a chynhyrchu ym maes ffilm a theledu yng Nghymru yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2016.

Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i ymuno â’r enwebeion a gweithwyr proffesiynol y diwydiant yng Ngwobrau eleni. Mae tocynnau ar gael ar gyfer y derbyniad siampên, y seremoni a’r parti hwyr am £90, sy’n cynnwys llyfryn argraffiad cyfyngedig y Gwobrau a chynigion ar gyfer bariau a chlybiau lleol.

Gellir prynu tocynnau o Swyddfa Docynnau Neuadd Dewi Sant
029 20 878444 / Neuadd Dewi Sant


Noddwyr Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru

AB Acoustics

Prifysgol Aberystwyth

Audi

BBC Cymru Wales

Bluestone

Buzz Magazine

Capital Law

Coleg Caerdydd a’r Fro

Maes Awyr Cymru Caerdydd

Cuebox

Deloitte

Da Mihle Gin

Denmaur

DW Design

ELP

Ethos

Genero

Prifysgol Glyndŵr

Gorilla

HMV

Holiday Inn Express

Hotel Chocolat

Ken Picton

Mad Dog Casting

Minuteman Press

Pinewood

Premiere Travel

Princes Gate

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

S4C

Sony

Gwesty Dewi Sant

Sugar Creative

Taittinger

Trosol

Prifysgol De Cymru

Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Villa Maria

Working Word