You are here

Gwobrau BAFTA yng Nghymru 2014: A'r enillwyr yw...

27 October 2014
British Academy Cymru Awards in 2014

Y Gwyll / Hinterland a Sherlock yn ennill tair gwobr yr un. Sherlock yn ennill gwobr y Ddrama Deledu y bu cystadlu brwd amdani. 

Tom Riley yn ennill yr Actor Gorau, Rhian Blythe yn ennill yr Actores Orau. Rhaglen uchafbwyntiau yn cael ei darlledu ar S4C am y tro cyntaf.

Y Gwyll / Hinterland a Sherlock yn ennill tair gwobr yr un. Sherlock yn ennill gwobr y Ddrama Deledu y bu cystadlu brwd amdani. Tom Riley yn ennill yr Actor Gorau, Rhian Blythe yn ennill yr Actores Orau. Rhaglen uchafbwyntiau yn cael ei darlledu ar S4C am y tro cyntaf.

Heno, mae’r Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu (BAFTA) yng Nghymru wedi cyhoeddi enillwyr 23ain Seremoni Gwobrau blynyddol yr Academi Brydeinig yng Nghymru, yn ei dathliad blynyddol o ragoriaeth mewn darlledu a chynhyrchu yng Nghymru.

Mewn digwyddiad carped coch ysblennydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd, ymunodd prif gyflwynydd Gwobrau Cymru, Jason Mohammad, â rhestr llawn sêr o gyflwynwyr, yn cynnwys Katherine Jenkins, Savjeev Bhaskar, Trystan Gravelle, Amy Beth Hayes a Tom Cullen. 

Am y tro cyntaf, darlledwyd y seremoni gyda rhaglen awr o uchafbwyntiau ar S4C am 9.30pm.

Cafodd gwesteion a gwylwyr wledd gyda pherfformiad cynhyrfus gan y gantores glasurol Katherine Jenkins, a ddaeth i’r llwyfan i berfformio’r trac ‘Sanctus’ o’i halbwm newydd, Home Sweet Home.

Roedd cynyrchiadau annibynnol i’w gweld yn amlwg yng Ngwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru eleni, gyda drama deledu yn enillydd nodedig ar y noson, wrth i gynyrchiadau o Gymru ar gyfer cynulleidfaoedd y DU a’r byd wneud eu marc.

Enillodd y gyfres ddrama noir Y Gwyll / Hinterland dair gwobr, gan gynnwys Cyfarwyddwr Ffuglen i Marc Evans, Awdur i Jeff Murphy a Ffotograffiaeth a Goleuo i Richard Stoddard. Sherlock, serch hynny, oedd yr enillydd yn y categori Drama Deledu y bu cystadlu brwd ynddo, gan ennill y wobr o flaen Y Gwyll / Hinterland a Stella. Enillodd y ddrama ditectif ddwy wobr grefftau hefyd. Dyfarnwyd gwobrau crefftau hefyd i Doctor Who, The Indian Doctor a 35 Diwrnod.

Cyflwynwyd gwobr yr Actor Gorau i Tom Riley am ei rôl flaenllaw yn y ddrama ffantasi Da Vinci’s Demons, ac aeth gwobr yr Actores Orau i Rhian Blythe am ei pherfformiad fel Grug Matthews yn y ddrama ysgol Gwaith/Cartref.

Dathlwyd llwyddiant diweddar diwydiant ffilm Cymru hefyd, gyda Playing Burton yn cael y wobr am Ffilm Nodwedd / Teledu a derbyniodd y cyfarwyddwr Keri Collins Wobr Torri Drwodd am ei gynhyrchiad cyntaf, Convenience.

Cafwyd cynrychiolaeth dda o ddarllediadau newyddion a rhaglenni dogfen teledu ar y noson, gyda rhaglen ddogfen deimladwy ar alcoholiaeth, O’r Galon - Yr Hardys: Un Dydd ar y Tro yn cael y wobr am Ddogfen Sengl. Y rhaglen o’r gweithle yn Abertawe The Call Centre enillodd y wobr Cyfres Ffeithiol, a Dylan Wyn Richards a aeth â’r wobr Cyfarwyddwr Ffeithiol am ei raglen ddogfen ar yr hanesydd Dr John Davies, Gwirionedd y Galon. Cafodd Griff Rhys Jones wobr y Cyflwynydd am A Great Welsh Adventure with Griff Rhys Jones.

Aeth gwobr eleni am Ddarllediadau’r Newyddion i dîm ITV News Cymru Wales am eu darllediad o Ddedfryd Mark Bridger. ITV Cymru Wales enillodd hefyd yn y categori Materion Cyfoes am raglen Y Byd ar Bedwar ar ganlyniad Teiffŵn Haiyan.

Roedd lle blaenllaw i ddarllediadau chwaraeon a cherddoriaeth hefyd, gyda Y Clwb Rygbi yn cael y wobr Rhaglen Chwaraeon a Darllediad Allanol Byw, Dim Byd yn cael y wobr am Gerddoriaeth ac Adloniant a Cardiff Singer of the World yn ennill y wobr am Sain.

Cafodd y gyfres animeiddiedig i blant, NiDiNi 2 ei henwi y Rhaglen Blant orau, a’r ddrama ffurf byr, The Portrait, enillodd y wobr Ffurf Byr ac Animeiddio. Ryan Owen Eddleston enillodd y wobr Ffotograffiaeth Ffeithiol am ei waith ar Timeshift: The Poet Who Loved the War - Ivor Gurney.

Cyflwynwyd tair Gwobr Arbennig BAFTA Cymru ar y noson. Daeth Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, i’r llwyfan i gyflwyno Tlws Siân Phillips i’r newyddiadurwr uchel ei fri o Gymru a Golygydd Dwyrain Canol y BBC, Jeremy Bowen, anrhydedd a gyflwynir yn flynyddol i Gymro neu Gymraes sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig i faes gwneud ffilmiau nodwedd rhyngwladol neu deledu rhwydwaith.

Fe wnaeth y cynhyrchydd a’r awdur o Gymru, Colin Thomas, ddyfarnu Gwobr Gwyn Alf Williams i Green Bay am eu cynhyrchiad The Miners’ Strike - A Personal Memoir by Kim Howells. Rhoddir y Wobr yn flynyddol i raglen neu gyfres o raglenni sydd wedi cyfrannu at ddeall a gwerthfawrogi hanes Cymru.

Cyflwynwyd Gwobr Arbennig BAFTA am Gyfraniad Rhagorol i Deledu i’r actores sy’n annwyl gan lawer, Nerys Hughes, sy’n fwyaf adnabyddus am ei rôl yn y comedi sefyllfa teledu The Liver Birds. Cyflwynwyd y Wobr gan yr actor John Ogwen, a enillodd yr un wobr yn 2004.

I gyd, dyfarnwyd 28 o gategorïau rhaglenni, crefftau a pherfformio eleni i anrhydeddu rhagoriaeth mewn darlledu a chynhyrchu ym maes Ffilm a Theledu yng Nghymru rhwng 1 Ebrill 2013 a 31 Mawrth 2014.