You are here

Cyhoeddi Enwebiadau ar gyfer Gwobrau'r Academi Brydeinig yng Nghymru 2017

1 September 2017
Cymru awards noms 2017 imageBAFTA/

Aberfan: The Green Hollow yn arwain y ffordd gyda saith enwebiad

Pum enwebiad yr un i’r ddrama deledu Sherlock a’r ffilm nodwedd The Lighthouse

Coffáu trychineb Aberfan yn dominyddu’r categorïau ffeithiol gyda phedwar enwebiad yr un i The Aberfan Young Wives Club ac Aberfan - The Fight for Justice

Rydym wedi cyhoeddi’r enwebiadau ar gyfer Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru, sy’n anrhydeddu rhagoriaeth mewn darlledu a chynhyrchu ym myd ffilmiau, gemau a theledu yng Nghymru.
Gwnaed y cyhoeddiad yn fyw am y tro cyntaf ar Facebook gan Elin Fflur.

Bydd y 26ain seremoni’n cael ei chynnal ar 8 Hydref 2017 yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ac fe’i harweinir gan Huw Stephens am y drydedd flwyddyn.

Bydd y seremoni’n cynnwys perfformiadau gan westeion arbennig a chyflwynwyr gwobrau enwog sy’n cynrychioli’r gorau o ddiwydiannau creadigol a chyfryngau’r Deyrnas Unedig.

Eleni, mae 55 cynhyrchiad, sef y nifer fwyaf erioed, yn cael cydnabyddiaeth trwy enwebiadau ar draws yr holl gategorïau cynhyrchu, perfformio, crefft a gemau.

Aberfan: The Green Hollow sy’n arwain y ffordd gyda saith enwebiad ar draws y categorïau Drama Deledu, Cyfarwyddwr: Ffuglen (Pip Broughton), Actores (Eiry Thomas) ac Actor (Michael Sheen, a enillodd y wobr yn 2013). Mae’r ddrama hefyd wedi cael ei henwebu am y gwobrau Awdur (Owen Sheers), Ffotograffiaeth a Goleuo (Steve Lawes) a’r Wobr Torri Trwodd ar gyfer y newydd-ddyfodiad Jenna Robbins.

Mae parhad y cyfresi 35 Diwrnod a Parch yn cwblhau’r categori Drama Deledu.

Mae’r ffilm arswyd The Lighthouse wedi cael pum enwebiad, am Actor (yr enillydd yn 2016 oedd Mark Lewis Jones), Cyfarwyddwr (Chris Crow), Golygu (John Gillanders), Ffotograffiaeth a Goleuo (Alex Metcalfe) ac Effeithiau Arbennig a Gweledol, Teitlau a Hunaniaeth Graffeg.

Mae Sherlock wedi cael pum enwebiad eleni hefyd: Dylunio Cynhyrchiad (ar gyfer yr enillydd blaenorol Arwel Wyn Jones), Golygu (Will Oswald), Effeithiau Arbennig a Gweledol, Teitlau a Hunaniaeth Graffeg a dau enwebiad ar gyfer Colur (Claire Pritchard Jones).

O ganlyniad i’r meini prawf cymhwysedd newydd, ehangach ar gyfer gwobrau eleni, sy’n caniatáu cydnabyddiaeth i bobl ddawnus o Gymru sy’n gweithio ar gynyrchiadau rhwydwaith y Deyrnas Unedig, mae Kimberley Nixon wedi cael ei henwebu am y wobr Actores ar gyfer ei rôl yn Ordinary Lies. Mae Euros Lyn a Catrin Meredydd wedi cael eu henwebu hefyd am y gwobrau Cyfarwyddwr a Dylunio Cynhyrchiad, yn ôl eu trefn, am eu gwaith ar Damilola, Our Loved Boy.

Mae 50 mlwyddiant trychineb Aberfan yn dominyddu’r categorïau ffeithiol, gyda The Aberfan Young Wives Club yn cael ei henwebu am y wobr Cyfarwyddwr: Ffeithiol (Marc Evans), Golygu (Joe Williams), Cerddoriaeth Wreiddiol (James Dean Bradfield) a Ffotograffiaeth Ffeithiol (Baz Irvine). Mae Aberfan – The Fight for Justice wedi cael pedwar enwebiad, am y wobr Rhaglen Ddogfen Unigol, Cyfarwyddwr: Ffeithiol (Iwan England), Ffotograffiaeth Ffeithiol (Stephen Hart) a Chyflwynydd (Huw Edwards).

Yr enwebeion eraill ar gyfer y wobr Actor yw Jack Parry Jones (Moon Dogs) a Dyfan Dwyfor (Y Llyfrgell), a’r enwebeion eraill ar gyfer y wobr Actores yw Carys Eleri (Parch) a Mali Jones (35 Diwrnod).

Yr enwebiadau yn y categori Ffilm Nodwedd/Deledu yw Ellen, A Midsummer Night’s Dream ac Albi a Noa yn Achub yr Iwnifyrs.

Yr enwebiadau yn y categori Gêm, sy’n dychwelyd i’r brif seremoni eleni, yw The Bunker (Wales Interactive/Green Man Gaming), Coffin Dodgers (Wales Interactive) a Creature Battle Lab (Dojo Arcade).

Bydd derbynyddion Gwobr Siân Phillips, a noddir gan Pinewood Studios Group, a Gwobr Arbennig BAFTA am Gyfraniad Eithriadol i Ffilm a Theledu, a noddir gan Sony Technology, yn cael eu cyhoeddi mewn Parti i’r Enwebeion ar 28 Medi.  Bydd y ddwy Wobr yn cael eu cyflwyno yn y seremoni ar 8 Hydref.

Bydd y seremoni’n cael ei ffrydio’n fyw unwaith eto eleni, a bydd digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal gan Gymry Efrog Newydd yn y bar Cymreig Sunken Hundred yn Brooklyn, yng nghwmni Matthew Rhys ac eraill er mwyn i’r rhai hynny yn Efrog Newydd ddathlu ochr yn ochr â’r enwebeion a’r enillwyr. Am y tro cyntaf eleni, bydd BAFTA yn ffrydio’n fyw i Facebook o’r carped coch, a fydd yn galluogi’r cyhoedd i glywed gan y gwesteion wrth iddynt gyrraedd.

Mae’r cwmni ôl-gynhyrchu a chyfleusterau, Gorilla, yn dychwelyd fel Noddwr Allweddol y Digwyddiad ac mae’r noddwyr a’r partneriaid canlynol sy’n dychwelyd wedi cael eu cadarnhau: Mad Dog Casting, Buzz Magazine, Cuebox, Deloitte, Ethos, Hotel Chocolat, Champagne Taittinger, Working Word, ELP, Ken Picton, Princes Gate, Villa Maria, AB Acoustics, Capital Law, Cyngor Caerdydd, Genero, Trosol, S4C, Prifysgol Aberystwyth, Coleg Caerdydd a’r Fro, BBC Cymru Wales, Prifysgol De Cymru, Audi, Sugar Creative, Pinewood Studios Group a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Y noddwyr newydd ar gyfer 2017 yw Cardiff BID, Channel 4, Clarins, Curzon, DRESD, Iceland, Lexon Printing Group, Media Access Solutions a Tiny Rebel.

I cael gwybod mwy am ein holl partneriaid a noddwyr cliciwch yma

Pris tocynnau i fynd i’r derbyniad Siampên Taittinger, y Gwobrau a’r Parti yw £95 yr un, ac maen nhw ar gael i’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol y diwydiant o Swyddfa Docynnau Neuadd Dewi Sant ar 029 20 878500 / www.stdavidshallcardiff.co.uk.

Gall aelodau BAFTA Cymru brynu tocynnau am bris gostyngedig o £65 yr un, a dylai’r rhai sy’n dymuno ymuno â BAFTA Cymru ymweld â’r dudalen hon i gael rhagor o wybodaeth.


Os oedd llai na chwe chais mewn categori penodol ar gyfer y Gwobrau yn 2016, ni ystyriwyd y ceisiadau/categorïau hynny ar gyfer y Gwobrau y flwyddyn honno, ac fe’u cariwyd drosodd i’w hystyried yng Ngwobrau 2017. Gallai hyn olygu bod unigolion yn cael eu henwebu sawl gwaith am yr un rhaglen ond o fewn cyfres wahanol.

Mae’r enwebiadau’n gywir ar yr adeg argraffu. Mae BAFTA yn cadw’r hawl i newid yr enwau a restrir ar unrhyw adeg hyd at 8 Hydref 2017


Rhestr lawn o Enwebeion Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru 2017

GWOBR SIÂN PHILLIPS (a noddir Pinewood Studios Group)
Fe’i cyhoeddir ar 28 Medi

CYFRANIAD EITHRIADOL I FFILM A THELEDU (a noddir gan Sony Technology)
Fe’i cyhoeddir ar 28 Medi

ACTOR (a noddir gan AUDI)

DYFAN DWYFOR fel Dan YN Y Llyfrgell/The Library Suicides
JACK PARRY JONES fel Michael YN Moon Dogs
MARK LEWIS JONES fel Thomas Griffiths YN The Lighthouse
MICHAEL SHEEN fel Dave Evans YN Aberfan: The Green Hollow

ACTORES (a noddir gan Iceland)

CARYS ELERI fel Myfanwy YN Parch
EIRY THOMAS fel Anne (59) YN Aberfan: The Green Hollow
KIMBERLEY NIXON fel Holly YN Ordinary Lies
MALI JONES fel Nia YN 35 Diwrnod

GWOBR TORRI TRWODD (a noddir gan Goleg Caerdydd a’r Fro)

JENNA ROBBINS ar gyfer Aberfan: The Green Hollow
VIVIANE PEOC’H ar gyfer Nain Stori Wir
SION JENKINS ar gyfer Sion Jenkins

RHAGLEN BLANT (a noddir gan Cardiff BID)

DEIAN A LOLI
LLOND CEG
TEULU NI

DYLUNIO GWISGOEDD (a noddir gan Bluestone)

DAWN THOMAS-MONDO ar gyfer Y Llyfrgell/The Library Suicides
RAY HOLMAN ar gyfer A Midsummer Night’s Dream
SARAH ARTHUR ar gyfer Lady Chatterley’s Lover

CYFARWYDDWR: FFEITHIOL (a noddir gan Capital Law)

ARWYN EVANS ar gyfer Iestyn Garlick: Stori Mabwysiadu
IWAN ENGLAND ar gyfer Aberfan – The Fight for Justice
JONNY OWEN ar gyfer Don’t Take Me Home
MARC EVANS ar gyfer The Aberfan Young Wives Club

CYFARWYDDWR: FFUGLEN (a noddir gan Champagne Taittinger)

CHRIS CROW ar gyfer The Lighthouse
EUROS LYN ar gyfer Damilola, Our Loved Boy
EUROS LYN ar gyfer Y Llyfrgell/The Library Suicides
PIP BROUGHTON ar gyfer Aberfan: The Green Hollow

GOLYGU (a noddir gan Gorilla)

CAROLINE LYNCH-BLOSSE ar gyfer Beti and David: Lost for Words
JOE WILLIAMS ar gyfer The Aberfan Young Wives Club
JOHN GILLANDERS ar gyfer The Lighthouse
WILL OSWALD ar gyfer Sherlock

RHAGLEN ADLONIANT (a noddir gan Sugar Creative)

CANTATA MEMORIA
CITY OF THE UNEXPECTED
TAITH BRYN TERFEL – GWLAD Y GÂN
Y SALON

CYFRES FFEITHIOL (a noddir gan Villa Maria)

#SWN10
ARFORDIR CYMRU: BAE CEREDIGION
COAST & COUNTRY
THE GREATEST GIFT

FFILM NODWEDD/DELEDU (a noddir gan Curzon)

ALBI A NOA YN ACHUB YR IWNIFYRS
ELLEN
A MIDSUMMER NIGHT’S DREAM

GÊM (a noddir gan Ddylunio Gemau ym Mhrifysgol Glyndŵr)

THE BUNKER
COFFIN DODGERS
CREATURE BATTLE LAB

DARLLEDIAD BYW

BBC YOUNG MUSICIAN 2016 GRAND FINAL
CATCHING THE ABUSERS: A CRIMEWATCH SPECIAL
FFEINAL BAND CYMRU 2016

COLUR A GWALLT (a noddir gan Ken Picton)

CLAIRE PRITCHARD-JONES ar gyfer Lady Chatterley’s Lover
CLAIRE PRITCHARD-JONES ar gyfer Sherlock (The Abominable Bride)
CLAIRE PRITCHARD-JONES ar gyfer Sherlock (The Lying Detective)

NEWYDDION A MATERION CYFOES (a noddir gan Working Word)

CYSGOD CHERNOBYL/THE SHADOW OF CHERNOBYL (Y BYD AR BEDWAR)
LIVING WITH DEMENTIA – CHRIS’S STORY
MICHAEL SHEEN: THE FIGHT FOR MY STEEL TOWN
WALES AT SIX (21/10/2016)

CERDDORIAETH WREIDDIOL (a noddir gan Lexon Printing)

BENJAMIN TALBOTT AND VICTORIA ASHFIELD - Galesa
JOHN HARDY MUSIC - Y Gwyll
JAMES DEAN BRADFIELD – The Aberfan Young Wives Club

FFOTOGRAFFIAETH A GOLEUO (a noddir gan ELP)

ALEX METCALFE - The Lighthouse
RICHARD STODDARD – Yr Ymadawiad
STEVE LAWES – Aberfan: The Green Hollow

FFOTOGRAFFIAETH FFEITHIOL (a noddir gan Genero)

BAZ IRVINE – The Aberfan Young Wives Club
PRODUCTION TEAM – Police 24/7
ROB TAYLOR – Extreme Wales with Richard Parks
STEPHEN HART – Aberfan – The Fight for Justice

CYFLWYNYDD (a noddir gan Deloitte)

BETI GEORGE – Beti and David: Lost for Words
HUW EDWARDS – Aberfan – The Fight for Justice
IESTYN GARLICK – Iestyn Garlick: Stori Mabwysiadu
RICHARD PARKS – Extreme Wales with Richard Parks

DYLUNIO CYNHYRCHIAD (a noddir gan DRESD)

ARWEL WYN JONES - Sherlock
CATRIN MEREDYDD – Damilola, Our Loved Boy
RICHARD CAMPLING – Don’t Knock Twice

FFILM FER (a noddir gan Brifysgol De Cymru)

THE CORPSE SERIES
LOCKED IN MY BODY
MEAT ON BONES
THIS FAR UP

RHAGLEN DDOGFEN UNIGOL (a noddir gan Brifysgol Aberystwyth)

ABERFAN – THE FIGHT FOR JUSTICE
DAN SNOW ON LLOYD GEORGE: MY GREAT-GREAT-GRANDFATHER
HILLSBOROUGH: YR HUNLLEF HIR
IESTYN GARLICK: STORI MABWYSIADU

SAIN (a noddir gan AB Acoustics)

Y TÎM CYNHYRCHU – A Midsummer Night’s Dream
Y TÎM CYNHYRCHU – Damilola, Our Loved Boy
Y TÎM CYNHYRCHU – Decline and Fall

EFFEITHIAU ARBENNIG A GWELEDOL (a noddir gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant)

DOGS OF ANNWN LTD – The Lighthouse
PAUL WRIGHT – The Chamber
Y TÎM CYNHYRCHU – Sherlock

DRAMA DELEDU (a noddir gan Media Access Solutions)

35 DIWRNOD
ABERFAN: The Green Hollow
PARCH

AWDUR (a noddir gan The Social Club. Agency)

FFLUR DAFYDD – Y Llyfrgell/The Library Suicides
JAMES BUTTON – The Corpse Series
OWEN SHEERS – Aberfan: The Green Hollow