You are here

Cyhoeddi enwebiadau ar gyfer Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru 2015

25 August 2015
Bafta Cymru mask and backdrop

Heddiw, mae’r Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu yng Nghymru, sef BAFTA Cymru, wedi cyhoeddi’r enwebiadau ar gyfer 24ain Gwobrau blynyddol yr Academi Brydeinig yng Nghymru, sy’n anrhydeddu rhagoriaeth mewn darlledu a chynhyrchu ym maes ffilmiau a theledu yng Nghymru.

  • Set Fire to the Stars yn arwain y ffordd gyda saith enwebiad
  • Da Vinci’s Demons yn dilyn gyda chwech
  • Doctor Who, Jack to a King ac Y Gwyll/Hinterland yn derbyn pump yr un
  • Huw Stephens yn cyflwyno’r seremoni am y tro cyntaf

Cliciwch yma i ddarllen rhestr yr holl enwebeion >


Caerdydd, 26 Awst 2015: Heddiw, mae’r Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu yng Nghymru, sef BAFTA Cymru, wedi cyhoeddi’r enwebiadau ar gyfer 24ain Gwobrau blynyddol yr Academi Brydeinig yng Nghymru, sy’n anrhydeddu rhagoriaeth mewn darlledu a chynhyrchu ym maes ffilmiau a theledu yng Nghymru.

Cynhelir y seremoni nos Sul 27 Medi yn Neuadd Dewi Sant, ac fe’i cyflwynir gan Huw Stephens.

Rhaglenni drama a ffilmiau sydd amlycaf, gyda’r ffilm fywgraffiadol am Dylan Thomas, Set Fire to the Stars, yn arwain y ffordd gyda saith enwebiad; Da Vinci’s Demons gyda chwe enwebiad a Doctor Who ac Y Gwyll/Hinterland gyda phum enwebiad yr un.

Enwebwyd Set Fire to the Stars ar gyfer Ffilm / Ffilm Deledu; Cerddoriaeth Wreiddiol ar gyfer Gruff Rhys; Colur a Gwallt; Ffotograffiaeth a Goleuo; Awdur; Dylunio Gwisgoedd a Dylunio Cynhyrchu.

Mae’r ffilm ddogfen am bêl-droed Dinas Abertawe, Jack to a King, hefyd wedi derbyn pum enwebiad.

Yn y categori Actor, enwebwyd Peter Capaldi am ei berfformiad fel y Doctor Who newydd, Rhys Ifans am ei rôl yn Dan y Wenallt ac, am yr ail flwyddyn yn olynol, Richard Harrington am ei rôl fel DCI Tom Mathias yn Y Gwyll/Hinterland. Yn y categori Actores, mae cyd-seren Harrington yn Hinterland, sef Mali Harries, yn derbyn ei hail enwebiad, wrth ochr Rhian Morgan am ei pherfformiad yn y ddrama ysgol Gwaith/Cartref a Jenna Coleman am ei rôl fel Clara Oswald yn Doctor Who.

Bydd cystadleuaeth frwd am y wobr Drama Deledu unwaith eto eleni gydag enillydd 2014, sef Y Gwyll/Hinterland, yn cystadlu yn erbyn Under Milk Wood ac Y Streic a Fi - y ddrama gyntaf i’w hysgrifennu ar gyfer y teledu gan y bardd/awdur Gwyneth Lewis. Mae Lewis wedi’i henwebu yn y categori Awdur hefyd, wrth ochr Roger Williams ar gyfer TIR a’r Tîm Cynhyrchu ar gyfer Set Fire to the Stars.

Cynrychiolir rhaglenni ffeithiol gan Michael Sheen’s Valleys Rebellion, Jamie Baulch: Looking for my Birth Mum a Malcolm Allen: Cyfle Arall ar gyfer Rhaglen Ddogfen Unigol. Yn cystadlu yn y categori Cyfres Ffeithiol fydd RAF Fighter Pilot: Rhod Gilbert’s Work Experience, Adam Price a Streic y Glowyr a Great Welsh Writers: Danny Abse.

Mae’r categori Cyflwynydd yn cynnwys enwebiadau ar gyfer enillydd blaenorol gwobr BAFTA Cymru, sef Michael Sheen, ar gyfer Michael Sheen’s Valleys Rebellion, Rhod Gilbert ar gyfer Rhod Gilbert’s Work Experience a’r bardd Owen Sheers ar gyfer Dylan Thomas, A Poet’s Guide.

Yr enwebeion yn y categori Ffilm/Ffilm Deledu yw Jack to a King: The Swansea Story, Set Fire to the Stars a A Poet in New York.

I gydnabod gweithwyr proffesiynol sy’n dod i’r amlwg sydd wedi cael effaith sylweddol ar deledu neu ffilm yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r seremoni’n cynnwys y Wobr Torri Drwodd. Yr enwebeion yw: Christian Britten ar gyfer Fog of Sex: Stories from the Frontline of Student Sex Work; Clare Sturges ar gyfer Sexwork, Love and Mr Right ac Owen Dafis ar gyfer Gohebwyr: Owen Dafis.

Bydd Gwobr Siân Phillips, y cyhoeddir y sawl a fydd yn ei derbyn yn y Parti Enwebeion ar 17 Medi, a Gwobr Arbennig BAFTA ar gyfer Cyfraniad Arbennig i Deledu, yn cael eu cyflwyno yn y seremoni.

Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru: “Bu’n flwyddyn eithriadol ar gyfer pobl ddawnus sy’n gweithio ym myd teledu a ffilmiau yng Nghymru. Rydym wedi gweld amrywiaeth ragorol o raglenni ac unigolion wedi’u cynrychioli ar draws pob categori – yn y ddwy iaith, ac o’r rhai sy’n dechrau ar eu gyrfaoedd i’r rhai profiadol iawn. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’n partneriaid a’n noddwyr ar noson wych arall o ddathlu.”

Mae Gorilla, sef cwmni ôl-gynhyrchu a chyfleusterau, yn dychwelyd fel Noddwr Digwyddiad Allweddol, a chadarnhawyd Sony, Manorhaus Ruthin, Maes Awyr Cymru Caerdydd, MAC, Ken Picton, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Denmaur Papers a Villa Maria, fel noddwyr newydd yn ymuno a’r noddwyr sydd yn parhau flwyddyn ar ôl blwyddyn i gefnogi y diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru.

Bydd y seremoni’n cynnwys perfformiadau gan westeion arbennig a chyflwynwyr gwobrau enwog sy’n cynrychioli’r gorau yn niwydiannau creadigol a chyfryngau’r Deyrnas Unedig.

Dywedodd Huw Stephens: “Mae’r Gwobrau Academi Brydeinig yng Nghymru yn ddathliad o’r holl waith caled sydd yn mynd i fewn i greu rhaglenni a ffilmiau arbennig. Dwi wrth fy modd fy mod i’n cynnal y seremoni’r flwyddyn yma, ar y 27ain o Fedi, a dwi’n edrych ymlaen at ddarganfod pwy yw’r enillwyr ar y noson gyda phawb arall.”

“Mae’r enwebiadau o safon uchel iawn, a mae’n wych i weld rhaglenni Saesneg a Chymraeg yn derbyn y cydnybyddiaeth mae nhw’n haeddu.  Ar yr noson, bydd y seremoni yn llawn sêr sydd o flaen a thu cefn y camera, yn ogystal a rheinu sy’n cychwyn yn y diwydiant, ag wrth gwrs, mae croeso i gwylwyr y sioeau sydd wedi ei enwebu ddod i ymuno a’r parti.”

Eleni mae tocynnau cyhoeddus ychwanegol ar gael ar gyfer y seremoni am £20, a fydd yn cynnwys llyfryn Gwborau argraffiad cyfyngedig a chynigion ar gyfer canol y ddinas a chlybiau.

Gellir prynu tocynnau o Swyddfa Docynnau Neuadd Dewi Sant
rhif ffôn: 029 20 878500 / www.stdavidshallcardiff.co.uk


Ynglyn â BAFTA

Mae’r Academi Celfyddydau Ffilm a Theledu Brydeinig (BAFTA) yn elusen annibynnol sy’n cefnogi, datblygu a hyrwyddo celfyddydau delwedd symudol trwy amlygu a gwobrwyo rhagoriaeth, ysbrydoli ymarferwyr a rhoi budd i’r cyhoedd. Yn ogystal â’i seremonïau gwobrwyo, mae BAFTA yn cynnal rhaglen ryngwladol o ddigwyddiadau a mentrau dysgu drwy gydol y flwyddyn sy’n cynnig mynediad unigryw at rai o’r bobl ddawnus fwyaf ysbrydoledig yn y byd trwy weithdai, dosbarthiadau meistr, ysgoloriaethau, darlithiau a chynlluniau mentora, gan gysylltu â chynulleidfaoedd o bob oedran a chefndir ar draws y Deyrnas Unedig, Los Angeles ac Efrog Newydd.

Mae BAFTA Cymru yn ymestyn cenhadaeth elusennol yr Academi ar draws y Deyrnas Unedig i gefnogi cymunedau creadigol Cymru. Uchafbwynt calendr digwyddiadau BAFTA yng Nghymru yw seremoni flynyddol Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru, sef llwyfan annibynnol sy’n arddangos y gwaith sydd wir yn adlewyrchu’r gorau yn y wlad ym myd ffilmiau, teledu a gemau, gan wneud gwahaniaeth i’r rhai sy’n cynhyrchu gwaith creadigol yn ogystal â’r rhai sy’n ei wylio.

Mae BAFTA yn dibynnu ar incwm o danysgrifiadau aelodaeth, rhoddion unigol, ymddiriedolaethau, sefydliadau a phartneriaethau corfforaethol i gefnogi ei gwaith allgymorth. I gael mynediad at y meddyliau creadigol gorau ym myd cynhyrchu ffilm, teledu a gemau, ewch i www.bafta.org/guru. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.bafta.org.

@BAFTACymru

#CymruAwards


Rhestr Noddwyr wedi’i gadarnhau 2015 

Aberystwyth University

AB Acoustics

AGFX

AUDI

BBC Cymru Wales

Bluestone

Buzz Magazine

Capital Law

Cardiff & Vale College

Cardiff Council

Cardiff Wales Airport

Champagne Tattinger

Commercial Radio Systems

Cuebox

Deloitte

Denmaur

ELP

Ethos / Dafydd Thomas

First Great Western

Gorilla

HMV

Holiday Inn Express

Hotel Chocolat

Ken Picton Salon

MAC

Manorhaus

National Screen & Sound Archive of Wales

Pinewood

MR PRODUCER

Princes Gate

Royal Welsh College of Music and Drama

S4C

Sony

St David's Shopping Centre

St David’s Hall

St David's Hotel

Trosol

University of Wales Trinity Saint David

Villa Maria