You are here

Cadarnhau'r cyflwynwyr ar gyfer Gwobrau'r Academi Brydeinig yng Nghymru 2020

19 October 2020
Event: British Academy Cymru AwardsDate: Sunday 25 October 2020Venue: Boom Studio, Cardiff Bay, Cardiff, WalesHost: Alex Jones-BAFTA/Polly Thomas

Catherine Zeta-Jones, Katherine Jenkins, Asif Kapadia, George Lucas a Tom Ellis ymhlith y cyflwynwyr a gadarnhawyd yng Ngwobrau Cymru ar 25 Hydref

Gwyliwch sioe’r gwobrau ar sianeli cyfryngau cymdeithasol BAFTA o 19:00 GMT ar 25 Hydref

 

Heddiw, mae’r Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu yng Nghymru, sef BAFTA Cymru, wedi datgelu enwau’r cyflwynwyr a’r gwesteion arbennig eraill a fydd yn cymryd rhan yng Ngwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru ddydd Sul, sy’n cael ei ffrydio am 19:00 GMT ar sianeli YouTube, Twitter a Facebook BAFTA.

Cyhoeddwyd yn flaenorol y bydd y seremoni yng ngofal y cyflwynydd teledu Alex Jones (The One Show), a bydd y cyflwynwyr gwobrau a fydd yn ymuno â hi trwy gyswllt fideo yn cynnwys y canlynol:

Alexandra Riley (The End of the F'ing World, In My Skin)
Amber Davies (Love Island, 9 to 5 The Musical)
Asif Kapadia (The Warrior, Senna, Amy)
Catherine Zeta-Jones (Chicago, The Mask of Zorro)
Dafne Keen (His Dark Materials, Logan)
Jo Hartley (This Is England, Eddie the Eagle, After Life, In My Skin)
y gantores glasurol Katherine Jenkins
Lin Manuel Miranda (Hamilton, Mary Poppins Returns, His Dark Materials)
Patricia Allison (Sex Education)
Tom Ellis (Lucifer, Miranda)
Tom Rhys Harries (White Lines, Hunky Dory).

Fel y cyhoeddwyd yn flaenorol, bydd y Wobr Cyfraniad Rhagorol i Ffilm a Theledu yn cael ei chyflwyno i’r Cyfarwyddwr Celf/Dylunydd Cynhyrchu Les Dilley, a bydd yn cynnwys negeseuon arbennig gan George Lucas, James Cameron, John Landis, Micky MacPherson, Mimi Leder a Syr Ridley Scott.

Mae’r noddwyr digwyddiad a’r partneriaid canlynol wedi cael eu cadarnhau: Audi UK, Bad Wolf, BBC Cymru Wales, Boom, Buzz Magazine, Cyngor Caerdydd, Champagne Taittinger, Channel 4, Cuebox, Decade 10, Deloitte, Whitelight, Gorilla, ITV Wales, San Pellegrino/Acqua Panna, S4C, Trosol, Villa Maria a Working Word.

I wylio Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru, ewch i sianeli YouTube, Twitter neu Facebook BAFTA.