You are here

Abi Morgan a John Rhys Davies i’w hanrydeddu yng Ngwobrau'r Academi Brydeinig yng Nghymru

27 September 2017
John Rhys DaviesBAFTA/

Yr awdur sydd wedi ennill BAFTA, sef Abi Morgan, ac actor mawr ei glod Lord of the Rings, sef John Rhys Davies, wedi’u henwi’n dderbynyddion gwobrau

Heddi rydym wedi datgelu pwy fydd yn derbyn Gwobrau Arbennig yng Ngwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru eleni, a gynhelir ar 8 Hydref 2017, fel y cyhoeddwyd ym Mharti Enwebeion BAFTA Cymru heno.

Yr awdur Abi Morgan, sydd wedi ennill BAFTA (The Iron Lady, Shame), fydd 13eg derbynnydd Gwobr Siân Phillips. Ganwyd Morgan yng Nghaerdydd, ac mae’n cael ei hanrhydeddu â’r wobr – a noddir gan Pinewood – fel Cymraes sydd wedi gwneud cyfraniad arwyddocaol at wneud ffilmiau nodwedd a theledu rhyngwladol.

Mae derbynyddion blaenorol Gwobr Siân Phillips, a ddewisir gan Bwyllgor BAFTA Cymru, wedi cynnwys yr artist colur Siân Grigg, y cyfarwyddwr Euros Lyn, yr actor Rhys Ifans, yr awdur Russell T Davies, yr actor Michael Sheen, yr actor Ioan Gruffudd, yr awdur/actores/cynhyrchydd Ruth Jones, yr actor Rob Brydon, yr actor Matthew Rhys, yr actor Robert Pugh, y cynhyrchydd Julie Gardner a’r newyddiadurwr Jeremy Bowen.

Bydd Gwobr Arennig BAFTA Cymru am Gyfraniad Eithriadol i Ffilm a Theledu, a noddir gan SONY Technology, yn cael ei chyflwyno i’r actor a’r cynhyrchydd mawr ei fri, John Rhys Davies. Mae’n adnabyddus i lawer fel Gimli yn Lord of the Rings, neu fel cymar doniol Indiana Jones, sef Sallah, mewn dwy o ffilmiau antur Indiana Jones Paramount, ac mae John wedi ymddangos mewn dros 150 o sioeau teledu a ffilmiau ers y '70au cynnar.

Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru: “Mae Pwyllgor BAFTA Cymru yn cydnabod doniau Abi Morgan a’i chyfraniad enfawr at amrywiaeth eang o ffilmiau a rhaglenni teledu, gan gynnwys The Iron Lady gyda Meryl Streep fel Margaret Thatcher a Shame, a ysgrifennwyd gyda Steve McQueen. Enillodd ei gwaith ar The Iron Lady enwebiad BAFTA iddi am Sgript Ffilm Wreiddiol Orau, ac enillodd ei gwaith ar Shame enwebiad BAFTA iddi am Ffilm Brydeinig Eithriadol. Aeth ymlaen i ysgrifennu The Invisible Woman ar gyfer BBC Films, gyda Ralph Fiennes yn cyfarwyddo ac yn chwarae’r brif ran, a Suffragette ar gyfer Film4 yn 2015. Enillodd Emmy yn 2013 am y ddrama  ystafell newyddion wedi’i gosod yn y 1950au, The Hour.

Rydym hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at ddathlu gyrfa helaeth a chyfraniad parhaus yr actor sydd wedi derbyn enwebiad Emmy, John Rhys Davies yn ystod y seremoni, gan edrych yn ôl ar ei waith o 1964 i’r presennol.”

Mae Parti Enwebeion BAFTA Cymru, lle y gwnaed y cyhoeddiad, yn dathlu’r enwebeion ar gyfer Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru sydd ar ddod ar draws categorïau cynhyrchu ffilm a theledu, crefft a pherfformiad yng Nghymru.

Daeth unigolion a chwmnïau sy’n cynrychioli’r cynyrchiadau enwebedig at ei gilydd ym Mharti Enwebeion BAFTA Cymru, a gynhaliwyd yn y lleoliad newydd Cornerstone ac a noddwyd gan Mad Dog Casting. Mwynhaodd y gwesteion fwyd gan Spiros Fine Dining sydd wedi ennill gwobrau, a siampên gan bartner BAFTA, sef Champagne Taittinger.

Roedd y gwesteion a oedd yn bresennol ym Mharti Enwebeion BAFTA Cymru yn cynnwys enwebeion ar gyfer y Wobr Actores, sef Carys Eleri, Eiry Thomas, Kimberley Nixon, Mali Jones a; enwebeion ar gyfer y Wobr Actor, sef Dyfan Dwyfor, Jack Parry Jones a Mark Lewis Jones, yn ogystal â’r awduron Fflur Dafydd ac Owen Sheers. 

Roedd gwesteion eraill yn cynnwys Jonny Owen a Vicky McClure; Connie Fisher, Caryl Parry Jones; ac enwebeion ar gyfer gwobrau crefft yn gysylltiedig â Sherlock; Damilola, Our Loved Boy ac A Midsummer Night’s Dream ac eraill.

Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i ymuno â’r enwebeion a’r gwesteion arbennig yng ngwobrau eleni. Mae tocynnau ar gael ar gyfer y derbyniad Siampên, y seremoni a’r parti yn y lleoliad newydd – gwesty Radisson Blu – am £95, sy’n cynnwys llyfryn Gwobrau unigryw.

Cyhoeddir manylion yr enwebeion a’r gwesteion a fydd yn bresennol yn y Gwobrau yn ystod wythnos y digwyddiad a gynhelir ar 8 Hydref.

Bydd y seremoni’n cael ei ffrydio’n fyw i dudalen Facebook BAFTA Cymru unwaith eto eleni, a bydd digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal yn Efrog Newydd yn y bar Cymreig Sunken Hundred yn Brooklyn, yng nghwmni Matthew Rhys ac eraill. Am y tro cyntaf eleni, bydd BAFTA hefyd yn ffrydio’n fyw o’r carped coch, a fydd yn galluogi gwylwyr i glywed gan y gwesteion wrth iddynt gyrraedd.

Mae’r cwmni ôl-gynhyrchu a chyfleusterau, Gorilla, yn dychwelyd fel Noddwr Allweddol y Digwyddiad ac mae’r noddwyr a’r partneriaid canlynol sy’n dychwelyd wedi cael eu cadarnhau: Mad Dog Casting, Buzz Magazine, Cuebox, Deloitte, Ethos, Hotel Chocolat, Champagne Taittinger, Working Word, ELP, Ken Picton, Princes Gate, Villa Maria, AB Acoustics, Capital Law, Genero, Trosol, S4C, Prifysgol Aberystwyth, Coleg Caerdydd a’r Fro, Cyngor Caerdydd, BBC Cymru Wales, Prifysgol De Cymru, Audi, Sugar Creative, Pinewood Studios Group a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Y noddwyr newydd ar gyfer 2017 yw Cardiff BID, Channel 4, Clarins, Curzon, DRESD, Iceland, Lexon Printing Group, Media Access Solutions a Tiny Rebel.

Gellir prynu tocynnau o Swyddfa Docynnau Neuadd Dewi Sant 029 20 878444