You are here

Lleoliad Newydd ar gyfer Parti Gwobrau'r Academi Brydeinig yng Nghymru 2017

24 August 2017
BAFTA Cymru Awards, Cardiff, Wales, UK - 02 Oct 2016Thomas/BAFTA/REX/Shutterstock

Tocynnau ar werth i’r cyhoedd

Heddiw rydym wedi cyhoeddi y bydd y dathliadau ar ôl Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru eleni yn cael eu cynnal yng ngwesty’r Radisson Blu, sydd newydd gael ei adnewyddu, am y tro cyntaf.

Bydd y 26ain seremoni, a ragflaenir gan groesawu gwesteion ar y carped coch a derbyniad Siampên Taittinger, yn cael ei chynnal ar 8 Hydref 2017 yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, ac fe’i harweinir unwaith eto gan y cyflwynydd Huw Stephens. Bydd y seremoni’n cynnwys perfformiadau gan westeion arbennig a chyflwynwyr gwobrau enwog sy’n cynrychioli’r gorau o ddiwydiannau creadigol a chyfryngau’r Deyrnas Unedig.

Ar ôl cyhoeddi’r enillwyr mewn 26 categori, bydd y gwesteion yn teithio’r pellter byr i westy’r Radisson Blu, sydd newydd gael ei adnewyddu, i barhau i ddathlu.

Yn aros iddynt, bydd y llawr cyntaf wedi’i neilltuo’n arbennig i ddathliad mwyaf y flwyddyn o’r bobl fwyaf dawnus yn y cyfryngau creadigol. Bydd y parti pedair awr yn cynnig adloniant gan fand swing Rhys Taylor; setiau arbennig gan DJ Snooze; ystafell gasino a gemau gyda chwrw Tiny Rebel; lolfa Villa Maria a Siampên Taittinger; a choctels gin o ddistyllfa Gymreig Da Mhile. Yn ogystal, mae prif ben-cogydd y Radisson Blu wedi creu bwffe arbennig i’r gwesteion gan ddefnyddio cynhwysion o Gymru, a fydd yn rhoi’r nerth iddynt barhau i ddawnsio a rhwydweithio wrth i’r noson fynd rhagddi.

I ddathlu dychweliad y Gwobrau Gemau i seremoni Gwobrau BAFTA Cymru am y tro cyntaf mewn chwe blynedd, mae partneriaid BAFTA Cymru, sef Sugar Creative, wedi creu gêm arbennig i’r gwesteion ei chwarae gyda setiau pen rhith-realiti.

Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru; “Ar ôl ychydig flynyddoedd o gynnal y parti yn yr un lleoliad â’r Gwobrau, roedden ni’n teimlo ei bod hi’n bryd cynnig parti ar raddfa fwy i’r gwesteion, ac mae’r Radisson Blu gerllaw yn rhoi’r lleoliad perffaith i ni ehangu a chynyddu’r hyn y gallwn ei gynnig i’r enwebeion, yr enillwyr a’r gwesteion ar noson y Gwobrau. Rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed barn gwesteion am y newidiadau i’n noson o ddathlu gwaith yr unigolion dawnus hyn.”

Dywedodd Jean-Marc Poumel o’r Radisson Blu: “Mae’n dipyn o fraint i fod y lleoliad swyddogol ar gyfer y Dathliad Ôl-seremoni, ac mae ein tîm ni wedi gweithio’n galed iawn gyda thîm BAFTA i gynnal y digwyddiad eiconig ac unigryw hwn yn ein sefydliad.

“Mae hyn yn cyd-fynd â’n hymdrechion i gofleidio diwylliant Cymru a phortreadu’r Gwesty fel llysgennad balch ar gyfer ein cymuned Gymreig, gan gynnwys amrywiaeth eithriadol o fwydydd bys a bawd a wnaed gan ddefnyddio cynnyrch Cymreig a grëwyd gan ein Cogydd Gweithredol, Mattias Wenngren, a’i dîm.

“Rydym ni’n hyderus y byddwn yn cyflwyno digwyddiad llwyddiannus sy’n deilwng o holl enillwyr, enwebeion a gwesteion Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru i atgyfnerthu ein partneriaeth barhaus.”

 

Pris tocynnau i fynd i’r derbyniad Siampên Taittinger, y Gwobrau a’r Parti yw £95 yr un, a gall aelodau BAFTA Cymru brynu tocynnau am bris gostyngedig o £65 yr un, a dylai’r rhai sy’n dymuno ymuno â BAFTA Cymru ymweld â’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth.

I brynu tocyn ar gyfer y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol y diwydiant ewch i Swyddfa Docynnau Neuadd Dewi Sant ar 029 20 878500 / www.stdavidshallcardiff.co.uk.

Bydd yr enwebeion ar gyfer 26ain Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi ar 1 Medi.